Lauren yn PCYDDS
Enw: Lauren Stokes
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Cyfathrebiadau Graffig / Tecstilau Celf / Seicoleg
Tref eich cartref: Cotswolds, Wiltshire
Profiad Lauren ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Un o’m hoff bethau am astudio ar gampws Dinefwr oedd cael mynediad at yr holl gyfleusterau a’r rhyddid i arbrofi’n greadigol. Pryd bynnag roeddwn i am roi cynnig i dechneg newydd neu archwilio syniad ymhellach, roedd y staff bob amser yn hynod gefnogol ac yn hapus i’m helpu i ddod ag ef yn fyw. Roedd y stiwdios a’r gweithdai yn agored ac yn hygyrch pryd bynnag roeddwn i eu hangen, a oedd wir wedi fy annog i wthio fy nghreadigrwydd a datblygu fy sgiliau. Yn ogystal, roeddwn i’n dwlu ar leoliad y campws yng nghanol y ddinas, gyda galerïau, siopau, a’r traeth yn agos ar gyfer ysbrydoliaeth y tu hwnt i’r stiwdio.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais astudio yn PCYDDS achos, o’r eiliad i mi gamu i’r stiwdio, roedd yn teimlo fel amgylchedd croesawgar ac ysbrydoledig lle roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n cael fy annog i ddatblygu a mireinio fy ngalluoedd creadigol i’w llawn botensial. Roedd gweld y llwybrau amrywiol a gymerwyd gan raddedigion blaenorol, llawer ohonynt a oedd wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau roeddwn i wedi’u hedmygu ers amser maith, wedi atgyfnerthu fy nghred mai dyma’r lle i mi feithrin fy uchelgeisiau a’m paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau, cafodd rai o’m hoff atgofion eu gwneud gyda’r ffrindiau a’r cyd-letywyr yr oeddwn wedi cwrdd â nhw trwy fy nghwrs ac ar draws cymuned ehangach y brifysgol. Treulion ni brynhawniau di ri ar y traeth, yn chwilio mewn siopau elusen am fargeinion, ac archwilio arfordir hardd y Gŵyr. Yn ogystal, roedd gan Abertawe awyrgylch cymdeithasol gwych, gyda llawer o dafarndai yn cynnal nosweithiau gyda cherddoriaeth byw ac roedd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn mewn leoliadau ar draws y ddinas. Cynigiodd y gydbwysedd berffaith rhwng bywyd myfyrwyr, creadigrwydd a’r cyfle i wneud ffrindiau oes.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs yw’r stiwdio a’r staff. Nid yn unig mae gan y stiwdio gyfleusterau anhygoel i arbrofi â nhw, ond mae gallu cael fy ngofod desg fy hun wedi golygu fy mod i’n gallu ymgolli’n llwyr mewn prosiect pan rwy’n gweithio arno. Mae’r staff mor gefnogol hefyd nid yn unig i fy mhrosiectau, ond i fi fel person a’r holl bethau rwyf eisiau eu cyflawni yn y dyfodol. Mae cymuned mor hyfryd yn y stiwdio, sy’n ei wneud yn lle mor hyfryd i weithio hefyd.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n bendant yn argymell astudio yn PCYDDS, os wyt ti eisiau rhywle lle mae’r staff yno i dy gefnogi. Mae cyfleusterau anhygoel yno, ac mae gan y brifysgol y cydbwysedd perffaith o amgylchedd cymdeithasol bywiog a chefn gwlad. Dyma’r lle i astudio. Nid yn unig wyt ti’n cael cymorth trwy gydol dy amser yn astudio, ond maen nhw’n ei wneud yn flaenoriaeth i dy arfogi â phopeth sydd ei angen arnat i gael rôl yn y diwydiant o dy ddewis wrth i ti baratoi i raddio.
News
Cynhaliodd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) arddangosfa o waith myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau a ddatblygwyd mewn ymateb i friff byw yn y diwydiant gan frand eiconig o Brydain, sef Laura Ashley.
Mae un o raddedigion BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau Coleg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi arddangos ei doniau creadigol a'i hysbryd entrepreneuraidd yn Wythnos Ffasiwn Caerdydd yn ddiweddar.
Mae myfyrwyr y rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn gweithio gyda’r brand ffasiwn Swedaidd, Monki. Nid yw'r myfyrwyr yn ddieithr i friffiau byw deinamig fel rhan o'u profiad dysgu, ac nid dyma'r tro cyntaf iddynt gydweithio â brand ffasiwn o Sweden.