Skip page header and navigation

Cynhaliodd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) arddangosfa o waith myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau a  ddatblygwyd mewn ymateb i friff byw yn y diwydiant gan frand eiconig o Brydain, sef Laura Ashley, i anrhydeddu pen-blwydd eu sylfaenydd yn 100 mlwydd oed.

Surface Pattern Students, Lecturers and Laura Ashley team

Mae’r prosiect yn rhan o Laura Ashley: 100 Years of ân Icon, ymgyrch canmlwyddiant y brand a fydd yn para blwyddyn i ddathlu bywyd ac etifeddiaeth y dylunydd a anwyd yng Nghymru. Yn rhan o’r dathliadau, gweithiodd y cwmni mewn partneriaeth â Choleg Celf Abertawe, gan wahodd myfyrwyr Patrwm Arwyneb a Thecstilau i ymateb i friff a ysbrydolwyd gan ei archifau yn Llundain, y gwnaethant ymweld â nhw yn gynharach yn y broses. Heriodd y briff y myfyrwyr i greu casgliad newydd dychmygus wedi’i ysbrydoli gan yr archif, a’i siapio gan eu gweledigaeth greadigol eu hunain.

Roedd gweithio i friff byw a osodwyd gan un o frandiau cartref a ffordd o fyw mwyaf adnabyddus Prydain yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i fyfyrwyr i ddisgwyliadau dylunio proffesiynol – o ymchwil dylunio a datblygu cysyniadau hyd at fireinio gwaith celf i’w gyflwyno.

Ar 3 Chwefror, ymwelodd cynrychiolwyr o Laura Ashley â Choleg Celf Abertawe i adolygu casgliadau’r myfyrwyr, gan roi cyfle iddynt gyflwyno eu gwaith yn uniongyrchol i dimau dylunio a marchnata’r brand, a derbyn adborth proffesiynol.

Creodd y myfyrwyr ystod o ddyluniadau, o ddehongliadau cyfoes o flodau nodweddiadol Laura Ashley i ailadrodd patrymau mewn ffordd feiddgar, gan gynhyrchu darnau ar gyfer addurniadau mewnol a chynnyrch y cartref fel papurau wal, teils a ffabrigau, yn ogystal â chysyniadau ar gyfer dillad merched. Roedd pob casgliad yn defnyddio treftadaeth y brand yn ysbrydoliaeth wrth gyflwyno ymagweddau ffres, blaengar at liw, patrwm ac adrodd straeon.

Cafodd Sarah Davies, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, ei henwi’n enillydd, ac fe dderbyniodd hamper Laura Ashley a chyfle unigryw gyda’r cwmni i gael ei mentora. Mae ei chasgliad, Rhamant y Rhaglywiaeth (‘Regency Romance’), yn defnyddio dyfrlliwiau wedi’u paentio â llaw a ddatblygwyd yn batrymau digidol i greu dyluniadau chwareus, neoglasurol ar gyfer gorchuddion wal, tecstilau a chynnyrch cartref moethus.

Enillydd y briff byw, Sarah Davies
Myfyrwraig trydedd flwyddyn ac enillydd y briff byw, Sarah Davies gyda'i chasgliad, 'Regency Romance'

Wrth siarad am ei phrofiad o weithio ar y briff byw hwn, dywedodd Sarah: “Buodd hwn yn brofiad amhrisiadwy, a alluogodd i mi gymhwyso fy sgiliau mewn lleoliad proffesiynol a chael mewnwelediad i ddisgwyliadau’r diwydiant.

“Trwy weithio gyda brand enwog fel Laura Ashley amlygwyd y ffordd mae cysylltiadau cryf y cwrs â diwydiant, a’r profiadau cysylltiedig, yn cefnogi myfyrwyr wrth baratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol, yn magu hyder ac yn darparu profiad hanfodol yn y byd go iawn.”

Dywedodd Helen Ashmore, Pennaeth Dylunio ar gyfer y Cartref a Ffasiwn yn Laura Ashley:

“Yn wir, cawsom ein hysbrydoli gan safon y gwaith gan bob myfyriwr, ond roedd casgliad Sarah yn sefyll allan am y ffordd yr oedd cadw at y brand ac yn hollol o’r foment. Roedd ei hymateb yn dangos rhywbeth ffres a pherthnasol yn ddiwylliannol, ac rydym yn gyffrous i’w mentora mewn pa bynnag ffordd y bydd hi’n ei dewis - o arweiniad gyda’i phortffolio i lywio disgwyliadau’r diwydiant.

“Mae ein cysylltiad â Choleg Celf Abertawe yn teimlo’n arbennig o ystyrlon o ystyried gwreiddiau Cymreig Laura Ashley, ac mae wedi bod yn hyfryd gweld y berthynas hon yn tyfu. Rydym yn ystyried y tîm a’r myfyrwyr yn rhan o’n teulu creadigol estynedig nawr, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth hon - gan gynnwys gweld pawb yn New Designers yn nes ymlaen eleni.”

Winner, Sarah and Helen Ashmore from Laura Ashley
Myfyrwraig fuddugol, Sarah Davies a Phennaeth Dylunio yn Laura Ashley, Helen Ashmore

Mae’r bartneriaeth gynyddol rhwng Coleg Celf Abertawe a Laura Ashley yn adeiladu ar lwyddiant Anna Eynon, un o’n graddedigion Patrymau Arwyneb a Thecstilau, a ddechreuodd ei pherthynas â’r brand pan enillodd Wobr Ffordd o Fyw Laura Ashley yn New Designers 2024, arddangosfa ddylunio graddedigion fwyaf y DU. Arweiniodd ei hinterniaeth fis gyda’r cwmni at lansio ei chasgliad, The Water’s Edge, yn rhan o’r casgliad AW25 yn siop flaenllaw newydd Laura Ashley yn Thurrock, Essex, a agorwyd yn ystod dathliadau’r canmlwyddiant. Mae cyflawniadau Anna wedi cryfhau cysylltiadau rhwng y brand a’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau, gan helpu i greu cyfleoedd i fyfyrwyr presennol weithio ar eu prosiect eu hunain sy’n canolbwyntio ar y diwydiant.

Anna Eynon with her textile display behind her

Anna Eynon (MDes Patrwm Arwyneb a Thecstilau, 2024)

Y gwaith cydweithredol arbennig hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o waith cydweithredol â’r diwydiant sydd wedi’i hymgorffori yn y cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Mae myfyrwyr yn gweithio yn rheolaidd ar friffiau byw sy’n pontio’r ystafell ddosbarth a’r byd proffesiynol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maent wedi dylunio cysyniadau goleuo ar gyfer Anglepoise , casgliadau print ar gyfer Monki, darluniau ffasiwn ar gyfer H&M, ac wedi cynnig elfennau mewnol moethus ar gyfer Rolls Royce. Mae’r partneriaethau hyn yn galluogi myfyrwyr i adeiladu portffolios proffesiynol cryf, datblygu rhwydweithiau diwydiant, a magu hyder wrth gyflwyno eu syniadau i gleientiaid allanol.

A smiling lady dressed in a patterned top, looking at the camera, against a black backdrop.

Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Gyda chyfleoedd i ddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, datblygu sgiliau dylunio yn y byd go iawn a chysylltu â brandiau creadigol blaenllaw, mae myfyrwyr y cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn parhau i elwa o amgylchedd dysgu sydd wedi’i wreiddio mewn arfer proffesiynol. Wrth i’r berthynas â Laura Ashley esblygu, mae’n adlewyrchu ymrwymiad ehangach y brifysgol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd creadigol uchelgeisiol, sy’n barod i’r dyfodol.

Mae PCYDDS yn 1af yng Nghymru ac ymhlith y 5 prifysgol orau yn y DU ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau (Tablau Cynghrair y Guardian 2026), gan dynnu sylw pellach at gryfder ei dull addysgu creadigol ac ymagwedd sy’n alinio â’r diwydiant.


Dyma olwg ar rai o gasgliadau terfynol y myfyrwyr:

Sophie Drew

'A Picnic in the Park' gan Sophie Drew

“Gweithio ar y briff byw hwn gyda Laura Ashley fu uchafbwynt fy amser yn Y Drindod Dewi Sant. Roedd cydweithio â brand byd-eang mor eiconig, un rydw i wedi tyfu i fyny gydag ef, yn gyffrous ac yn ysbrydoledig. Mae wedi cryfhau fy hyder fel dylunydd a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth lunio fy ngyrfa yn y dyfodol o fewn y diwydiant.”

Lauren Stokes

'Château's Orchard' gan Lauren Stokes

“Mae gweithio gyda Laura Ashley wedi bod yn brofiad anhygoel. Nid yn unig y mae wedi bod yn gyfle gwych i ychwanegu at ein portffolios o waith, ond rydym wedi gallu derbyn adborth beirniadol gan dîm Laura Ashley ar y gwaith rydym yn ei greu fel pe baem yn gweithio yn eu stiwdio ddylunio.”

Maja Lane

'Stitched Together' gan Samantha McGrath

“Mae’r briff byw gyda Laura Ashley wedi bod yn gyfle gwych i brofi sut mae’r diwydiant yn gweithredu, yn ogystal â darparu allbwn gwerthfawr sy’n dangos i gyflogwyr yn y dyfodol ein gallu i weithio o dan derfyn amser wrth fodloni disgwyliadau briff penodol.”

Samantha McGrath

'Ornamental Damask' gan Maja Lane

“Mae wedi fod yn fraint i fod yn rhan o’r prosiect hwn, o ymweld â’r archif i osod ein casgliadau terfynol. Mae’r profiad hwn wedi datblygu fy sgiliau proffesiynol a chreadigol y gallaf eu defnyddio ar gyfer fy nghyflogadwyedd yn y dyfodol.”

Robyn Thorpe

'From the Moors' gan Robyn Thorpe

“Rwy wedi mwynhau archwilio dulliau a thechnegau newydd wrth ddylunio ar gyfer brand mor sefydledig a dylanwadol. Rwy’n teimlo bod y prosiect hwn wedi cryfhau fy hyder wrth weithio i ddisgwyliadau’r diwydiant a bydd yn werthfawr iawn wrth fy nghefnogi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol yn y diwydiant dylunio tecstilau.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon