Skip page header and navigation

Cytundeb Myfyrwyr PCYDDS

Os byddwch yn derbyn cynnig o le ar raglen astudio yn Y Drindod Dewi Sant, byddwch yn gwneud cytundeb (contract) gyda ni.

Y Cytundeb Myfyriwr (y ‘Cytundeb’), ynghyd â’ch llythyr cynnig, yw’r contract rhwymol yn gyfreithiol y byddwn yn ei wneud gyda chi ac mae’n bwysig iawn eich bod yn ei ddarllen yn ofalus cyn i chi dderbyn eich cynnig.

Mae’r holl reoliadau, polisïau a gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn y cytundeb myfyriwr ar gael ar y dudalen we hon.