Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Jacqui 40 mlynedd o brofiad proffesiynol ac academaidd ym maes Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch a Rheolaeth Digwyddiadau. Gyda rhwydweithiau byd-eang helaeth mae hi wedi datblygu’r rhaglenni lleoliadau a theithiau maes rhyngwladol ar gyfer Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS.

Cyn mynd i’r byd academaidd, bu Jacqui yn gweithio dramor ym maes Teithio a Thwristiaeth, ac mewn Digwyddiadau. Mae’n dal i ymgymryd â gwaith ymgynghori proffesiynol ac yn cyflwyno mewn Cynadleddau.

Mae Jacqui wedi cymryd dau gyfnod sabothol - gweithio am 2 flynedd fel Cyfarwyddwr Challenger Sports yn y DU yn rheoli recriwtio, digwyddiadau a theithio rhyngwladol, a 2 flynedd yn datblygu a chyflwyno’r strategaeth hyfforddi a gwasanaethau gwesteion ar gyfer agor Canolfan Wyliau Bluestone gwerth £71m.

Yn 2025 arweiniodd Jacqui y cais llwyddiannus i PCYDDS gael ei chydnabod yn Ganolfan Rhagoriaeth y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant, Bwrdd Rhanbarthol Sefydliad Lletygarwch Cymru, Cydlynydd ABTA, Llysgennad Academaidd ar gyfer Meet in Wales, a Chynghorydd Teithio Arbenigol ar gyfer BBC X-Ray. 

Pynciau Arbenigol

  • Lleoliadau Rhyngwladol ac Interniaethau Graddedigion
  • Profiadau Astudiaethau Maes Rhyngwladol
  • Gweithrediadau Teithio Rhyngwladol
  • Rheolaeth Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang
  • Rheoli a Marchnata Cyrchfannau Byd-eang
  • Rheolaeth Argyfwng
  • Rheolaeth Atyniadau a Gweithrediadau
  • Rheolaeth Lletygarwch a Gwasanaethau Gwesteion

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

A hithau’n rheoli'r portffolio Twristiaeth a Digwyddiadau a Lleoliadau, mae gan Jacqui gysylltiadau cryf â diwydiant yn fyd-eang yn cynnwys Aspen, Disney, Ritz Carlton, Royal Caribbean, a Yummy Jobs, gan helpu graddedigion i sicrhau gyrfaoedd llwyddiannus iawn.

Mae Jacqui wedi datblygu profiadau dysgu rhyngwladol gan drefnu dros 25 o deithiau myfyrwyr i Colorado, Florida, Vancouver, Malaysia, Qatar, yr Aifft, Sbaen, Ffrainc, a'r Swistir.

Er 2010 mae Jacqui wedi datblygu addysg Digwyddiadau yn PCYDDS gan gynnwys cael myfyrwyr i drefnu cynadleddau yn y Senedd, diwrnod rasys yn Ffos Las, digwyddiad Future You Cymru yr ITT, a chyflwyno Parti Tŷ Arena Abertawe.

Sicrhaodd Jacqui bartneriaeth PCYDDS gydag ABTA yn 2016, y Sefydliad Lletygarwch yn 2018, a'r Sefydliad Teithio a Thwristiaeth yn 2022.

Mae Jacqui yn defnyddio technoleg dysgu Trochol i fyfyrwyr gael profiad o reoli senarios argyfwng yn rhithwir a datblygu eu sgiliau Rheoli Atyniadau. Sicrhaodd hefyd gyllid grant gan GWR i fyfyrwyr ymchwilio a dylunio prosiectau teithio cynaliadwy a chynhwysol "All Aboard".

Cymwysterau

  • MA Rheolaeth Chwaraeon a Hamdden Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
  • BA (Anrh) Gwyddorau Cymdeithasol (Gwleidyddiaeth) Prifysgol Gorllewin Lloegr

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Aelod o'r Sefydliad Lletygarwch (Bwrdd Rhanbarthol Cymru - Arweinydd Aelodaeth)
Aelod o'r Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant)
Cydlynydd Aelodaeth Prifysgol ABTA

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Uwch Gymrawd yr AAU

Gwobr Cyflogadwyedd a Dysgu Bywyd Go Iawn Nexus 2025

Cyrraedd y rownd derfynol yn 2025, 2024 a 2022 am y Rhaglen Addysg Orau a Thîm Datblygu Talent y Flwyddyn - Gwobrau Byd-eang y Sefydliad Lletygarwch

Cwrs Digwyddiadau Gorau 2024 (Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol) - Gwobr Digwyddiadau Cenedlaethol

Digwyddiad Myfyrwyr Gorau 2024 (Parti Tŷ Abertawe wedi'i gynnal gan fyfyrwyr Digwyddiadau PCYDDS - Gwobrau Digwyddiadau Cenedlaethol

Cyrraedd Rownd Derfynol 2024 Gwobrau Partneriaeth Digwyddiadau Gorau a Digwyddiad Rhanbarthol Gorau

Digwyddiad Myfyrwyr Gorau 2023 (Future You Cymru yr ITT ) yn y Gwobrau Digwyddiadau Cenedlaethol

Enwebiad personol a chyrraedd y Rownd Derfynol 2022 am Gyfraniad Eithriadol i'r Diwydiant Lletygarwch yng Ngwobrau'r Sefydliad Lletygarwch

Rownd derfynol 2022 ar gyfer y Bartneriaeth Addysg Orau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Springboard

Enillwyr Gwobr Twristiaeth Gyfrifol Marchnad Teithio y Byd 2020 a’r teitl ‘y rhai i'w gwylio’

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • Jones, J. (2025) Empowering the next generation of Tourism Leaders. Business News Wales / Tourism & Hospitality Wales
  • Jones, J. (2014) Be My Guest. Lessons from Guest Service Empowerment within the Global Tourism & Events Industry. South Wales Business Review
  • Jones, J. (2013) Benefits of International Placements for the Welsh Economy. South Wales Business Review
  • Jones, J.. (2012) Learning for Work, A Global Tourism & Events Case Study – Graduates for our Future Enhancement Theme. HEA Publication
  • Jones, J. (2012) Learning in Work Tourism & Events Placement Case Study. Graduates for our Future Enhancement Theme. HEA Publication
  • Jones, J. (2012) Employability in Tourism & Events Case Study. Graduates for our Future Enhancement Theme. HEA Publication
  • Jones, J. (2012) Internationalisation Case Study. Graduates for our Future Enhancement Theme, HEA Publication
  • Jones, J. (2011) Graduate Employability in Tourism, Events and Sport. LTSN Link Publication
  • Jones, J. (2011) Industry links in Tourism, Sport and Events. LTSN Link Publication
  • Jones, J. (2010) Work Based Learning and Placement Development in Tourism, Sport and Events. LTSN Link Publication
  • Griffiths, B. a Jones, J (1994) St Davids Tourism Standards Strategy. PBI Publication
  • Jones, J. (1992) User Survey Bridgend Recreation Centre. Ogwr BC Publication

Gwybodaeth Ychwanegol

Daeth Jacqui yn Llysgennad Menter yn 2018 ac mae'n cefnogi Prosiectau a Digwyddiadau Menter i raddedigion. Mae'n mynychu Cynadleddau’n rheolaidd gan gynnwys Confensiwn Teithio ABTA ac mae wedi cyflwyno'n fyw ac ar-lein yng Nghynadleddau ATHE ac ASET, yr Uwchgynhadledd Bwyd a Diod, Digwyddiad Reignite yr MIA, Symposiwm Byd-eang Entrecomp a nifer o Ddigwyddiadau NEXUS a’r AAU. Mae Jacqui hefyd yn angerddol am ddigwyddiadau ac yn gwirfoddoli'n rheolaidd mewn digwyddiadau ar lefel genedlaethol a chymunedol. Mae hyn yn cynnwys gwirfoddoli fel Arweinydd Addysgol yn Ras Fôr Volvo yng Nghaerdydd, fel Cydlynydd VIP ym mhencampwriaeth Ewros Hoci ac ar gyfer Activity Wales yn Nhriathlon Abertawe, fel Cydlynydd Gwirfoddoli gydag Ironman Cymru ers ei sefydlu yn 2011 a gyda Podium a Gemau Olympaidd Llundain yn 2012. Roedd Jacqui hefyd yn gyfrifol am ddatblygu'r Bartneriaeth Addysgol rhwng Ironman Cymru a PCYDDS yn 2019.

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Nac ydw