Skip page header and navigation
Date(s)
-

Ffair Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy

Ar y 6 Mawrth bydd ein digwyddiad Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy yn cael ei gynnal ar gampws Abertawe.   Fe fydd yn gyfle i fyfyrwyr yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd a dysgwyr adeiladu addysg bellach gwrdd ag ystod eang o gwmnïau o feysydd pensaernïaeth, adeiladu, yr amgylchedd ac ynni cynaliadwy. 
Gan ei bod yn Wythnos Menywod mewn Adeiladu rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gyrfaoedd niferus sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu.   Rydym ni wrth ein boddau y bydd 4 siaradwr gwadd gyda ni a fydd yn rhannu eu teithiau gyrfaol i mewn i fyd adeiladu a’u profiadau o weithio yn y sector. 

Estynnwn groeso i; 

Dr Alissa Flatley, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth Arfordirol a Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 
Rachel Cook, Pennaeth Rhwydweithiau, Woodknowledge Wales
Lindsay Richards, Cyfarwyddwr Rheoli The Richards Partnership Ltd; Syrfëwr Meintiau Siartredig; Peiriannydd Adeiladu Siartredig; 
Michelle Murillo, Un o Raddedigion rhaglen BSc (Anrh) Pensaernïaeth, PCYDDS

Ynghyd â’n siaradwyr gwadd, bydd ymwelwyr hefyd yn gallu dewis o blith rhaglen amrywiol o weithgareddau, gan gynnwys; 

  * Arddangosiadau adeiladu gyda byrnau gwellt
  * Cyfle i eistedd mewn efelychydd cerbyd trydan  (ddim yn gwybod am hyn) 
  * Adeiladu tŷ drwy ddefnyddio deunyddiau rhithwir
  * Chwarae gyda Gêm Minecraft Campws Llambed PCYDDS

Bydd bagiau nwyddau a lluniaeth ar gael trwy gydol y digwyddiad.

Lleoliad

UWTSD
Swansea Campus
IQ Building
Swansea
Y Deyrnas Unedig

Rhannwch y digwyddiad hwn

Tagiau