Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC)
Hafan YDDS - Ymchwil - Ymchwil Mewn Celf a Dylunio - Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATIC)
Trwy ymchwil cydweithredol, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a systemau arloesol yn y sector iechyd a llesiant.
Mae ATiC yn bartner ym mhrosiect Accelerate sy’n helpu arloeswyr yng Nghymru i droi eu syniadau’n ddatrysiadau. Os oes gennych syniad ar gyfer technoleg gofal iechyd ond nid ydych yn siŵr pa gamau i’w cymryd nesaf, os ydych mewn busnes ac yn chwilio i ehangu eich ystod o gynhyrchion, neu os ydych yn weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd sydd wedi sylwi ar ffordd glyfar o wella proses – rydyn ni eisiau gweithio gyda chi.
Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae’r rhaglen yn cynnig mynediad i’r arbenigedd academaidd, y ddealltwriaeth fanwl o ecosystem gwyddorau bywyd a’r cyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae Accelerate, yn gydweithrediad arloesol rhwng tri o brifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae ATiC yn ganolfan ymchwil sydd ag arbenigedd a phrofiad mewn dylunio defnyddiwr-ganolog, gwerthuso a dadansoddi profiad defnyddwyr, data 3D a chipio symudiad, yn ogystal â phrototeipio mewn ystod o ddefnyddiau.
Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn weithio gyda chi: atic@uwtsd.ac.uk | 01792 481232
Yma yn ATiC rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn ein cyfleusterau a seilwaith i greu’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer prif academia’r DU a Gwyddor Bywyd cyhoeddus a phreifat a sefydliadau gofal iechyd i ffynnu.
O fewn Labordy UX ATiC rydym yn cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o ffyrdd biometrig a seicoffisiolegol o fesur Profiadau Defnyddwyr.
Amrywiaeth o systemau sganio o safon diwydiant ar gyfer sganio a mesur y corff, gwrthrychau ac amgylcheddau gofodol yn fanwl gywir. Gyda’r gallu i ddefnyddio’r wybodaeth hon i fodelu, dadansoddi a hefyd gwireddu mewn rhithrealiti.
Mae ein hamrywiaeth o weithdai a chyfleusterau yn caniatáu i ni brototeipio a gorffennu mewn ystod eang o ddeunyddiau. Gan gynnwys prototeipio 3D cyflym mewn amrywiaeth o ddefnyddiau, megis plastig, ffibr carbon, cwyr a resin, i weddu i lawer o gymwysiadau.
Mae ATiC yn un o bedwar partner yn rhaglen Accelerate (Sbardun Arloesi a Thechnoleg Iechyd Cymru).
Mae Accelerate, yn gydweithrediad arloesol rhwng tri o brifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’n helpu trosi syniadau arloesol yn gynhyrchion a gwasanaethau technoleg newydd i’r sector iechyd a gofal, yn gyflym.
Trwy Accelerate, gall ein partneriaid eich helpu chi i fynd i’r afael ag ystod eang o heriau ymchwil a datblygu.