Skip page header and navigation

Wiktoria Dolecka - Pensaernïaeth (BSc Anrh)

Profiad Wiktoria yn PCYDDS

Wiktoria Dolecka 1

Enw: Wiktoria Dolecka

Cwrs: BSc Pensaernïaeth

Tref eich cartref: Llanelli

Profiad Wiktoria ar BSc Pensaernïaeth

Wiktoria Dolecka 2

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff beth am gampws IQ yw’r llyfrgell, yn enwedig yr ystafelloedd astudio preifat a roddodd ofod tawel perffaith i mi allu ffocysu ar fy ngwaith.  Mae’r dewis helaeth o adnoddau’n hawdd iawn i’w lywio, ac roedd hyn wedi gwella fy nysgu a gwneud fy mhrofiad prifysgol gymaint yn well. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i PCYDDS i astudio’n lleol gan elwa ar raglen uchel iawn ei pharch.   Roedd fy ymchwil wedi amlygu enw da cryf y brifysgol yn y diwydiant, y cyfleusterau rhagorol, a hanes profedig o raddedigion llwyddiannus, ysbrydoledig.  

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m astudiaethau, rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda fy ffrindiau a’m teulu, teithio, ac archwilio bwydydd a diwylliannau newydd.  Pryd bynnag, mae gen i amser sbâr, rwyf wrth fy modd yn darganfod llefydd newydd a thrwytho fy hun mewn pensaernïaeth rhanbarthau gwahanol.  

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Fy mhrif nod ar ôl graddio yw cael rôl fel Cynorthwyydd Pensaernïol Rhan 1, yn ddelfrydol mewn practis dinas mwy lle rwy’n gallu ennill annibyniaeth werthfawr ac ymgolli mewn diwylliant amrywiol.  

Beth yw eich hoff beth am y cwrs? 

Yn bendant, uchafbwynt y cwrs oedd y gymuned.   Roedd fy nghyd-fyfyrwyr wedi fy ysgogi i wthio fy ffiniau creadigol a daeth hyn â llawenydd i’r stiwdio, hyd yn oed yn ystod cyfnodau dwys pan oedd dyddiadau cau aseiniadau’n agosáu.  Roedd y darlithwyr yn wych hefyd, gan roi’r cymorth cyson roedd ei angen i mi gyrraedd fy nodau. 

Arch award 2

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn i bendant yn argymell PCYDDS.  Mae’r dosbarthiadau llai yn golygu na fyddwch chi byth yn teimlo ar goll. Mae’r dosbarth yn teimlo fel teulu lle mae pawb yn ysgogi ei gilydd trwy’r amser.  Mae’r cyfleusterau modern fel y llyfrgell yn rhoi profiad gwell i fyfyrwyr hefyd. 

Arch 2

Profiad o glirio

Roedd fy mhrofiad yn gwneud cais trwy Glirio yn gadarnhaol tu hwnt.  Roedd y broses ymgeisio gyfan yn gyflym, syml a di straen, gyda’r tîm derbyn yn rhoi penderfyniad o fewn ychydig ddyddiau, gan ganiatáu i mi drosglwyddo’n esmwyth i’r cwrs. 

Gwybodaeth Gysylltiedig