Blas ar Brifysgol yn cynnig profiad gwerthfawr i ddarpar fyfyrwyr Cymraeg
Mae Blas ar Brifysgol, cwrs preswyl cyfrwng Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn parhau i gynnig profiad unigryw a gwerthfawr i ddarpar fyfyrwyr, gan roi cipolwg realistig ar fywyd yn y brifysgol a’r cyfleoedd sydd ar gael i barhau â’u sgiliau Cymraeg.
Bydd Blas ar Brifysgol 2026 yn cael ei gynnal ar 22–23 Mehefin, ac mae’r Brifysgol yn annog ysgolion, colegau a dysgwyr cymwys i fanteisio ar y cyfle arbennig hwn.
Mae’r cwrs deuddydd ar gampws Caerfyrddin ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12 a myfyrwyr Lefel 3 Blwyddyn 1. Mae’n cynnwys sesiynau academaidd, cyfle i aros dros nos yn ein llety myfyrwyr, panel byd gwaith, a gweithgareddau cymdeithasol dan arweiniad myfyrwyr presennol y Brifysgol.
Mae Blas ar Brifysgol yn rhan o ymrwymiad parhaus y Brifysgol i gefnogi’r Gymraeg, i hyrwyddo addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i sicrhau bod darpar fyfyrwyr yn teimlo’n hyderus, eu bod yn cael croeso, ac wedi’u cefnogi wrth ystyried bywyd prifysgol.
Yn ôl un disgybl a fynychodd y cwrs y llynedd, roedd y profiad yn un eithriadol:
“Teimlaf fy mod wedi cael profiad go iawn a da iawn o fywyd yn y brifysgol, yn enwedig trwy aros yn y llety. Mae’r deuddydd diwethaf wedi bod yn rhai gwerthfawr dros ben ac rwy’n hynod o ddiolchgar am fod wedi cael y cyfle.”
Mae elfen breswyl y cwrs yn chwarae rhan allweddol wrth helpu dysgwyr i brofi bywyd myfyriwr go iawn, o fyw mewn llety prifysgol i gymdeithasu gyda chyfoedion o bob rhan o Gymru. I lawer, mae’r profiad hwn yn allweddol wrth gynyddu hyder ac eglurder ynghylch y cam nesaf yn eu taith addysgol.
I’r myfyriwr hwn, cadarnhaodd y sesiynau academaidd ei huchelgeisiau gyrfaol:
“Mae’r hyn dwi wedi dysgu am addysgu yn ystod y cwrs wedi cadarnhau i mi mai athrawes gynradd dwi eisiau bod. Roedd y siaradwyr gwadd yn ysbrydoledig dros ben, ac rwy’n edrych ymlaen i fynychu diwrnod agored cyn hir.”
Yn ogystal â’r ddarpariaeth academaidd, rhoddir pwyslais cryf ar ofal a chynhwysiant, gyda thrafnidiaeth wedi’i threfnu er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cymryd rhan yn llawn:
“Diolch yn fawr iawn am drefnu’r drafnidiaeth – roedd hynny’n meddwl llawer i ni.”
Am ragor o wybodaeth: Blas ar Brifysgol | University of Wales Trinity Saint David
Ac i gofrestru, ewch i: https://info.uwtsd.ac.uk/blas-ar-brifysgol-2026
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476