Profiad Nathan y yn PCYDDS
Profiad Nathan ar BEng Peirianneg Beiciau Modur
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth am y campws yw’r amgylchedd peirianneg ymarferol. Mae gallu gweithio o gwmpas gweithdai, cerbydau, cyfleusterau gweithgynhyrchu, ac offer profi wedi gwneud i’r cwrs deimlo’n ymarferol iawn. Mae hefyd wedi creu cysylltiad cryf rhwng y theori a ddysgir mewn darlithoedd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen mewn diwydiant.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS oherwydd bod y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro yn cynnig ffocws ymarferol cryf ochr yn ochr â’r cynnwys academaidd. Roeddwn i am gael cwrs a fyddai’n caniatáu imi ddatblygu’n beiriannydd crwn, nid yn unig trwy ddarlithoedd, ond trwy waith dylunio, gweithgynhyrchu, profi a dadansoddi go iawn. Mae’r ffocws ar chwaraeon moduro, mynediad at weithdai, a dysgu seiliedig ar brosiectau yn gwneud iddo deimlo fel y lle iawn i adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diwydiant.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau, rwy’n mwynhau dringo, beicio mynydd, a gweithio ar gerbydau. Mae gen i ddiddordeb cryf mewn prosiectau peirianneg ymarferol, gan gynnwys gwaith adfer, saernïo, argraffu 3D, a datrys problemau mecanyddol. Rwyf hefyd wedi bod yn rhan o’r Cadetiaid Awyr, Dug Caeredin, a thîm rali’r brifysgol, sydd wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a threfnu.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar ôl graddio, byddaf yn dechrau rôl gyda Thîm Fformiwla Un Aston Martin Aramco yn y siop fodelau. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddefnyddio’r sgiliau ymarferol a thechnegol rydw i wedi’u datblygu yn ystod fy ngradd, yn enwedig ym maes gweithgynhyrchu, cyfansoddion, CAD, argraffu 3D, a pheirianneg chwaraeon moduro. Fy nod yw parhau i ddatblygu’n beiriannydd ym maes chwaraeon moduro perfformiad uchel.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?
Fy hoff beth am y cwrs yw’r cyfle i ddefnyddio theori peirianneg i brosiectau go iawn. O ddeinameg cerbydau a CFD i gyfansoddion, gweithgynhyrchu, a fy nhraethawd hir blwyddyn olaf, mae’r cwrs wedi caniatáu imi ddatrys problemau peirianneg ymarferol. Fe fwynheues i ba mor agored oedd y prosiectau, gan eu bod nhw’n annog pobl i feddwl yn annibynnol, profi, dilysu, a gwneud penderfyniadau.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn, byddwn i’n argymell PCYDDS, yn enwedig i fyfyrwyr sydd am gwrs peirianneg ymarferol a chymhwysol. Mae’r cwrs wedi caniatáu i mi ennill profiad ym maes dylunio, dadansoddi, gweithgynhyrchu, profi, a gwaith prosiect, yn hytrach na chanolbwyntio ar theori yn unig. Mae’r cymorth gan ddarlithwyr hefyd wedi bod yn werthfawr, yn enwedig yn ystod prosiectau mawr a gwaith traethawd hir. Mae wedi fy helpu i adeiladu hyder yn beiriannydd a datblygu sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i ddiwydiant.
Mae myfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi sicrhau rôl nodedig gyda Thîm Fformiwla Un Martin Aramco cyn cwblhau ei radd.