Diwylliant Cymru yn ysbrydoli bywyd llonydd cydweithredol yng Ngholeg Celf Abertawe
Mae’r artist adnabyddus Julia Griffiths Jones wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant.
Yn gyn-aelod o staff y Brifysgol, mae gwaith Julia yn cael ei ategu gan ddarlunio a gwneud mewn sawl ffurf, yn aml yn cyfuno cyfeiriadau diwylliannol byd-eang â themâu Cymreig.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i Julia drafod ei gwaith a’i hysbrydoliaeth gyda myfyrwyr cyn arwain gweithdy lle cawsant eu gwahodd i ymateb i fywyd llonydd cydweithredol wedi’i ysbrydoli gan gasgliadau, diwylliannau a bywydau o ddydd i ddydd yng Nghymru.
Gwahoddwyd y myfyrwyr i ddod ag eitemau i dalu teyrnged i’r themâu a’r motiffau rheolaidd yng ngwaith Julia, gan gynnwys tecstilau Cymreig, eitemau domestig, offer a chyfarpar, brodwaith addurniadol yn ogystal â darnau sy’n cynrychioli pobl a diwylliant Cymru.
Dywedodd Georgia McKie, Arweinydd y Rhaglen: “Mae’n bleser gallu croesawu ein cyn-gydweithwraig Julia Griffiths Jones yn ôl i Patrwm Arwyneb a Thecstilau. Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli cymaint o weld y gwaith y mae hi wedi mynd ymlaen i’w wneud ers ymddeol o ddarlithio yn 2019. Mae’n gyfle gwych i’n myfyrwyr presennol weld gwaith hardd Julia yn uniongyrchol ac i dreulio’r diwrnod yn darlunio gyda hi. Rydyn ni wrth ein bodd sut mae hi’n cyfeirio at ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig mewn ffyrdd mor feiddgar ac unigryw; gan osgoi ystrydebau a stereoteipiau, gan uwcholeuo’r tecstilau, crefftau, gwrthrychau a bywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru sy’n golygu cymaint i gymaint ohonom.”
Dywedodd Jess Oliver, myfyrwraig ail flwyddyn: “Roedd y diwylliant Cymreig bywiog yn amlwg yn weledol o fewn darluniau Julia ac wedi’i gymhwyso yn ei dyluniadau ar ffabrig a llyfrau ar gyfer arddangosfeydd, ac ar gyfer ei chasgliadau personol ei hun. O’r lliwiau a ddewisodd, i’r symbolau a’r motiffau a dynnodd, mae’r cynrychiolaeth hon o’i threftadaeth Gymreig yn pwysleisio gwerth y diwylliant hwn o fewn yr arfer dylunio cyfredol. Mae hi’n parhau i ddefnyddio’r rhain ac yn eu cyfansoddi mewn gweithiau celf haenog a ddaw o amgueddfeydd yng Nghymru ac yn fyd-eang.”
Dywedodd Kacie Anderson Goodfellow, sydd hefyd yn fyfyrwraig ail flwyddyn: “Y peth yr oeddwn i’n ei werthfawrogi fwyaf am y sgwrs a’r gweithdy gyda Julia oedd dyfnder y wybodaeth a roddodd am y patrwm arwyneb a’r llwybr tecstilau yr ydym yn gallu ei gymryd ar ôl graddio, soniodd am lawer o wahanol lwybrau a phrosiectau y mae hi wedi’u cymryd, ac fe agorodd fy llygaid i’r mathau o bethau y gallwch chi eu gwneud fel dylunydd.”
Ychwanegodd y myfyrwraig Maja Lane: “Roedd mor ddefnyddiol gweld ei thaith a’i phrosesau gwaith trwy ei llyfrau braslunio. Mae’n helpu i ddeall proses a ffordd o feddwl person arall ac mae’n bendant wedi fy helpu i ddatblygu fy iaith weledol fy hun.”
Ychwanegodd Julia Griffiths Jones: “Roedd yn anrhydedd i mi gael fy ngwahodd yn ôl i Patrwm Arwyneb a Thecstilau, cwrs y bues i’n gweithio arno am bymtheg mlynedd, i rannu sut mae diwylliant Cymru wedi dylanwadu ac ysbrydoli fy ngwaith.
“Roedd diddordeb ac ymateb y myfyrwyr i’m sgwrs wedi creu argraff fawr arnaf, ac fe wnaeth y gweithdy lluniadu wedyn gynhyrchu rhai darnau gwych o waith. Diolch yn fawr iawn.”
Roedd y gweithgaredd yn rhan o ddigwyddiadau blynyddol Gwobrwyon Dydd Gŵyl Dewi sy’n digwydd gydol mis Mawrth i gydnabod ymgysylltiad myfyrwyr a staff Coleg Celf Abertawe â’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790