Tilly yn PCYDDS
Enw: Tilly Lewis
Cwrs: BA(Anrh) Celf Gain
Astudiaethau Blaenorol: Arholiadau Safon Uwch
Tref eich cartref: Maesteg
Profiad Tilly ar BA Celf Gain
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae ymdeimlad cymunedol cryf iawn ar draws y brifysgol. Mae cymaint o gyfleoedd i gwrdd â phersonoliaethau, myfyrwyr a staff newydd a diddorol fel ei gilydd. Mae’n eithaf bach, felly mae’n teimlo’n fwy personol, rydych chi bob amser yn gweld rhywun rydych chi’n ei adnabod yn y neuaddau.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Mae’r mannau a’r cyfleusterau yn anhygoel. Rydych chi’n gallu archwilio cymaint o agweddau ar gelf megis lluniadu bywyd, cerameg, gwneud printiau ac ati. Mae’r offer a’r arweiniad yn rhagorol. Mae’r stiwdios celf gain hefyd yn hollol unigryw, gan gynnig lle i fyfyrwyr greu’n rhydd, wedi’u hamgylchynu ag artistiaid o’r un anian.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Fe wnes i fwynhau adeiladu perthynas â’r bobl anhygoel ar fy nghwrs na fyddaf byth yn eu hanghofio, gan fwynhau’r traeth a bywyd nos.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Rwy’n gobeithio parhau â’m hymarfer a’m hastudiaethau trwy gwrs meistr. Rwy’n bwriadu astudio gradd Meistr yn PCYDDS gan fy mod i’n mwynhau’n fawr iawn yma. Mae wedi fy helpu i weld bod gyrfa trwy gelf yn llwybr hyfyw, nad oeddwn i’n sylweddoli o’r blaen. Rwyf wedi datblygu ymdeimlad cryfach o hyder ynof fy hun, rwy’n gallu siarad am fy ymarfer ac adeiladu fy neallusrwydd. dydw i ddim yn 100% sicr ble’r ydw i eisiau mynd â fy ngyrfa eto, ond mae’n teimlo bod gen i gymaint o opsiynau nawr, nid yw’r byd yn teimlo mor fach erbyn hyn.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Y cyffro o adeiladu arddangosfa. Mae’r disgwyli, a phawb yn cymryd rhan ac yn ymroi iddi yn amser mor anhygoel. Mae helpu eraill a chlywed am eu harfer a’u syniadau yn brofiad grymus, fe wnaeth fy helpu i ddatblygu set sgiliau newydd a thyfu fel artist a pherson.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS, yn enwedig os oes gennych chi ddiddordeb yn y celfyddydau. Dydw i ddim wedi cael unrhyw broblemau gyda dod o hyd i help pan oedd ei angen ac mae’r staff yn anhygoel. Mae’r cyrsiau yn eich gwthio chi i gyrraedd eich potensial, ac rwy’n teimlo fy mod i’n well person wrth ddod allan.