Joseph Allen yn PCYDDS
Enw: Joseph Allen
Cwrs: BA Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol
Astudiaethau Blaenorol: Campws Llwyn y Bryn:Celf a Dylunio Lefel 2, Ffotograffiaeth Lefel 2
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Joseph ar BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae’r offer a’r mannau stiwdio sydd ar gael ar Gampws Dinefwr PCYDDS yn caniatáu imi gyrraedd fy mhotensial llawn fel ffotograffydd. Mae’r darlithwyr profiadol yn creu amgylchedd dysgu rhagorol.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Mae PCYDDS yn cynnig tîm amrywiol o ffotograffwyr ac artistiaid profiadol sydd wir wedi’u buddsoddi mewn llwyddiant myfyrwyr. Roedd hyn yn amlwg yn ystod fy nghyfweliad gyda Ryan a Joe.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Ffotograffiaeth. Rwy’n tynnu lluniau o bobl mewn mannau cyhoeddus yn rheolaidd, yn ogystal â golygfeydd a thirluniau, er mwyn adeiladu fy mhrofiad yn barhaus.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Fy mwriad yw parhau i astudio er mwyn i mi allu dod yn ddarlithydd ffotograffiaeth. Os nad yw’n bosibl ar unwaith, rwy’n gobeithio sefydlu fy hun fel ffotograffydd dogfennol neu ffotonewyddiadurwr.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Y rhyddid i ehangu fy arfer a chael mynediad at ystod eang o wybodaeth a chyfleusterau. Mae wedi fy helpu i dyfu i fod yn ffotograffydd cryfach.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Buaswn. Mae’r darlithwyr yn groesawgar, mae’r cyfleusterau o ansawdd uchel, mae’r campws yn dawel, ac mae cefnogaeth ar gael bob amser.