Thea yn PCYDDS
Enw: Thea Wakeford
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Blwyddyn gyntaf Gradd BSC Nyrsio Oedolion yn UWE
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Thea ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Y stiwdio cynllun agored. Gallu cymysgu a gweld gwaith grwpiau blwyddyn eraill ac yn gallu bownsio syniadau oddi ar ei gilydd yn hawdd. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi pa mor hawdd yw siarad â darlithwyr a mynd atyn nhw am help. Mae’n creu awyrgylch cyfforddus lle rwy’n teimlo y gallaf ofyn yr holl gwestiynau y mae eu hangen arnaf a chreu gwaith gwell.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS oherwydd ei chyfleusterau a’i darlithwyr gwych. Mynychais ychydig o weithdai coleg a ches i fy swyno o’r un cyntaf ymlaen. Es i o beidio â mwynhau dosbarthiadau tecstilau yn y coleg i’w caru yn y brifysgol oherwydd y darlithwyr calonogol a’r darlithoedd gafaelgar.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau, rydw i wedi mwynhau parhau â’m gyrfa gelf. Gyda chymorth y brifysgol roeddwn i’n gallu sefydlu busnes bach gydag arweiniad agos gan fentoriaid a chyngor darlithwyr. Rwyf hefyd yn mwynhau bod yn yr awyr agored, ac mae gallu creu naratifau trwy fy ngwaith sy’n gysylltiedig â fy niddordebau eraill yn fy helpu i gadw fy nghymhelliant
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar ôl i mi raddio, rwy’n gobeithio parhau â’m haddysg a theithio o amgylch y byd wrth ddatblygu fy sgiliau dylunio patrymau arwyneb a gwneud cysylltiadau newydd wrth i mi fynd. Mae gallu teithio wrth i mi weithio bob amser wedi bod yn freuddwyd i mi ac os ydw i’n gweithio i gwmni neu ar fy liwt ei hun, byddwn i wrth fy modd yn parhau â’m taith dylunio patrymau arwyneb.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
RoeddMae cael mynediad at ystod eang o adnoddau na fyddwn i’n cael mynediad atynt fel arall. Mae cael fy nysgu sut i’w defnyddio’n broffesiynol yn helpu i’m rhoi i ar ben ffordd wrth i mi baratoi ar gyfer fy swyddi yn y dyfodol, ac mae gallu creu casgliad helaeth gan ddefnyddio ystod eang o brosesau ac adnoddau yn helpu fy ngwaith i ddatblygu.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS heb os nac oni bai oherwydd cyn i mi fod yn fyfyriwr swyddogol yma, (trwy gystadlaethau sgiliau Cymru) ces i gymorth ganddyn nhw trwy gydol fy astudiaethau, ac rwy wedi cael cymorth parhaus wrth i mi astudio yma. Mae gan y darlithwyr ofal go iawn am eu myfyrwyr efallai na fyddech chi’n dod o hyd iddo mewn mannau eraill.