Skip page header and navigation

Cefndir

Mae gan Sioned 20 mlynedd o brofiad proffesiynol ac addysgu yn y sector addysg fel addysgwr athrawon. Cyn dechrau ei swydd yn PCYDDS, bu Sioned yn gweithio fel athrawes ysgol gynradd, gan arwain y Dyniaethau, Llythrennedd a Gwyddoniaeth. Mae Sioned hefyd wedi ysgrifennu deunyddiau addysgol ar gyfer cyhoeddwyr fel Peniarth ac @tebol i gefnogi athrawon ysgol gynradd i addysgu’r Dyniaethau.. 

Pynciau Arbenigol

  • Addysg Gynradd
  • Y Dyniaethau yn yr Ysgol Gynradd
  • Dinasyddiaeth a Chynaliadwyedd

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Dr Sioned Hughes dros ugain mlynedd o brofiad fel addysgwr athrawon yn y sector addysg. Cyn ymgymryd â’i swydd fel uwch ddarlithydd yn PCYDDS, bu Sioned yn gweithio fel athrawes ysgol gynradd, lle cafodd gyfle i arwain y Dyniaethau, Gwyddoniaeth a Llythrennedd yn yr ysgolion.

Yn PCYDDS, mae Sioned yn addysgu ar sawl modwl ar draws y rhaglen BA Addysg Gynradd gyda SAC a’r rhaglenni TAR (Cynradd ac Uwchradd), gan gynnwys y modylau ymchwil. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys dysgu ac addysgu'r Dyniaethau, cynllunio a dilyniant y cwricwlwm (Cwricwlwm i Gymru), a dinasyddiaeth.

Mae Sioned yn oruchwyliwr ar yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) ac mae'n cefnogi'r addysgu a goruchwylio ar y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD).

Mae Sioned yn cefnogi athrawon mewn ysgolion gyda'u prosiectau ymholi fel rhan o'r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC).

Cymwysterau

  • Daearyddiaeth BA (Anrh), Prifysgol Aberystwyth
  • Daearyddiaeth PhD, Prifysgol Aberystwyth
  • TAR Cynradd gyda SAC, Prifysgol Aberystwyth

Ieithoedd a Siaradwyd

Mae Sioned yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ac mae hefyd yn siarad Saesneg.