Carys yn PCYDDS
Enw: Carys Bristowe-Davies
Cwrs: BA(Anrh) Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau
Astudiaethau Blaenorol: Arholiadau Safon Uwch
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Carys ar BA Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae’r adnoddau ffotograffiaeth yn anhygoel, yn enwedig yr ystafell dywyll a phrosesu ffilm. Caniataodd mynediad i’r mannau hyn i mi arbrofi gyda thechnegau traddodiadol a phrosesau amgen sy’n rhan annatod o fy ymarfer.
Roeddwn i hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau argraffu rhad ac am ddim, a oedd yn ei gwneud hi’n llawer haws datblygu a phrofi gwaith trwy gydol y cwrs.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Mae gen i ffrindiau a gwblhaodd y cwrs hwn ychydig flynyddoedd o’m blaen i. Byddwn i’n mynychu’r sioeau graddio yn rheolaidd cyn ymuno, felly ces i weld y gwaith amrywiol, arbrofol a oedd yn cael ei gynhyrchu gan fyfyrwyr.
Roedd enw da’r cwrs hefyd yn ffactor arall. O ystyried mai hwn oedd un o’r cyrsiau ffotograffiaeth gorau yn y DU, a’i fod yn agos at adref, roedd e’n yn ymddangos fel y penderfyniad gorau i mi.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’r brifysgol ac ar wahân i ffotograffiaeth rwy’n mwynhau ffilm, darllen a gemau fideo. Mae pob un o’r rhain yn tueddu i ysbrydoli fy ngwaith creadigol yn weledol ac yn gyd-destunol.
O bryd i’w gilydd, byddwn i’n mynychu dangosiadau’r gymdeithas ffilm, a oedd yn help i mi ddod o hyd i ffilmiau newydd ac ysbrydoliaeth naratif wrth gysylltu â myfyrwyr eraill oedd â diddordebau tebyg.
Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch chi’n graddio?
Byddwn i wrth fy modd yn dod yn ffotograffydd clinigol, ond rwy’n dal yn awyddus i barhau i wneud gwaith celf. Mae’r modiwl ymgysylltu allanol cyfan yn ein blwyddyn olaf yn seiliedig ar hyn - bydd gorfod ysgrifennu cynllun graddedigion yn ddefnyddiol dros ben wrth gadw ar y trywydd iawn wrth adael y brifysgol.
Mae’r cwrs hefyd yn annog gweithio gydag artistiaid eraill a phobl o gymunedau lleol sy’n wych ar gyfer rhwydweithio a chreu cysylltiadau.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Byddwn i’n dweud mai uchafbwyntiau’r cwrs oedd y gweithdai gan dechnegwyr lle roeddwn i’n dysgu technegau newydd ar gyfer arbrofi a phrosesu.
Y prosiect terfynol, ddwedwn i hefyd. Roedd gallu creu prosiect manwl yn annibynnol, gan ddefnyddio popeth rydw i wedi’i ddysgu o’r 3 blynedd ddiwethaf yn fuddiol iawn hefyd!
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant, byddwn i’n argymell PCYDDS a’r cwrs Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau i eraill. Mae’r staff mor gefnogol a phob amser yn barod i gynnig cyngor, arweiniad ac ysbrydoliaeth. Maen nhw’n dod ag ystod o brofiad i’r cwrs a helpodd fi i ddatblygu fy ymarfer a’m proffesiynoldeb.
Mae’r technegwyr hefyd yn anhygoel. Maen nhw bob amser o gwmpas i helpu a rhoi cymaint o amser yn cefnogi myfyrwyr.
Peth arall roeddwn i’n ei werthfawrogi oedd yr oriau agor hir a’r mynediad i gyfleusterau’r campws a oedd yn ei gwneud hi’n haws cydbwyso fy astudiaethau ag ymrwymiadau gwaith eraill.
Ar y cyfan, rydw i wedi cael profiad cadarnhaol iawn yn PCYDDS ac wedi cael cymorth trwy gydol fy amser ar y cwrs.