Skip page header and navigation

Cymorth Llesiant

Mae bywyd prifysgol yn gyfle anhygoel i ddysgu pethau newydd a dod i adnabod eich hun, ond gall ddod â rhai heriau hefyd. Efallai eich bod yn dod i’r brifysgol a bod gennych chi ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl neu efallai y byddwch chi’n cael anawsterau gyda’ch iechyd neu lesiant meddyliol tra byddwch chi’n astudio.

P’un ai eich bod chi’n dioddef o broblem tymor byr gyda straen, mater cymhleth sy’n para’n hirach, neu os ydych chi’n cael trafferth ond ddim yn siŵr beth i’w wneud, yna mae’r Gwasanaeth Llesiant yma i’ch cefnogi. Gallwch gael mynediad at ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim unrhyw bryd yn ystod eich astudiaethau.

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cyfrinachol, proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sydd am ddim a all weithio gyda chi i ddeall yn well yr hyn rydych chi’n ei ddioddef a’ch helpu i benderfynu sut rydych am reoli’r effaith ar eich astudiaethau.

Cymorth Llesiant sydd ar gael

Gwasanaethau annibynnol ac offer hunangymorth.

Os oes angen cymorth arbenigol arnoch chi neu os hoffech chi gael cymorth drwy siarad ag aelod o’r Gwasanaeth Llesiant yn gyntaf, llenwch y Ffurflen Cais am Gymorth.

  • Gall pob myfyriwr ddefnyddio’r Ap ‘Feeling Good’ yn RHAD AC AM DDIM. Gallwch ei lawrlwytho ar eich ffôn a datgloi’r holl gynnwys drwy ddefnyddio’r codau sy’n benodol i’r brifysgol.

    Mae Feeling Good yn ap sain sy’n cynnig Hyfforddiant Meddwl Cadarnhaol sy’n caniatáu i fyfyrwyr newid cyflwr eu meddyliau i fod yn bositif, gan ollwng eu gafael ar y sbardunau emosiynol negyddol sy’n sail i ofidiau, gan wella eich gallu i ganolbwyntio a ffocysu ar yr un pryd. 

  • Mae PCYDDS yn cynnig mynediad am ddim i bob myfyriwr i wasanaeth cefnogi 24/7 ar-lein o’r enw Togetherall.

    Gwasanaeth dienw yw Togetherall y gallwch ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n teimlo’n isel, angen cymorth neu angen siarad. Gallwch ddysgu sgiliau ymarferol i’ch helpu i deimlo’n well a mynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau. 

    • Gallwch ddefnyddio rhwydweithiau cymheiriaid i drafod eich problemau gyda phobl sy’n cael anawsterau tebyg
    • Gallwch ddefnyddio offer hunanasesu i fonitro eich cynnydd
    • Gallwch ymuno â chyrsiau a thrafodaethau grŵp ar faterion cyffredin fel meddwl yn negyddol a straen

    Sut ydw i’n cofrestru?

    1. Ewch i wefan Togetherall
    2. Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost PCYDDS
    3. Dewiswch enw defnyddiwr anhysbys
    4. Manteisiwch ar y cymorth y mae ei angen arnoch chi
  • Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ac mae’n rhoi cymorth ar nifer eang o faterion, fel materion cyfreithiol, ariannol, meddygol a materion bywyd.

    Gall y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig gan y Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr eich helpu gyda:

    • Straen a Gorbryder
    • Dyled
    • Pwysau addysg
    • Dibyniaeth
    • Perthnasoedd
    • Materion Cyfreithiol

    Llinell Gymorth Gyfrinachol 24 AWR AM DDIM 0800 028 3766

    Mae’r Llinell Gymorth yn cael ei staffio gan weithwyr proffesiynol cymwys, gan gynnwys gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol. Gall myfyrwyr PCYDDS siarad â rhywun drwy’r llinell gymorth unrhyw bryd, ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.

    Os yw’n well gennych chi gael cymorth drwy eich ffôn clyfar, gallwch chi fewngofnodi i Health Assured drwy www.healthassuredeap.co.uk

    Yr enw defnyddiwr yw: ‘wellbeing’ a’r cyfrinair i gael mynediad i’r porth yw ‘LoopMIndTram’ Gallwch chi hefyd lawrlwytho’r ap ‘My Healthy Advantage’ o Google Play neu’r App Store, y cod y mae ei angen arnoch i gael mynediad i’r ap yw MHA154656

    PWYSIG:

    Os oes gennych bryderon meddygol, ffoniwch 111. Os yw’n argyfwng meddygol, ffoniwch 999.

  • Os ydych chi’n credu bod alcohol yn cael effaith negyddol a digroeso ar eich bywyd bob dydd, dylech gael rhagor o wybodaeth a chymorth. Mae llawer o gefnogaeth ar gael.

    Alcohol Change UK

    Mae gan Alcohol Change UK lawer o ffeithlenni defnyddiol ac offer rhyngweithiol, fel yr ap Ionawr Sych (am ddim).

    Mae’r brifysgol wedi ymrwymo ei hun i gefnogi myfyrwyr sy’n cydnabod bod alcohol yn broblem yn eu bywydau. Os ydych chi’n bodloni meini prawf sgorio’r Cwis Alcohol, gallwch gael 3-4 sesiwn hyfforddi am ddim gyda chynghorwyr Alcohol Change UK. Mae Alcohol Change UK yn arbenigo ym maes defnyddio a chamddefnyddio alcohol ac maen nhw’n cefnogi’r rhai sy’n canfod bod alcohol yn achosi problemau yn eu bywydau.

    Mae’r sesiynau yn rhad ac am ddim i chi, ac yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth am faint o alcohol yr ydych yn ei yfed yn cael ei rannu gyda’r brifysgol (oni bai bod y sefyllfa yn cael ei ystyried yn berygl bywyd). Bydd yr hyfforddwr yn gwrando arnoch ac yn eich cynorthwyo wrth i chi gymryd y camau cyntaf tuag at wneud newidiadau positif i’ch bywyd, a rhoi cymorth gyda gwasanaethau pan fo hynny’n briodol.

    Os ydych chi’n credu y byddech yn elwa ar hyfforddiant, cwblhewch y cwis isod. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf, byddwch yn derbyn gwybodaeth a manylion cyswllt.

    Cwis Alcohol

    Os nad ydych chi’n siŵr a yw alcohol yn achosi problemau i chi, os ydych chi’n pryderu ynglŷn â faint o alcohol yr ydych chi’n ei yfed neu ei effaith ar eich bywyd bob dydd, rhowch gynnig ar y Cwis Alcohol. Mae’n rhad ac am ddim, yn gyflym, yn gyfrinachol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Atebwch yn onest oherwydd bydd gwybodaeth a chymorth wedi’u teilwra i’ch sgôr ar gael ar ddiwedd y cwis.

  • Os ydych yn fyfyriwr sy’n gadael gofal ac yn dechrau ar Addysg Uwch, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y Brifysgol yn cynnig y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch.

    Mae’r cymorth hwn ar gael wrth i chi benderfynu ar beth neu ble y dylech astudio, mae’n parhau drwy gydol y broses o wneud cais i’r brifysgol, a bydd yn parhau unwaith y byddwch wedi dechrau ar eich cwrs. Mae cymorth a gwybodaeth hefyd ar gael os ydych chi’n rhywun sy’n cynghori myfyriwr sydd wedi gadael gofal. Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi derbyn Marc Ansawdd Buttle UK sy’n cydnabod ein hymrwymiad i’r rhai mewn addysg uwch sydd wedi gadael gofal.

    Os ydych yn fyfyriwr sy’n gadael gofal, neu’n cynghori rhywun sydd wedi gadael gofal, eich pwynt cyswllt cyntaf yw’r person a enwir ar gyfer pobl sy’n gadael gofal:

    Campws Caerfyrddin:
    Delyth Lewis
    Ffôn: 01267 676947
    E-bost: d.lewis@uwtsd.ac.uk

    Campws Llambed:
    Lynda Lloyd-Davies
    Ffôn: 01570 424722
    E-bost: l.lloyd-davies@uwtsd.ac.uk

    Campws Abertawe: 
    Sharon Alexander
    Ffôn: 01792 481123
    E-bost: sharon.alexander@uwtsd.ac.uk

    Myfyrwyr sydd ddim yn byw ar y campws:
    Delyth Lewis
    Ffôn: 01267 676947
    E-bost: d.lewis@uwtsd.ac.uk

    Maen nhw wedi’u lleoli yn y Gwasanaethau Myfyrwyr, ac yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am bob agwedd ar y cymorth sy’n cael ei ddarparu gan y Brifysgol – cyn cael eich derbyn ac wrth astudio.

    Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn darparu’r canlynol:

    • Cyngor cyn cael eich derbyn gan y Cynghorydd Gyrfaoedd, a help lle bo angen wrth wneud cais a chael eich derbyn.
    • Cymorth mentora gan gymheiriaid i’ch helpu i ymgartrefu yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.
    • Cymorth ariannol wedi’i dargedu i’r rhai sydd wedi gadael gofal trwy arian bwrsarïau a chronfeydd ariannol wrth gefn y Brifysgol.
    • Adran Gwasanaethau Myfyrwyr integredig, sy’n ei gwneud yn hawdd manteisio ar wasanaethau ar gyfer cymorth ariannol, llety, anghenion ychwanegol, cwnsela, a chymorth academaidd arbenigol.
    • Cyfarfodydd rheolaidd rhwng y cyswllt a enwir a myfyrwyr sydd wedi gadael gofal i nodi gofynion cymorth, ac i gysylltu ag adrannau’r Brifysgol ac asiantaethau allanol lle bo hynny’n briodol (ar ôl cael caniatâd y myfyriwr).
    • Help gyda’r gwaith o gynllunio a threfnu eich llety ar gyfer y tymor a’r gwyliau fel ei gilydd.
    • Lefel uchel o gyfrinachedd i fyfyrwyr o gefndir gofal mewn perthynas â darparu gwasanaethau a threfniadau penodol.

    Mae modd i chi ddatgan ar eich cais UCAS eich bod wedi bod mewn gofal, neu gall eich tîm gwasanaethau cymdeithasol roi gwybod i ni eich bod wedi gadael gofal. Mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod cymorth ar gael yn gynnar iawn.

    Rhai gwefannau defnyddiol

  • Myf.cymru is a mental health and wellbeing website resource which has been developed in response to the shortage of resources in the medium of Welsh.

    Mae myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ledled Cymru a thu hwnt wedi cyfrannu at i ddatblygiad amrywiaeth eang o adnoddau addysgiado

  • Grŵp Cymorth Cymdeithasol a Chyfathrebu

    Alternate Wednesdays from 15:00-17:00 on MS Teams and in person, at Lampeter campus Canterbury Building room 0.14

    Bydd campysau eraill yn cael sesiynau wyneb yn wyneb yn y dyfodol agos

    I’w ychwanegu at y grŵp neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Mel Long

    • Ydy normau cymdeithasol yn achosi dryswch chi?
    • Ydych chi weithiau’n siarad yn blwmp ac yn blaen, neu’n gweithredu heb feddwl, ac wedyn yn treulio oes yn ceisio gwneud yn iawn am hynny?
    • Ydych chi’n cael trafferth deall mân siarad a jôcs?
    • Ydy llefydd sy’n llawn pobl yn codi ofn arnoch chi?
    • Ydych chi’n teimlo’n unig, yn ynysig neu heb gefnogaeth?
    • Ydych chi’n anhrefnus ac anniben ac yn teimlo dan straen?

    Mae SoCom yn cynnig syniadau a gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at annog mwy o hunan-barch, a’r gallu i ddeall ac ymdopi â materion sy’n ymwneud ag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu, gyda’r potensial i ddatblygu grŵp newydd o ffrindiau a rhwydwaith cymorth newydd. Eich dewis chi fydd cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd neu beidio. 

    Themâu’r Sesiynau

    • Trefn ac arferion. I ddechrau’r flwyddyn, bydd sesiynau’n ffocysu ar wahanol sgiliau a strategaethau ar gyfer datblygu dulliau trefnusrwydd ymarferol ac arferion iach sy’n cefnogi profiad positif o fywyd myfyriwr. Bydd y rhain yn cynnwys ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar i roi sylfaen cadarn i chi yn ogystal â chynllunwyr wythnos a thymor defnyddiol i chi eu llenwi a’u hargraffu.
    • Prosesu’r byd. Mae’r sesiynau nesaf yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu hunan-ddealltwriaeth o’r gwahaniaethau wrth brosesu a chael eich effeithio gan y byd. Rhoddir peth ffocws arbennig ar wahanol ffyrdd i ymdopi â’r anhysbys, a sut i gynnal cymhelliant.
    • Perthynasoedd a chyfathrebu. Bydd gweddill y sesiynau cyn Y Nadolig yn edrych ar sgiliau cymdeithasol a sut i ddatblygu a chynnal perthnasau iach; dylai bod grwpiau cymheiriaid llety ac astudio wedi’u sefydlu’n dda erbyn hyn, felly mae bod yn ymwybodol o sut i ddatblygu sgiliau cyfathrebu iach, a strategaethau ar gyfer rheoli camgyfleu, yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn.
    • Targedu aseiniadau. Mae’r sesiynau yn Semester 2 yn canolbwyntio’n bennaf ar sgiliau a all wella canlyniad aseiniadau, megis strategaethau cyflwyno a sgiliau gweithio mewn grŵp/trafod, a datblygu strategaethau trefniadol ymhellach.
    • Datrys gwrthdaro a seicoleg. Mae rhai sesiynau hefyd yn edrych ar sgiliau datrys gwrthdaro a dealltwriaeth seicolegol ohonoch chi’ch hun ac eraill, ynghyd ag arferion ymwybyddiaeth ofalgar cysylltiedig.
    • Cyflogadwyedd a newid. Byddwn hefyd yn edrych ar gyflogadwyedd ac ymdopi â newid, yn ogystal ag ymgorffori arferion ysgogol a threfniadol gan y gall y rhain helpu i wneud y trawsnewidiadau ar ddau ben gwyliau’r haf yn haws i ymdrin â nhw a hyrwyddo cymhelliant i weithio ar ymchwil traethawd hir.

    Bydd llyfrgell o adnoddau ar gael trwy gydol y flwyddyn i chi gael mynediad iddi hyd yn oed os nad ydych yn mynychu’r sesiynau grŵp.

Os ydych chi’n cael trafferth rheoli effaith eich iechyd ar eich astudiaethau, gallwch gael cymorth arbenigol i’ch helpu i ddatblygu sgiliau hunanreoli. Mae hyn yn cynnwys Cwnsela, Cyngor ar Lesiant, Mentora Iechyd Meddwl Arbenigol, a chymorth er mwyn cael mynediad at wasanaethau allanol pan fo angen.

Gallwn weithio gyda chi er mwyn cytuno ar unrhyw addasiadau rhesymol ar gyfer eich astudiaethau, a sicrhau eu bod nhw’n cael eu cyfathrebu’n briodol ac yn gweithio’n effeithiol. Gallwn hefyd eich cynorthwyo gyda rheoli unrhyw risg sy’n gysylltiedig â’ch iechyd neu eich amgylchiadau. 

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r e-bost er mwyn egluro’r camau nesaf yn y broses gymorth, gan gynnwys y math o gefnogaeth y byddwn yn ei gynnig i chi. Pwrpas y ffurflen hon yw sicrhau ein bod yn deall y problemau sy’n effeithio arnoch chi, a sut y maen nhw’n effeithio ar eich astudiaethau. Os oes angen help arnoch o ran cael mynediad at, neu wrth lenwi’r ffurflen hon, cysylltwch â’r HWB myfyrwyr.

Diogelu a lleihau niwed. 

  • Argyfwng sy’n peryglu bywyd neu drosedd sy’n digwydd nawr

    Ffoniwch 999 ar unwaith neu ewch i’ch Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf. 

    999 yw’r rhif argyfwng ar gyfer yr heddlu, ambiwlans, brigâd dân, gwylwyr y glannau, timau achub clogwyni, timau achub mynydd, timau achub ogof ac ati. Sylwch ar y gair ‘ARGYFWNG’ - dim ond pan fydd angen presenoldeb y gwasanaethau brys ar frys y dylid defnyddio’r rhif hwn - e.e., os yw rhywun yn ddifrifol wael/wedi’i anafu neu os bydd trosedd ar y gweill. Mae galwadau i 999 yn rhad ac am ddim a gellir ei ddeialu o ffôn symudol sydd wedi’i gloi. 

    Gall y cofair ‘LlanDoGNALl’ fod o gymorth wrth gysylltu â’r gwasanaethau brys fel y gallwch roi’r holl wybodaeth sydd ei angen arnynt:

    • Ll – Lleoliad – dwedwch wrthyn nhw ble mae’r argyfwng ac i ble mae angen iddyn nhw ddod.
    • D – Digwyddiad – dwedwch wrthyn nhw beth sydd wedi digwydd.
    • G – Gwasanaethau eraill – oes angen yr ambiwlans a’r gwasanaeth tân arnoch?
    • N – Nifer y bobl – faint o bobl sy’n rhan o’r digwyddiad?
    • A – Pa mor wael yw’r anafiadau – i ba raddau y maen nhw wedi eu brifo?
    • Ll – Lleoliad – dwedwch eto ble mae angen iddyn nhw ddod.

    Rhif yr heddlu pan nad oes argyfwng

    Gallwch ffonio 101 pan fyddwch chi eisiau cysylltu â’r heddlu ond nad yw’n argyfwng - does dim angen ymateb ar unwaith, er enghraifft, os oes rhywun wedi torri i mewn i’ch car neu eich cartref, neu os yw eich eiddo wedi ei ddifrodi. Gallwch ddefnyddio 101 hefyd i roi gwybodaeth i’r heddlu am drosedd sydd wedi’i chyflawni, neu i gysylltu â’r heddlu gydag ymholiad cyffredinol.

    Argyfyngau nad ydyn nhw’n peryglu bywyd

    Os nad yw eich argyfwng yn un sy’n peryglu bywyd ond ei fod yn ddifrifol ac angen help neu sylw, dyma rai llefydd y gallwch gael cymorth:

    Argyfwng iechyd meddwl

    Os oes angen help arnoch, gallwch gysylltu â llinell gymorth iechyd meddwl brys y GIG yn eich ardal. Os ydych chi yn Lloegr, gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan y GIG. Os ydych chi yng Nghymru, gallwch ffonio 111 a dewis opsiwn 2. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer pobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’n rhad ac am ddim i ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.

    Gofid Emosiynol 

    CALM: Campaign Against Living Miserably
    Cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 15 a 35 oed. Ar gael saith diwrnod yr wythnos, rhwng 5pm a hanner nos.

    HOPELine UK
    Cyngor a chefnogaeth i atal hunanladdiad. Ar gael yn ystod yr wythnos 10am i 10pm; penwythnosau a gwyliau banc, 2pm i 10pm.

    Samariaid
    Beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo, gallwch ffonio’r Samariaid unrhyw bryd, o unrhyw ffôn, yn rhad ac am ddim ar 116 123. Weithiau, gall ysgrifennu am eich meddyliau a’ch teimladau eich helpu i’w deall yn well, ac felly gallwch hefyd anfon e-bost at y Samariaid neu ysgrifennu llythyr atyn nhw.

    Trais a chamymddwyn rhywiol

    Dewch i wybod ble y gallwch gael help neu gyngor os ydych chi wedi dioddef trais neu gamymddwyn rhywiol.

  • Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl dybryd neu fod angen help mewn arnyn nhw ar frys, ffoniwch yr heddlu ar 999.

    Nid yw unrhyw fath o ymosodiad, aflonyddu neu gamymddwyn rhywiol byth yn dderbyniol. Mae’n bwysig cofio, os bydd hyn yn digwydd i chi, nid oes bai arnoch chi o gwbl. 

    Mae PCYDDS yn lle diogel i bob myfyriwr sydd wedi dioddef trais, aflonyddu neu gamymddwyn rhywiol o unrhyw fath, beth bynnag fo’u hoedran, eu rhyw, eu hil neu eu rhywioldeb, gael eu clywed. Gall y Tîm Llesiant gynnig cymorth a chyngor cyfrinachol; o gymorth ymarferol i’ch cadw chi’n ddiogel a theimlo’n ddiogel, cymorth emosiynol neu help gyda rheoli eich astudiaethau, rydyn ni yma i’ch cefnogi yn eich amser eich hun - beth bynnag fyddwch yn penderfynu ei wneud. Mae ein hymateb yn cynnwys yr holl leoliadau addysgol, gan gynnwys pan fyddwch ar leoliad.

    Beth yw Camymddwyn Rhywiol?

    Mae camymddwyn rhywiol yn cyfeirio at unrhyw fath o weithgaredd rhywiol digroeso, nid yw’n golygu cyswllt corfforol bob tro. Mae’n cynnwys pob math o drais rhywiol, gan gynnwys:

    • Cyffwrdd rhywiol heb ganiatâd; 
    • Treiddiad heb ganiatâd;
    • Cam-drin rhywiol (gan gynnwys cam-drin yn ymwneud â delweddau a cham-drin ar-lein)
    • Aflonyddu rhywiol (pan fydd rhywun yn cyflawni unrhyw weithred rywiol ddigroeso yn erbyn person arall sy’n gwneud iddyn nhw deimlo cywilydd, yn ofnus, yn ofidus neu’n eu tramgwyddo. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fydd rhywun yn ymddwyn fel hyn gyda’r bwriad o wneud i berson arall deimlo felly);
    • Stelcian;
    • Sylwadau sarhaus neu ddiraddiol o natur rywiol; 
    • Amrywiaeth o ymddygiadau eraill.

    Os nad yw eich profiad yn dod o dan y diffiniadau uchod, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch natur eich profiad, peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag ceisio cymorth. Rydyn ni yma i wrando a byddwn yn eich cefnogi.

    Rhoi gwybod i aelod o gymuned y Brifysgol am achos o gamymddwyn rhywiol

    Yn PCYDDS rydyn ni’n poeni am bob aelod o’n cymuned, ac rydyn ni yma i wrando arnoch a’ch cefnogi.​

    Mae dau brif lwybr lle gallwch chi ddweud wrthym am ddigwyddiad, ac mae’n bwysig gwybod y gwahaniaeth rhyngddyn nhw.

    Datgelu

    Mewn gair, datgelu yw rhannu eich profiad o gamymddwyn rhywiol. Nid yw datgelu yn cychwyn unrhyw fath o broses ffurfiol, a does dim angen i chi gynnwys manylion penodol.

    Gallwch ddatgelu wrth unrhyw un – ffrind, cyd-fyfyriwr, cynorthwyydd addysgu, cydweithiwr, aelod o’r gyfadran neu aelod o staff (mae datgeliad i aelod o staff yn ddatgeliad i’r Brifysgol). Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl, gall y datgeliad gael ei rannu gyda’r tîm llesiant drwy’r broses testun pryder.

    Pan fyddwch chi’n datgelu wrth y Brifysgol, gallwn ddarparu gwasanaethau a chymorth, yn ogystal â thrafod a fyddai cwnsela, mynediad/atgyfeiriadau at wasanaethau meddygol, a llety academaidd a/neu lety arall yn briodol.

    Cofiwch: Nid yw datgelu’n arwain at adroddiad oni bai eich bod eisiau hynny neu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol.

    Gallwch wneud datgeliad drwy ddefnyddio ein Ffurflen Gais am Gymorth, siarad ag aelod o staff sydd wedi’i hyfforddi fel ymatebydd cyntaf, neu drwy gysylltu â’n harweinydd Diogelu.

    Adroddiad

    Mae adroddiad yn ffordd o rannu cwyn yn swyddogol a gofyn i’r Brifysgol ei ystyried ac ymateb iddo. Rydyn ni’n defnyddio terminoleg y ‘parti sy’n adrodd’ a’r ‘parti yr adroddir amdano’ yn hytrach na ‘dioddefwr’ a ‘thramgwyddwr’. Os mai myfyriwr yw’r parti yr adroddir amdano, gellir cymryd camau i ddiogelu’r ddau barti tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r digwyddiad. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch y broses hon isod.

    Mae adroddiad yn cynnwys manylion penodol am yr hyn a ddigwyddodd, pryd, ble a phwy oedd yn rhan ohono. Chi sydd i benderfynu, pryd, sut, ac wrth ba gorff rydych chi am adrodd am weithred o gamymddwyn rhywiol. Efallai y byddwch chi am gael cyngor cyfreithiol annibynnol fel rhan o’ch proses gwneud penderfyniad. 

    Adrodd wrth y Brifysgol 

    Er mwyn cychwyn proses ffurfiol, fel proses ddisgyblu drwy’r Brifysgol, rhaid gwneud adroddiad.

    Gallwch roi gwybod i’r Brifysgol am achos o gamymddwyn rhywiol drwy’r swyddfa academaidd gan ddefnyddio’r ffurflen hon: Adrodd wrth y Brifysgol. I wneud adroddiad ffurfiol i’r Brifysgol ar ran rhywun arall, defnyddiwch ein ffurflen Testun Pryder.

    Undeb Myfyrwyr PCYDDS sy’n darparu cymorth a chyngor ar sut i lenwi’r ffurflen ac mae’r ffurflen ar gael yma: Pryderon a Chwynion.

    Gall adrodd yn ffurfiol am ddigwyddiad sy’n ymwneud ag aelod o Gymuned y Brifysgol sbarduno ymchwiliad mewnol annibynnol neu broses arall a all yn y pen draw arwain at gymwysiadau academaidd neu yn y gweithle, ataliad, diarddel neu gamau disgyblu eraill.

    Yn unol â’r Polisi Camymddwyn Anacademaidd, gall y Brifysgol osod mesurau interim i ddiogelu’r partïon sy’n adrodd ac yr adroddir arnyn nhw. Gallai’r camau hyn gynnwys (ond heb fod wedi eu cyfyngu i):

    • Newidiadau i lety preswyl
    • Newidiadau i amserlenni academaidd, gwaith neu ddosbarthiadau
    • Mesurau eraill y darperir ar eu cyfer o dan y Polisi Camymddwyn Anacademaidd, cytundebau ar y cyd, cytundebau cyflogaeth neu bolisïau adnoddau dynol yn dibynnu a yw’r ymatebydd yn fyfyriwr, staff neu aelod cyfadran; 
    • Sefydlu cytundeb ymddygiad rhwng y parti yr adroddir arno a’r parti sy’n adrodd i reoli unrhyw fannau addysgol a rennir.

    Adrodd wrth yr Heddlu

    Mae gan yr heddlu swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n benodol ac sy’n brofiadol iawn wrth gefnogi rhai sydd wedi goroesi camymddwyn rhywiol. I wneud adroddiad i’r heddlu, gallwch gerdded i mewn i orsaf heddlu leol, ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.

    Sylwch:

    • Mae adroddiad sy’n cael ei wnaed i’r heddlu ar wahân i adroddiad sy’n cael ei wneud i’r Brifysgol.
    • Gall adrodd wrth yr heddlu lleol sbarduno ymchwiliad gan yr heddlu a gall arwain at achos troseddol.

    Adrodd wrth Gyrff Eraill

    Y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)

    Gallwch hefyd adrodd ar gamymddwyn rhywiol trwy Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC). Maen nhw’n annibynnol o’r Brifysgol.

    Mae SARC yn cynnig cymorth cyfrinachol, arbenigol i unrhyw un sydd wedi cael ei dreisio, wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi’i gam-drin. Maen nhw’n cynnig nifer o wasanaethau, gan gynnwys archwiliadau meddygol a fforensig, dulliau atal cenhedlu brys, profion am heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol a chymorth emosiynol

    Gellir trefnu mynediad at gynghorydd trais rhywiol annibynnol (ISVA) hefyd, yn ogystal ag atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth trais rhywiol y sector gwirfoddol a chymorth iechyd meddwl.

    Mae ISVA yn darparu ystod o gymorth arbenigol i ddioddefwyr/goroeswyr sy’n amrywio yn ôl yr achos ac yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Fel arfer, mae ISVA yn darparu cymorth a gwybodaeth ddiduedd i ddioddefwyr/goroeswyr ynglŷn â’u hopsiynau, o adrodd wrth yr heddlu i gael mynediad at wasanaethau perthnasol eraill.

    Does dim rhaid i chi siarad â meddyg neu’r heddlu er mwyn cael cymorth gan SARC ac nid oes rhaid i’r achos o dreisio, ymosod neu gam-drin rhywiol fod yn ddigwyddiad diweddar i chi gael help.

    Os byddwch yn penderfynu siarad â’r heddlu yn nes ymlaen, gall staff sydd hyfforddedig yn y SARC eich cefnogi, er mai dim ond y chi sydd i benderfynu. 

    Gallwch chi ddod o hyd i’r SARC agosaf atoch trwy chwilio am eich lleoliad ar wefan y GIG.

    Byw Heb Ofn

    Gallwch chi gysylltu â Byw Heb Ofn, gwasanaeth sy’n darparu cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos a gallwch ffonio’r llinell gymorth yn rhad ac am ddim, sgwrsio ar-lein, anfon neges destun neu e-bost.

  • Mae Heddlu De Cymru wedi tynnu ein sylw at nifer o faterion sy’n trendio ac yn peri gofid ac wedi gofyn i ni drosglwyddo rhai ffeithiau a gwybodaeth i’ch helpu i gadw’n ddiogel.

    Ffeithiau a Chyngor ar Alcohol: Mae’r daflen ffeithiau hon yn nodi effeithiau tymor byr a thymor hir alcohol, nifer yr unedau alcohol sy’n cael eu hargymell, yr hyn y gallwch chi ei wneud i’ch cadw eich hun yn ddiogel. Mae gan y brifysgol broses atgyfeirio ar gyfer cymorth arbenigol os yw yfed alcohol yn broblem sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd. Ewch i’n tudalen cymorth dibyniaeth i gael gwybod mwy.

    Ffeithiau a Chyngor ar Linellau Cyffuriau: Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro beth yw llinellau cyffuriau a ble mae hyn yn digwydd. Mae hefyd yn esbonio’r term “Cogio”(“Cuckooing”) ac arwyddion i gadw llygad amdanyn nhw os ydych chi’n credu bod rhywun yn dioddef.

    Ffeithiau a Chyngor ar Gyffuriau: Mae’r daflen wybodaeth hon yn egluro dosbarthiad a chosbau posibl gwahanol gyffuriau sy’n cael eu defnyddio’n aml. Mae’n trafod cyfansoddiad ac effaith amrywiol gyffuriau ynghyd ag awgrymiadau ar sut i leihau niwed.

    Cyngor ar Radicaleiddio ac Eithafiaeth: Mae’r daflen wybodaeth hon yn eich helpu i ddeall strategaeth PREVENT, dysgu’r arwyddion y gallech chi chwilio amdanyn nhw os ydych chi’n credu bod rhywun yn cael ei radicaleiddio neu’n ymddwyn yn eithafol. Mae gan y Brifysgol hefyd ddyletswydd PREVENT a pholisi i’w gefnogi.

  • Dyma ddetholiad o apiau i helpu i’ch cadw’n ddiogel pan fyddwch chi’n mynd allan. Mae pob un yn rhad ac am ddim (neu’n cynnig cyfnod am ddim i ragbrofi) ac ar gael ar iOS a/neu ddyfeisiau Android.

    • Hollie Guard
      Mae Hollie Guard yn troi eich ffôn yn ddyfais diogelwch personol. Gallwch ei ddefnyddio i amddiffyn eich hun rhag damweiniau a thrais, cofnodi tystiolaeth a rhoi gwybod i’ch cysylltiadau brys ble’r ydych chi’n gyflym ac yn hawdd.
       
    • One Scream
      Os ydych chi mewn perygl ac yn methu â chyrraedd eich ffôn, bydd allweddair neu sgrech eich panig yn deffro’r ap yn awtomatig. Yna bydd neges destun gyda’ch lleoliad yn cael ei hanfon at y person cyswllt yr ydych wedi’i enwebu. Os ydych chi’n defnyddio Android, mae’r llinell ffôn yn dod yn ‘agored’ er mwyn iddyn nhw glywed beth sy’n digwydd a chael help atoch yn gyflym.

       

    • Safetipin
      Mae Safetipin yn eich helpu i wneud penderfyniadau mwy diogel wrth i chi fynd o le i le, yn seiliedig ar sgôr diogelwch yr ardal.
       
    • Apiau Mannau Diogel 

    Mae gan yr ap hwn swyddogaeth botwm panig o’r enw ‘Get Me to my nearest safe place now’ sy’n eich cyfeirio chi’n syth i’r lle diogel agosaf sydd ar agor. Os nad oes man diogel wedi’i leoli o fewn 15 munud ar droed, bydd yr ap yn cynnig ffonio 101 (ar gyfer galwadau ffôn lle nad oes brys) yn awtomatig i gael help dros y ffôn. Mae’r apiau bellach wedi’u datblygu fel eu bod yn cael eu hysgogi gan lais. Mae hyn yn golygu y gall y rhai sy’n cael anhawster defnyddio apiau neu’r rhai â nam ar eu golwg gael eu cyfeirio at le diogel trwy siarad â’u ffonau.

    • bSafe
      Mae bSafe yn llawn nodweddion, gan gynnwys larwm SOS, rhannu eich lleoliad, gwahodd ffrindiau i gerdded gyda chi a hyd yn oed gosod galwad ffôn ffug os ydych chi mewn sefyllfa letchwith/beryglus.
    • Walksafe+
      Ap diogelwch personol rhad ac am ddim sy’n seiliedig ar fap yw Walksafe+. Mae’n eich rhybuddio am yr hyn sydd o’ch cwmpas wrth rannu eich lleoliad diweddaraf gyda’ch cysylltiadau brys. Mae’r ap yn dangos y ffigurau trosedd diweddar yn yr ardaloedd rydych chi’n cerdded drwyddyn nhw ac yn eich rhybuddio am fannau lle mae adroddiadau am droseddau wedi’u gwneud, gan eich helpu i benderfynu ar lwybr diogel. Bydd hefyd yn anfon eich lleoliad at gyswllt brys os na fyddwch chi’n cyrraedd o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac yn caniatáu i roi gwybod iddyn nhw drwy dapio unwaith os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel.
       
    • Red Panic Button (iOS yn unig)
      Ap diogelwch brys sy’n seiliedig ar y nodwedd syml iawn o wthio botwm panig coch yw Red Panic Button. Os ydych chi’n teimlo eich bod mewn perygl, gallwch chi wthio’r botwm coch a bydd neges destun ac e-bost yn cael eu hanfon at eich cysylltiadau brys yn cynnwys cyfesurynnau’r System Leoli Fyd-eang (GPS) ar gyfer eich lleoliad.
       
    • Safe UP (iOS yn unig)
      Ap rhad ac am ddim yn ogystal â rhwydwaith diogelwch cymunedol yw SafeUp, sy’n cysylltu menywod a merched â menywod hyfforddedig yn yr ardal i’w helpu i deimlo’n ddiogel.​ Mae SafeUp yn eich cysylltu â ‘gwarcheidwad’ benywaidd sy’n helpu i roi cymorth ac arweiniad i chi.
  • Mae PCYDDS yn amgylchedd cynhwysol lle dylai gweithio a dysgu ddigwydd heb unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu.​ Mae’r disgwyliadau a osodwyd gennym ar gyfer ein myfyrwyr i’w gweld yn Siarter Myfyrwyr PCYDDSChod Ymddygiad Myfyrwyr PCYDDS.

    Os ydych chi’n cael profiad o aflonyddu neu fwlio, mae’n bwysig gwybod nad oes bai arnoch chi, a bod camau y gellir eu cymryd i’w atal. 

    Mae’r Brifysgol yn ystyried unrhyw achos o fwlio neu aflonyddu’n fater difrifol iawn. Os oes honiad o fwlio neu aflonyddu yn cael ei brofi, gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn y troseddw(y)r honedig, a gall hyn gynnwys diarddel neu ddiswyddo. I gael gwybodaeth am sut y gallwch chi naill ai ddatgelu neu roi gwybod am achosion i’r Brifysgol, ewch i: Adrodd wrth y Brifysgol.

    Os yw eich sefyllfa yn effeithio ar eich llesiant neu ar eich astudiaethau, gallwch ofyn am gymorth gan y Tîm Llesiant.

    Beth yw Bwlio?

    Er nad oes diffiniad cyfreithiol ohono, ymddygiad digroeso, ailadroddus gyda’r bwriad o frifo rhywun naill ai’n emosiynol neu’n gorfforol yw bwlio. Fel arfer mae bwlio’n cynnwys anghydbwysedd grym, boed hynny’n anghydbwysedd go iawn neu’n anghydbwysedd canfyddedig.

    Mae enghreifftiau o ymddygiad sy’n aflonyddu’n cynnwys (ond heb eu cyfyngu i’r canlynol):

    Bwlio corfforol

    Mae bwlio corfforol yn digwydd pan fydd rhywun yn brifo person arall yn gorfforol. Gall hyn fod ar ffurf poeri, baglu, gwthio, cicio, dyrnu, crafu neu unrhyw ffurf arall ar drais corfforol.

    Bwlio rhywioledig

    Mae bwlio rhywioledig yn cyfeirio at ymddygiadau, boed yn gorfforol neu’n anghorfforol lle mae rhywioldeb yn cael ei ddefnyddio fel arf yn erbyn person arall. Mae’n cynnwys ymddygiadau lle mae rhywun yn cael ei ddiraddio neu ei dargedu drwy ddefnyddio iaith, ystumiau neu drais rhywiol.

    Mae Family Lives yn cynnig canllaw cynhwysfawr ar fwlio rhywioledig.

    Bwlio cymdeithasol ac emosiynol

    Gall bwlio cymdeithasol ac emosiynol gynnwys eithrio unigolyn yn fwriadol, annog eraill i beidio â bod yn ffrindiau â nhw, rhannu clecs a sïon, bychanu rhywun yng nghwmni eraill neu wneud rhywun yn destun jôcs yn barhaus.

    Bwlio geiriol

    Mae sawl un hefyd yn cyfeirio ato fel ‘galw enwau’, a dyma un o’r mathau mwyaf cyffredin o fwlio a gall gynnwys pryfocio, gwneud sylwadau sarhaus am ymddangosiad rhywun, gwawdio, bygwth a/neu ddefnyddio sarhad i fychanu person arall.

    Seiberfwlio

    Mae’r math hwn o fwlio yn digwydd ar-lein drwy wefannau rhwydweithio cymdeithasol, apiau negeseuon, ystafelloedd sgwrsio a gwefannau gemau. Gall fod ar ffurf proffiliau ffug, rhannu gwybodaeth bersonol heb ganiatâd, stelcio, aflonyddu, trolio, lledu sïon ffug a phostio sylwadau negyddol gyda’r bwriad o achosi gofid. 

    Beth yw Aflonyddu?

    Ymddygiad sy’n achosi pryder, gofid neu drallod yw aflonyddu. Gall fod yn fygythiol ei natur. 

    Mae enghreifftiau o ymddygiad sy’n aflonyddu’n cynnwys (ond heb gael eu cyfyngu i’r canlynol):

    • Rhywun arall yn eich dilyn, neu rywun arall yn ymddangos yn annisgwyl dro ar ôl tro
    • Bygythiadau
    • Cyfathrebu digroeso, fel galwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon e-bost, ymweliadau digymell ac ati. 

    Mewn rhai achosion, gall aflonyddu gael ei dargedu at nodweddion penodol person. Mae llawer o’r nodweddion hyn wedi’u diogelu dan gyfraith y DU ac felly gall aflonyddu sy’n targedu’r nodweddion hyn fod yn drosedd.

    Y nodweddion sy’n cael eu diogelu:

    • Cyfeiriadedd rhywiol
    • Rhyw
    • Oed
    • Anabledd
    • Priodas a phartneriaeth sifil
    • Ailbennu rhywedd
    • Bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
    • Crefydd neu gred
    • Hil, gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol

    Cyngor a Chymorth

    Mae gan bob unigolyn yr hawl i ofyn i unrhyw aelod arall o gymuned y Brifysgol, boed yn fyfyriwr neu’n aelod staff i beidio ag ymddwyn mewn modd sy’n peri gofid iddyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n deall nad yw hyn yn bosibl bob tro. Gall myfyrwyr weithredu drwy ddefnyddio naill ai’r gweithdrefnau anffurfiol a/neu’r gweithdrefnau ffurfiol sy’n cael eu hamlinellu yn ein tudalennau Adrodd wrth y Brifysgol. 

    Gallwch hefyd gysylltu â’n Tîm Llesiant gan ddefnyddio ffurflen gais am gymorth os yw ar eich cyfer chi, neu ffurflen testun pryder os ydych chi’n rhoi gwybod ar ran rhywun arall.

    Adnoddau pellach

    • Ditch the Label: cymorth a chyngor arbenigol ar bob agwedd ar fwlio ac aflonyddu.
    • Cyngor ar Bopeth: yn cynnig enghreifftiau o aflonyddu a chyngor ar eich hawliau cyfreithiol os ydych yn cael profiad o aflonyddu.
    • Family Lives: yn cynnig cyngor ac arweiniad ar fwlio yn y brifysgol.

    National Bullying Helpline: Yr unig sefydliad elusennol yn y DU sy’n mynd i’r afael â bwlio oedolion a bwlio plant.

  • Mae cymdeithasu yn gallu bod yn rhan fawr o fywyd myfyriwr. Er ei bod yn bwysig cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd pan fyddwch chi allan, mae bod yn ddiogel yr un mor bwysig. 

    Dyma rai awgrymiadau i sicrhau bod gennych chi noson wych – ond diogel - pan fyddwch chi allan. 

    Bwytwch cyn (ac wrth) yfed alcohol

    Os yw eich stumog yn wag pan fyddwch chi’n dechrau yfed, mae alcohol yn cyrraedd eich gwaed yn llawer cynt. Gall hyn olygu eich bod chi’n teimlo effeithiau alcohol yn gyflym, gan ei gwneud hi’n anoddach rheoli’r hyn rydych chi’n ei yfed. Mae gwneud rhywbeth mor syml â bwyta pryd o fwyd cyn i chi fynd allan a bwyta byrbrydau tra byddwch chi allan yn eich helpu i fod mewn rheolaeth a theimlo’n ffres drannoeth. 

    Gofalu am eich ffôn a’i wefru

    O ddefnyddio mapiau i ddarganfod ble rydych chi, i aros mewn cysylltiad â’ch ffrindiau neu ffonio tacsi i gyrraedd adref, mae eich ffôn yn ffrind hanfodol ar noson allan. Gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei wefru’n llawn pan fyddwch chi’n gadael a gofalwch amdano pan fyddwch allan.

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gyrraedd adref

    Plan your night out – a big part of this planning is knowing how you are getting home safely.

    Bysiau:

    Edrychwch ar y llwybrau bysiau lleol – gallwch ddod o hyd i wasanaethau bws lleol cofrestredig gan ddefnyddio’r wefan gov.uk hon. Lawrlwythwch ap y darparwyr gwasanaethau bysiau lleol fel bod y wybodaeth ar flaenau eich bysedd. Er enghraifft, mae ap First Bus yn caniatáu i chi brynu a chadw tocynnau ar eich ffôn, dilyn eich bws yn fyw ar fap a bydd yn dweud wrthych pryd bydd y bws nesaf yn cyrraedd os byddwch chi wedi colli eich bws. Mae First Bus yn cynnwys nifer o a

    Tacsis:

    Mae dau brif fath o dacsis yn y DU – cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

    Gallwch gael gafael ar gerbydau hacni (mae pobl weithiau’n cyfeirio atyn nhw fel ‘tacsis du’ er y gallan nhw fod o liw gwahanol yn eich dinas neu’ch tref chi – er enghraifft ym Mryste, maen nhw’n las) mewn safleoedd tacsi (fe welwch y gair TAXIS wedi’i baentio ar wyneb y ffordd). Gallwch hefyd fflagio cerbydau hacni yn y stryd drwy sefyll mewn lle addas wrth ochr y ffordd a dal eich llaw allan i ddal eu sylw. Bydd arwydd ‘tacsi’ oren uwchben y sgrin wynt – dim ond os bydd hwn wedi’i oleuo y mae’r tacsi ar gael..

    Mae tacsis hurio preifat hefyd yn cael eu galw’n ‘minicabs’. Ni all gyrwyr cerbydau hurio preifat eich codi oni bai eich bod wedi archebu ymlaen llaw (dros y ffôn, ap, yn bersonol neu ar-lein). Dylai plât trwydded hurio preifat fod yn amlwg ar y car. Nid yw’n ddiogel mynd i mewn i dacsi hurio preifat sydd heb ei archebu ymlaen llaw – peidiwch â fflagio tacsi hurio preifat ar y stryd, hyd yn oed os oes ganddo blât trwydded gweladwy a bod y gyrrwr yn edrych yn barchus.

    Peidiwch ag aros am eich tacsi ar eich pen eich hun, gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau’n aros amdanoch chi a pheidiwch â chaniatáu i ffrind meddw deithio ar ei ben ei hun. 

    Ewch i wefan Unite Students i gael rhagor o gyngor defnyddiol ar sut i gael tacsi adref yn ddiogel yn y DU.

    Cerdded adref:

    Nid ydym yn argymell cerdded adref, hyd yn oed os mai dim ond taith fer ar droed yw hi. Fodd bynnag, os bydd achlysur yn codi pan na fydd modd osgoi hyn, dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd i sicrhau eich bod yn cyrraedd yn ddiogel:

    • Peidiwch byth â cherdded ar eich pen eich hun;
    • Cadwch at ardaloedd agored, wedi’u goleuo’n dda a cherddwch yn bwrpasol;
    • Cerddwch ar y palmant lle mae’r traffig yn dod i gwrdd â chi, fel eich bod yn gwbl ymwybodol os bydd car yn stopio yn agos atoch chi;
    • Ewch â larwm ymosodiad personol gyda chi i’w ddefnyddio mewn argyfwng.

    Cadwch yn ddigon pell oddi wrth afonydd

    Gall alcohol amharu’n ddifrifol ar eich gallu i oroesi mewn dŵr. Nod y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd (RLSS) yw gostwng cyfradd y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol mewn digwyddiadau trasig y gellir eu hosgoi’n llwyr fel arfer. Maen nhw’n cynnig y cyngor canlynol:

    • Peidiwch â cherdded adref ar bwys dŵr ar ôl noson allan – efallai y byddwch yn cwympo i mewn;
    • Gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau yn cyrraedd adref yn ddiogel ar ôl noson allan – peidiwch â gadael iddyn nhw gerdded ar bwys y dŵr;
    • Mae dŵr oer yn lladd ac yn gallu cymryd bywyd y nofiwr cryfaf hyd yn oed;
    • Peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr ar ôl i chi yfed – mae alcohol yn effeithio’n ddifrifol ar eich gallu i ddod allan;
    • Gwyliwch y fideo Peidiwch ag Yfed a Boddi ar YouTube.

    I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau digidol am ddim, ewch i dudalennau ymgyrch yr RLSS.

    Yfwch ddiodydd di-alcohol hefyd

    Mae yfed digon o ddŵr yn hanfodol er mwyn sicrhau eich bod wedi’ch hydradu wrth yfed alcohol. Mae alcohol yn dadhydradu’r corff, felly mae’n bwysig yfed dŵr neu ddiodydd di-alcohol eraill rhwng diodydd alcoholig. Mae llawer o adnoddau gwych ar-lein ar gyfer gwneud eich diodydd di-alcohol eich hun, ac mae nifer o leoliadau yn cynnig ‘mocktails’ fel dewis amgen a hwyliog yn lle alcohol.

    Gwyliwch eich diod a pheidiwch â sbeicio diodydd eraill

    Rhywun yn rhoi alcohol neu gyffuriau yn niod rhywun arall heb eu caniatâd neu heb yn wybod iddyn nhw yw ‘sbeicio’. Er mwyn osgoi sbeicio diodydd:

    • Prynwch eich diod eich hun bob tro a’i wylio’n cael ei arllwys.
    • Peidiwch â derbyn diodydd gan ddieithriaid.
    • Peidiwch byth â gadael eich diod heb neb i ofalu amdano wrth i chi ddawnsio, cymdeithasu neu fynd i’r toiled.
    • Peidiwch ag yfed na blasu diod unrhyw un arall.
    • Taflwch eich diod i ffwrdd os ydych chi’n meddwl ei bod yn blasu’n rhyfedd neu’n wahanol.

    Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi sbeicio eich diod:

    • Os byddwch chi’n dechrau teimlo’n rhyfedd, yn sâl neu’n feddw pan fyddwch chi’n gwybod na allech chi fod yn feddw, gofynnwch am help gan ffrind dibynadwy neu reolwyr y lleoliad.
    • Os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi sbeicio eich diod, gofynnwch i ffrind dibynadwy fynd â chi allan o’r lleoliad neu’r parti cyn gynted â phosibl a naill ai mynd â chi adref neu i’r ysbyty os ydych chi’n sâl iawn. Gallech chi hefyd ffonio ffrind, partner neu berthynas a gofyn iddyn nhw ddod i’ch casglu.
    • Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel, yn teimlo’n agored i niwed neu dan fygythiad, gallwch ofyn am help drwy fynd at staff y lleoliad a gofyn am ‘Angela’. Mae’r cod hwn yn dangos bod angen help arnoch a bydd aelod o staff hyfforddedig yn eich cynorthwyo a’ch cefnogi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan cynllun Ask for Angela.
    • Pan fyddwch chi wedi cyrraedd adref yn ddiogel, gofynnwch i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo aros gyda chi nes i effeithiau’r cyffur/alcohol ddiflannu. Gall hyn gymryd ychydig o oriau.
    • Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth meddygol os bydd ei angen arnoch. Mae bob amser yn well gwneud mynd i weld rhywun. 
    • Dywedwch wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd cyn gynted ag y gallwch. Gall hyn fod yn anodd ond maen nhw yno i’ch helpu chi a byddan nhw’n gwrando arnoch. Ffoniwch 999 (mewn argyfwng) neu 101 – mae angen i’r heddlu gael gwybod cymaint â phosib am achosion o sbeicio er mwyn iddyn nhw ei atal rhag digwydd yn y dyfodol.

    I gael rhagor o help a chyngor ar sbeicio diodydd, ewch i wefan drinkaware.

    Arhoswch gyda’ch gilydd a gwnewch yn siŵr bod pawb yn cyrraedd adref yn ddiogel

    Gofalwch am eich ffrindiau, arhoswch gyda’ch gilydd a gwnewch drefniadau i bawb gyrraedd adref. Gwnewch hi’n arferiad i roi gwybod i’ch gilydd pan fyddwch chi’n cyrraedd adref. 

    Lawrlwythwch apiau diogelwch

    Mae nifer o apiau diogelwch personol ar gael a all helpu i’ch cadw’n ddiogel. Mae’r rhan fwyaf yn rhad ac am ddim (neu’n cynnig cyfnod am ddim i ragbrofi) ac mae modd eu lawrlwytho i’r rhan fwyaf o ffonau symudol.

  • Yn PCYDDS rydyn ni’n poeni am eich diogelwch ar-lein ac eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gadw’n ddiogel ar-lein, sut i wybod os oes problem, a beth y gallwch chi ei wneud i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.

    Nid yw PCYDDS yn dioddef unrhyw oddefgarwch mewn perthynas â seiberfwlio a bydd unrhyw fyfyriwr sy’n cael profiad o seiberfwlio yn cael cefnogaeth lwyr y brifysgol. 

    Beth yw seiberfwlio?

    Mae seiberfwlio’n cyfeirio at y defnydd o dechnolegau digidol (gan gynnwys, ond heb gael eu cyfyngu i rwydweithiau cymdeithasol, gwefannau gemau, ystafelloedd sgwrsio ac apiau negeseuon) lle mai’r bwriad yw aflonyddu, cam-drin, tramgwyddo, bygwth, neu fychanu person arall.

    Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:

    • Cael eich eithrio’n fwriadol o sgyrsiau grŵp ar-lein.
    • Sylwadau cas ar-lein neu ar eich ffôn symudol
    • Sylwadau neu ymatebion ar eich postiadau ar y cyfyngau cymdeithasol/postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol amdanoch chi.
    • Anfon lluniau sarhaus trwy apiau anfon negeseuon
    • Creu proffiliau ffug ar-lein gyda’r bwriad o’ch difenwi
    • Lluniau annifyr neu niweidiol yn cael eu postio ar-lein heb eich caniatâd
    • Sïon/celwyddau amdanoch chi ar wefan, ar blatfform cyfryngau cymdeithasol neu ap anfon negeseuon
    • Cyfathrebu ar lafar neu sgwrs sarhaus yn ystod gêm ar-lein.

    Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n credu fy mod i’n cael fy seiberfwlio?

    Mae’n bwysig cofio nad eich bai chi yw unrhyw fath o fwlio ac mae yna ffyrdd y gallwch chi gael eich cefnogi.

    Efallai yr hoffech gysylltu â’r Tîm Llesiant gan ddefnyddio ffurflen gais am gymorth os yw ar eich cyfer chi, neu ffurflen testun pryder os ydych chi’n rhoi gwybod ar ran rhywun arall.

    Efallai y byddwch eisiau dweud wrth y Brifysgol am eich profiad. Mae manylion ynglŷn â sut mae gwneud hyn ar y dudalen Adrodd wrth y Brifysgol.

    Diogelwch Ar-lein

    Mae pob un ohonom yn gyfrifol am ein cadw ein hunain ac eraill yn ddiogel ar-lein. Dyma ambell i awgrym ymarferol:

    • Defnyddiwch osodiadau ‘preifatrwydd’ – cadwch broffiliau ar-lein yn breifat fel mai dim ond ffrindiau a theulu sy’n gallu eu gweld.
    • Meddyliwch cyn i chi bostio – meddyliwch am yr hyn rydych chi’n ei ddweud a’r effaith y gallai hynny ei chael. Fel rheol gyffredinol, peidiwch â phostio unrhyw beth yn gyhoeddus na fyddech chi’n barod i’w ddweud wrth berson arall wyneb yn wyneb. 
    • Peidiwch byth â phostio sylwadau ar-lein sy’n ymosodol neu a allai dramgwyddo neu achosi gofid i eraill.
    • Cofiwch fod popeth y byddwch yn ei bostio ar-lein yn creu ôl-troed digidol y gall ffrindiau, teulu a darpar gyflogwyr ei weld unrhyw bryd. 
    • Rhowch wybod i’r darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd (ISPs) am unrhyw achos o seiberfwlio. Gall seiberfwlio dorri’r telerau a’r amodau sy’n cael ei nodi gan ISPs. 
    • Cadwch eich data’n ddiogel trwy ddefnyddio cyfrineiriau anarferol. Defnyddiwch gyfuniad o lythrennau a phriflythrennau, rhifau a symbolau.
    • Peidiwch byth â rhannu gwybodaeth bersonol fel gwybodaeth banc, cyfeiriadau, rhifau ffôn neu unrhyw fath arall o brawf adnabod oni bai eich bod yn siŵr bod y cais yn dod oddi wrth ffynhonnell ddibynadwy.
    • Gwnewch yn siŵr eich bod yn allgofnodi o gyfrifiaduron cyhoeddus/sy’n cael eu rhannu.
    • Mae bygwth trais, pornograffi plant, anfon negeseuon neu ffotograffau anweddus heb ganiatâd, tynnu llun neu wneud fideo mewn man lle byddai rhywun yn disgwyl preifatrwydd, troseddau casineb, stelcio, dwyn manylion adnabod a dynwared yn droseddau. Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu 999 os yw’n argyfwng.

     Cyngor a Chymorth

    • National Bullying Helpline: Canolfan gynghori sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ar gyfer seiberfwlio neu aflonyddu ar-lein
  • Mae dibyniaeth yn broblem gyffredin, ond mae help a chefnogaeth ar gael.

    Mae dibyniaeth yn golygu nad oes gan rywun reolaeth dros wneud, cymryd neu ddefnyddio rhywbeth i’r pwynt lle gallai fod yn niweidiol. Mae’n bosibl mynd yn gaeth i bron unrhyw beth, er mai’r rhai mwyaf cyffredin yw gamblo, cyffuriau, ysmygu ac alcohol.

    Mae PCYDDS yn mabwysiadu dull o gefnogi ein myfyrwyr heb feirniadaeth. Os ydych chi’n poeni am ddibyniaeth, gallwch gael help gan y brifysgol drwy lenwi ffurflen gais am gymorth os yw ar eich cyfer chi, neu ffurflen testun pryder os yw ar gyfer rhywun arall.

    Beth sy’n achosi dibyniaeth?

    Mae llawer o resymau pam mae dibyniaeth yn dechrau. Gall cyffuriau, nicotin ac alcohol effeithio ar y ffordd rydych chi’n teimlo yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall y teimladau hyn fod yn bleserus ac oherwydd hyn, mae awydd cryf yn datblygu i ddefnyddio’r sylweddau unwaith eto. Gall gamblo effeithio ar ran o’r ymennydd sy’n rhyddhau math o niwrodrosglwyddydd o’r enw dopamin. Mae dopamin yn gemegyn sy’n gwneud i chi ‘deimlo’n dda’ ac yn creu ymdeimlad o hapusrwydd a phleser. Gall y wefr feddyliol hon ar ôl ennill greu awydd cryf i roi cynnig arall arni ac ail-greu’r teimladau pleserus hynny. Gall hyn ddatblygu i fod yn arfer sy’n anodd iawn rhoi’r gorau iddo. 

    Sut gall dibyniaeth effeithio arnoch chi 

    Gall y straen o geisio rheoli dibyniaeth wneud niwed sylweddol i’ch bywyd gwaith a’ch perthynas ag eraill. Gall camddefnyddio sylweddau gael effeithiau corfforol a seicolegol difrifol. 

    Mae rhywfaint o waith ymchwil yn awgrymu bod sail enetig i ddibyniaeth, er y gall ffactorau amgylcheddol, fel bod yng nghwmni eraill sydd â dibyniaeth gynyddu’r risg hefyd. 

    Gall camddefnyddio sylweddau fod yn ffordd o ‘dawelu’ trawma, gofid emosiynol neu broblemau anodd.

    Cael help i fynd i’r afael â dibyniaeth 

    Mae’n bwysig cofio bod dibyniaeth yn gyflwr y gellir ei drin. Beth bynnag yw’r ddibyniaeth, mae sawl ffordd y gallwch chi geisio cymorth a chefnogaeth. Gallwch chi siarad â’ch meddyg teulu i gael cyngor, neu gysylltu â sefydliad sy’n arbenigo mewn helpu pobl sydd â dibyniaeth.

    Mae nifer o gyfeiriaduron ar-lein yn cael eu rhedeg gan y GIG lle gallwch ddod o hyd i wasanaethau sy’n trin dibyniaeth yn eich ardal: 

    I siarad â rhywun am unrhyw fath o ddibyniaeth a hynny’n ddienw, gallwch ffonio’r Samariaid am ddim ar 116 123. 

    Cyngor a Chymorth 

    • Barod
      Nod Barod yw cefnogi unrhyw un sy’n barod am newid a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau eu hunain neu i fywydau pobl eraill. Mae Barod yn rhoi help ac arweiniad cyfrinachol yn rhad am ddim i unrhyw un y mae’r defnydd o gyffuriau neu alcohol yn effeithio arnyn nhw, naill ai eu defnydd nhw neu ddefnydd rywun arall.
      Mae Barod yn darparu cymorth dros y ffôn ac ar-lein ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm a dydd Gwener 9am-4:30pm, ac eithrio gwyliau banc. Mae modd cysylltu â nhw dros y ffôn yn rhad ac am ddim ar 0808 808 2234. Os bydd angen help arnoch y tu allan i’r oriau hyn, gallwch gysylltu â DAN247 yn rhad ac am ddim ar 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i 81066.
       
    • GamCare
      Mae GamCare yn cynnig cymorth a chefnogaeth i unrhyw un y mae gamblo’n effeithio arnyn nhw. Gallwch eu ffonio yn rhad ac am ddim, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 8020 133, gallwch gael sgwrs fyw gyda chynghorydd, neu sgwrs Whatsapp gyda chynghorydd ar 020 3031 8881.

     

  • Rydyn ni’n deall bod yna fyfyrwyr sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw; mewn gwaith ymchwil diweddar a wnaed gan Brifysgol Abertawe, canfuwyd fod pump y cant o fyfyrwyr yn ymwneud, neu wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant rhyw i ryw raddau, gydag ugain y cant arall yn nodi eu bod wedi ystyried gweithio yn y diwydiant rhyw.

    Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n weithiwr rhyw sydd eisiau cymorth, mae PCYDDS yn darparu lle diogel a phreifat i chi siarad yn agored am eich sefyllfa heb feirniadaeth, ac i’ch tywys drwy’r cymorth sydd ar gael i chi ar y campws ac oddi arno.​ Gallwn eich cyfeirio at sefydliadau arbenigol sy’n gweithio gyda gweithwyr rhyw, yn ogystal â thrafod unrhyw faterion a allai fod yn effeithio ar eich llesiant neu’ch astudiaethau. Gallwch ofyn am gymorth drwy ein ffurflen gais am gymorth os yw ar eich cyfer chi, neu ffurflen testun pryder os yw ar gyfer rhywun arall.

    Beth yw gwaith rhyw? 

    Mae gwaith rhyw yn derm cyffredinol sy’n cynnwys unrhyw beth sy’n ymwneud â chyfnewid gwasanaethau rhywiol yn uniongyrchol am nwyddau neu arian. Gall hyn fod ar ffurf cyswllt corfforol uniongyrchol ac ysgogiad rhywiol anuniongyrchol. Mae enghreifftiau o waith rhyw yn cynnwys (ond heb gael eu cyfyngu i’r canlynol):

    • Bod yn ‘fabi siwgr’
    • Gwasanaethau gwegamera a’r rhyngrwyd
    • Modelu ‘glamour’
    • Hebrwng
    • Gwerthu rhyw
    • Dawnsio mewn clybiau stripio
    • Actio yn y diwydiant pornograffi

    Gwaith rhyw a’r gyfraith

    Mae cyfreithiau sy’n ymwneud â gwaith rhyw yn y DU yn gymhleth a gallan nhw fod yn ddryslyd gan ei bod yn gyfreithlon i fod yn weithiwr rhyw, ond mae llawer o’r gweithgareddau cysylltiedig yn anghyfreithlon. Mae gweithgareddau anghyfreithlon yn cynnwys llithio ar y stryd, rheoli puteindy neu rannu safle gyda gweithiwr rhyw arall. 

    Mae rhagor o fanylion am gyfreithlondeb gwaith rhyw ar gael yn y llyfryn Sex Workers and the Law.

    Cyngor a Chymorth

    • SWARM
      Gweithwyr rhyw sy’n gweithredu ar y cyd i ymgyrchu dros hawliau a diogelwch gweithwyr rhyw yn y DU.
       
    • National Ugly Mugs 
      Sefydliad diogelwch ac adrodd cenedlaethol sy’n darparu gwell mynediad at gyfiawnder a diogelwch i weithwyr rhyw. Gall gweithwyr rhyw anfon adroddiadau am gleientiaid peryglus, sydd wedyn yn cael eu hanfon at weithwyr rhyw eraill, yn ogystal ag at brosiectau cymorth rheng flaen ledled y DU.
       
    • English Collective of Prostitutes
      Rhwydwaith o weithwyr rhyw ar y strydoedd ac o dan do sy’n ymgyrchu dros ddiogelwch a dad-droseddoli.
       
    • Revenge Porn Helpline
      Mae’n cynnig cefnogaeth i oedolion sy’n cael profiad o gam-drin delweddau personol – neu ‘revenge porn’ fel y mae sawl un yn ei alw.
       
    • Cymdeithas Cymorth Pineapple
      Gwasanaeth therapi a chymorth am ddim i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant oedolion ar-lein.
       
    • Clinig S
      Cyngor cyfrinachol am ddim i ddynion, menywod, ac unigolion traws neu anneuaidd o ran rhywedd sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw neu adloniant oedolion.
  • Math o drosedd sy’n cynnwys cyfrifiadur neu rwydwaith cyfrifiadurol yw seiberdroseddu. Efallai fod y cyfrifiadur wedi ei ddefnyddio wrth gyflawni’r drosedd, neu efallai mai dyma’r targed. Gall seiberdroseddu wneud niwed i ddiogelwch neu sefyllfa ariannol rhywun.

    Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i ni rannu’r fideos hyn gyda chi fel y gallwch amddiffyn eich hun rhag seiberdroseddu.

  • Mae’n bwysig gofalu am eich iechyd wrth symud oddi cartref am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru gyda meddyg teulu newydd a dod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol.

    Pethau i’w hystyried cyn cyrraedd:

    1. Cofrestru gyda meddyg teulu lleol

    Os ydych chi, fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr, yn treulio mwy o wythnosau’r flwyddyn yn eich cyfeiriad prifysgol nag yn eich cartref teuluol, mae angen i chi gofrestru gyda meddyg teulu sy’n agos i’r brifysgol cyn gynted â phosibl. Gallwch ddewis cofrestru gydag unrhyw feddyg teulu lleol. 

    2. Cofrestru gyda deintydd

    Nid yw meddygon yn delio â phroblemau deintyddol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru gyda deintydd lleol. Nid yw pob triniaeth yn rhad ac am ddim, hyd yn oed o dan y GIG. Efallai y gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau iechyd, gan gynnwys presgripsiynau a gofal deintyddol. 

    3. Gwiriwch eich brechlynnau

    Mae myfyrwyr bellach yn cael cynnig brechlyn fel mater o drefn i atal llid yr ymennydd. Mae’r brechlyn MenACWY yn amddiffyn rhag 4 peth gwahanol sy’n achosi llid yr ymennydd a septisemia: clefydau meningococol (Men) A, C, W ac Y. Mae’n cymryd lle’r brechlyn Hib/MenC ar wahân. Ond os ydych chi’n fyfyriwr sy’n mynd i ffwrdd i brifysgol neu goleg am y tro cyntaf, cysylltwch â’r meddyg teulu rydych wedi cofrestru ag ef/hi i ofyn am y brechlyn MenACWY, cyn dechrau’r flwyddyn academaidd yn ddelfrydol. 

    Mae hyn oherwydd y byddwch mewn perygl arbennig o uchel yn ystod wythnosau cyntaf y tymor, pan fyddwch yn debygol o ddod i gysylltiad â llawer o bobl newydd. Mae prifysgolion a cholegau hefyd yn cynghori myfyrwyr i gael eu himiwneiddio rhag clwy’r pennau cyn dechrau ar eu hastudiaethau. Mae’r brechlyn MMR (ar gyfer clwy’r pennau, y frech goch a rwbela) yn rhan o amserlen imiwneiddio arferol y GIG yn ystod plentyndod. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc sydd wedi’u magu yn Lloegr wedi cael 2 ddos ohono yn ystod eu plentyndod.

    Os nad ydych chi’n siŵr a ydych wedi cael 2 ddos o’r brechlyn MMR, gofynnwch i feddyg teulu am frechlyn ‘dal i fyny’. Dylech gael brechlyn ffliw blynyddol os oes gennych asthma a’ch bod yn cymryd steroid anadlu. Dylech hefyd gael brechlyn ffliw os oes gennych gyflwr hirdymor difrifol fel clefyd yr arennau.

    4. Mynnwch ddulliau atal cenhedlu

    Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu cael perthnasau rhywiol tra byddwch yn astudio, mae’n beth da i fod yn barod. Mae dulliau atal cenhedlu a chondomau ar gael am ddim i bawb gan unrhyw feddyg teulu – does dim rhaid i chi fynd at eich meddyg chi - neu glinig cynllunio teulu. Dod o hyd i’ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol.

    5. Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)

    Fel myfyriwr addysg uwch sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) os oes gennych:

    · anabledd

    · cyflwr iechyd hirdymor

    · cyflwr iechyd meddwl · anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia

    Meddygon Teulu Caerfyrddin

    Meddygfa Furnace House, Heol Sant Andreas, Caerfyrddin, SA31 1EX Ffôn: 01267 236616

    Meddygfa Lôn Morfa, Caerfyrddin, SA31 3AX Ffôn: 01267 234774

    Meddygfa San Pedr, Caerfyrddin, SA31 1AH Ffôn: 01267 236241

    Meddyg Teulu Llambed

    Meddygfa Bro Pedr, Llys Taliesin, Llambed, SA48 7AA Ffôn: 01570 422665

    Meddygon Teulu Abertawe

    Meddygfa Kingsway, 37 Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 5LF

    01792 650716

    Canolfan Feddygol SA1 – Heol Langdon, Glannau Abertawe, Abertawe. SA1 8QY

    Ffôn: 01792 481444

    Gwefan: Canolfan Feddygol SA1 a Meddygfa Dewi Sant (wales.nhs.uk)

  • Mae’r mislif yn rhan arferol o’r gylchred fislifol lle mae person yn gwaedu o’r wain am nifer o ddyddiau bob mis. Mae hyn yn dechrau yn ystod glasoed ac yn parhau am gyfnod sylweddol o fywyd oedolyn. Mae’r nifer o ddiwrnodau y mae hyn yn para bob mis yn amrywio o un unigolyn i’r llall.

    Mae rhai pobl yn wynebu newidiadau corfforol ac emosiynol yn gysylltiedig â’u cylchred fislifol, sy’n cael eu galw’n syndrom cyn mislif (PMS) neu dyndra cyn mislif (PMT).

    Mae llawer o nwyddau mislif ar gael sy’n addas ar gyfer anghenion a dewisiadau’r unigolyn, gan gynnwys padiau, tamponau, cwpanau mislif, padiau a dillad isaf y gellir eu hailddefnyddio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG ac ar wefan Brook.

    Ystyriol o’r Mislif

    Gan ddefnyddio cyllid prosiect cychwynnol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’r brifysgol wedi ymrwymo i fod yn fwy ystyriol o’r mislif; mae hynny’n cynnwys codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r mislif a nwyddau mislif i leihau stigma a thabŵ.

    Urddas Mislif

    Mae Urddas Mislif yn cyfeirio at argaeledd a mynediad at nwyddau mislif i gynorthwyo’r rhai sy’n cael mislif.

    Os bydd angen nwyddau arnoch tra byddwch ar gampws y brifysgol, mae padiau a thamponau tafladwy ar gael mewn amrywiol doiledau a derbynfeydd. 

    Tlodi Mislif

    Tlodi mislif yw pan nad oes gan unigolyn nwyddau mislif gan nad yw’n gallu eu fforddio.

    Mewn arolwg o 1000 o ferched 14-21 oed yn y DU a gynhaliwyd gan Plan International UK yn 2017, canfuwyd bod 1 o bob 10 o’r rhai a holwyd wedi methu â fforddio nwyddau mislif. O’r rhai a holwyd, bu’n rhaid i 14% ofyn am gael benthyg nwyddau mislif gan ffrind gan nad oedden nhw’n medru fforddio eu prynu, ac roedd 12% wedi creu eu nwyddau mislif eu hunain gan nad oedden nhw’n medru fforddio eu prynu.

    Cronfa Galedi

    Fel Prifysgol, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod nwyddau mislif ar gael i’n myfyrwyr yn ystod cyfnodau o galedi. Rydyn ni’n cynnig cyfle i’r myfyrwyr hynny sydd wedi defnyddio’r gronfa galedi i archebu nwyddau y gellir eu hailddefnyddio i gyfeiriad o’u dewis. Bydd hyn yn sicrhau nad ydyn nhw’n cael ei chael hi’n anodd prynu nwyddau mislif bob mis ac felly’n sicrhau nad yw’r myfyrwyr yn dioddef o dlodi mislif.

  • Gwybodaeth Bwysig am Lid yr Ymennydd a’r Frech Goch

    Mae PCYDDS yn poeni am iechyd a llesiant ein myfyrwyr. Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o lid yr ymennydd a’r frech goch ymhlith myfyrwyr Prifysgol yn y DU. Cymrwch amser i ddarllen drwy’r wybodaeth ar yr hwb myfyrwyr yn ofalus i ddeall beth yw’r clefydau, y symptomau a sut i gael cymorth os oes angen.

    Mae’n bwysig amddiffyn eich hun rhag clefyd a allai beryglu bywyd. Bydd nifer o fyfyrwyr wedi cael y brechlyn yn blant. Gallwch wirio gyda’ch meddyg teulu os nad ydych chi’n siŵr a ydych wedi cael eich brechu ai peidio.

    Beth yw clefyd meningococal?

    Mae llid yr ymennydd a septisemia yn glefyd difrifol a allai beryglu bywyd a all ddatblygu’n sydyn. Mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau fel y gallwch chi gael help yn gyflym. Mae myfyrwyr prifysgol mewn mwy o berygl yn sgil gweithio mewn amgylcheddau cyfyng a chysylltiadau agos, megis neuaddau’r Brifysgol.

    Symptomau tebyg i annwyd

    Meningococcal disease and septicaemia can be difficult to diagnose. Symptoms include:

    • Tymheredd uchel
    • Peswch
    • Trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn
    • Llygaid coch, tost a llawn dagrau
    • Tisian

    Beth dylwn i ei wneud os oes gen i symptomau?

    Os ydych chi’n amau llid yr ymennydd neu septisemia, ffoniwch 999 yn ddi-oed. Gall cael triniaeth feddygol ar unwaith achub bywyd.

    Helpu i amddiffyn eich iechyd

    Rydym am sicrhau eich bod chi’n cael y profiad gorau yn ystod eich astudiaethau. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich brechlynnau GIG arferol am ddim. Gallwch chi fwynhau eich profiad yn y brifysgol gan wybod eich bod chi wedi gwneud popeth i’ch amddiffyn eich hun rhag clefydau a gwirio bod eich gwybodaeth yn gyfredol am unrhyw un o’r brechlynnau arferol canlynol:

    • MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela)
    • Brechlyn MenACWY (yn amddiffyn yn erbyn 4 math o glefyd meningococal)
    • Brechlyn HPV ar gyfer myfyrwyr benywaidd, gan amddiffyn rhag canserau ceg y groth a chanserau eraill a achosir gan y firws papiloma dynol (HPV)
    • Brechlyn atgyfnerthu Td/IPV yn amddiffyn rhag difftheria, tetanws a pholio

    Os nad ydych chi’n siŵr am eich brechlynnau, cysylltwch â’ch meddygfa gofrestredig.

    Rhagor o wybodaeth

    Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y clefyd Meningococal ar Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen rhagor.

    Cliciwch yma i gael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch chi i sicrhau eich bod chi’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich brechiadau
    MenACWY vaccine information
    MMR vaccine information
    Meningitis information
    Measles information
    Mumps information
    Rubella information

    Meningitis Now Symptoms