Gwyddoniaeth niwclear yw hi: proffesiynoli'r gweithlu plentyndod cynnar yn y DU
Mae Natasha Morgans a Dr Glenda Tinney, darlithwyr o PCYDDS yn rhannu eu profiad yn rhan o astudiaeth gymharol Early Education o bolisïau’r gweithlu blynyddoedd cynnar ar draws pedair gwlad y DU.
Ymhlith ei argymhellion, mae’r astudiaeth yn annog diwygio’r dirwedd cymwysterau tameidiog ar draws y pedair gwlad i greu llwybrau gyrfa clir, o ansawdd uchel sydd â llwybrau dilyniant diffiniedig, sy’n gysylltiedig â sectorau cysylltiedig megis addysgu cynradd ac wedi’u halinio â graddfeydd cyflog cenedlaethol.
Rhan wych o’n rolau yn ddarlithwyr Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yw gallu cydweithio â gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar. Dechrau ar eu gyrfaoedd y mae rhai o’r rhain ac mae gan lawer o’n dysgwyr hyblyg gyda’r nos sydd â phrofiad hir yn y sector. Rydyn ni’n deall y rolau pwysig sydd ganddyn nhw wrth gefnogi llesiant ac addysg ein dysgwyr ieuengaf yn y sector blynyddoedd cynnar, yn ogystal â’r lefelau uchel o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’u rolau.
Mae ymchwil yn tynnu sylw at arwyddocâd blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn o ran datblygiad yr ymennydd, datblygiad cyfannol a chanlyniadau hirdymor a bod y gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ifanc yn hanfodol wrth ddarparu’r amgylcheddau, y rhyngweithio a’r cymorth sydd eu hangen ar blant i wneud yn fawr o’r blynyddoedd cynnar hyn. Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn fedrus iawn, wedi’u hyfforddi ac mae ganddyn nhw’r ddealltwriaeth a’r brwdfrydedd i sicrhau bod plant yn cael dechrau da, gan adlewyrchu nodau Llywodraeth Cymru ei hun o fewn polisi a rhaglenni megis Dechrau’n Deg, Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Heb eu Cynnal a Ariennir a’r Cynllun Plentyndod Cynnar, y Cynllun Dysgu a Gofal.
Fodd bynnag, er gwaethaf arwyddocâd y gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a’r cyd-destun polisi cadarnhaol, mae rhwystrau’n parhau a’r sector yn wynebu heriau recriwtio a chadw, pryderon am y gwerth a roddir i’r maes allweddol hwn a chymhlethdod o ran polisi a chwricwlwm y blynyddoedd cynnar mewn gwahanol sectorau addysg a gofal.
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi bod yn gyd-ymchwilwyr yn rhan o’r prosiect ymchwil Early Education a ariennir gan Sefydliad Nuffield, a oedd yn astudiaeth gymharol o bolisïau’r gweithlu blynyddoedd cynnar ar draws pedair gwlad y DU. Ar 28 Tachwedd roeddem ni’n rhan o lansio’r adroddiad “Gwyddoniaeth niwclear yw hi: proffesiynoli’r gweithlu plentyndod cynnar yn y DU”, sy’n galw am weithredu cryfach ym mhob un o bedair gwlad y DU i gryfhau gofynion cymwysterau ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar (EYW) ac i sefydlu llwybrau dilyniant gyrfa clir gyda thâl a statws priodol, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng presennol o ran recriwtio a chadw staff a chynyddu ansawdd yn y sector. Mae’r argymhellion yn tynnu sylw at yr angen brys i wella statws a chydnabyddiaeth gweithwyr proffesiynol addysg plentyndod cynnar.
Gan dynnu ynghyd adolygiad o’r llenyddiaeth ochr yn ochr â chyfweliadau a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid cenedlaethol a chyfweliadau ag arbenigwyr rhyngwladol mewn addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant, mae’r adroddiad yn cynnwys canfyddiadau gan dros 80 o arbenigwyr. Mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at heriau parhaus o ran recriwtio, cadw staff, cyflogau, cydnabyddiaeth broffesiynol, cymwysterau a statws i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant ifanc ac, i ni yng Nghymru, yr angen i sicrhau bod cyd-destunau polisi cadarnhaol yn cael eu gweithredu’n llawn.
Roedd bod yn rhan o’r prosiect ac arwain adran Gymraeg yr ymchwil yn brofiad cadarnhaol dros ben. Roedden ni’n gallu gweithio gydag ymchwilwyr o Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban a dysgu oddi wrth ein gilydd am gyfleoedd a heriau tebyg sy’n wynebu’r gweithlu blynyddoedd cynnar yn y gwahanol genhedloedd ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd ynghylch polisïau a mentrau sydd wedi gweithio ac wedi cefnogi’r sector. Cafwyd canfyddiadau rhyngwladol hefyd o gyfweliadau ag arbenigwyr blynyddoedd cynnar mewn gwahanol wledydd i rannu arfer da o ran polisi a sut y gellir ei weithredu’n effeithiol.
Ym mhob un o’r pedair gwlad, mae dull tameidiog, i raddau helaeth, o ddatblygu’r gweithlu, gyda diffyg strategaeth glir ynghylch y Gweithlu Blynyddoedd Cynnar (EYW), wedi creu argyfwng. Argyfwng yw hwn sydd nid yn unig yn brofiad pob dydd i’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg a gofal blynyddoedd cynnar, ond sydd hefyd mewn perygl o danseilio ansawdd y gwasanaethau blynyddoedd cynnar sydd wrth wraidd rhoi i blant seiliau dysgu, datblygiad, a bywyd. Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn darparu cyfleoedd i archwilio mentrau o’r gwahanol genhedloedd, a allai helpu, er enghraifft yng Nghymru, y Cynllun Gweithlu Blynyddoedd Cynnar a mentrau a fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru, Gofalwn.
Roedd yr ymchwil yn caniatáu inni rannu lleisiau o Gymru, ac un peth gwirioneddol gadarnhaol oedd y cyfle o fewn prosiect ymchwil ledled y DU i sicrhau bod yr holl ymchwil yng Nghymru yn cael ei chyflawni’n ddwyieithog. Mae crynodeb gweithredol yr ymchwil hefyd wedi’i gyhoeddi yn Gymraeg ac mae canfyddiadau ynghylch cefnogi darpariaeth ddwyieithog yn werthfawr ar draws y gwledydd o ran arferion amlieithog ehangach.
Fe wnaethom ni ddysgu cymaint o weithio gydag ymchwilwyr allweddol o genhedloedd eraill ac Early Education a Sefydliad Nuffield.
Meddai’r Prif Weithredwr Early Education, Beatrice Merrick:
“Rydyn ni’n gwybod bod llunwyr polisi ym mhob un o’r pedair gwlad yn edrych ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r heriau recriwtio a chadw staff ar hyn o bryd ac i godi ansawdd y ddarpariaeth addysg plentyndod cynnar i wneud yn fawr o effeithiolrwydd buddsoddi yn y cam hwn. Mae hwn yn waith cymhleth a heriol sy’n gofyn am grynhoi gwybodaeth a phrofiad i’w wneud yn dda, a rhaid i gyflog ac amodau adlewyrchu hynny er mwyn denu a chadw’r bobl orau, ac i roi i bob plentyn y dechrau mewn bywyd y mae ei angen arnyn nhw ac y maen nhw’n ei haeddu.”
Meddai’r Pennaeth y Rhaglen Addysg yn Sefydliad Nuffield, Eleanor Ireland:
“Mae’r heriau sy’n wynebu’r gweithlu blynyddoedd cynnar yn hysbys, ac mae materion tebyg yn amlwg ar draws pedair gwlad y DU. Mae’r astudiaeth newydd bwysig hon yn nodi nid yn unig yr hyn y mae angen ei wneud i fynd i’r afael â’r problemau hyn, ond mae’n cydnabod bod angen dull graddol i wella ansawdd y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a sicrhau gwell amodau gwaith i addysgwyr dros y tymor hwy.”
Mae’r adroddiad yn galw am isafswm cymwysterau mynediad i gyd-fynd â’r gofynion uchel a’r arbenigedd sy’n ofynnol mewn addysg blynyddoedd cynnar a chryfhau gofynion mynediad. Yn ogystal, mae’r argymhellion yn tynnu sylw at yr angen i fynd i’r afael â’r amrywiaeth dameidiog a dryslyd presennol o gymwysterau ym mhob un o’r pedair gwlad i greu llwybrau cliriach, o ansawdd uchel trwy yrfa mewn addysg plentyndod cynnar, gyda llwybrau dilyniant wedi’u diffinio’n dda, wedi’u halinio â sectorau cysylltiedig, gan gynnwys addysgu mewn lleoliadau cynradd. Mae hefyd yn cynnig cysylltu’r rhain â graddfeydd cyflog cenedlaethol. Ynghyd â chofrestru proffesiynol, mae’r adroddiad yn nodi bod y mesurau hyn yn hanfodol i wella statws a chydnabyddiaeth gweithwyr proffesiynol addysg plentyndod cynnar, mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw presennol, a chynyddu ansawdd ar draws y sector.
Gellid defnyddio enghreifftiau o Gymru i ddangos rhywfaint o gyd-destun polisi cadarnhaol yn y maes hwn, megis rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau cydnabyddedig i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a rhaglenni drwy sefydliadau megis y Mudiad Meithrin i gefnogi darpariaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Trafodwyd hefyd gynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar Llywodraeth Cymru. Awgrymodd y cyfwelwyr fod hwn yn gyfraniad cadarnhaol i dynnu sylw at bwysigrwydd y sector.
Rydyn ni’n edrych ymlaen ar ddechrau 2026 i lansio canlyniadau’r ymchwil hon gyda ffocws ar y casgliadau yng nghyd-destun Cymru.
Gellir lawrlwytho Gwyddoniaeth niwclear yw hi: proffesiynoli’r gweithlu plentyndod cynnar yn y DU Crynodeb ac Argymhellion o’r prosiect Dadansoddiad cymharol o bolisi gweithlu’r blynyddoedd cynnar ym mhedair gwlad y DU (EYW4N) yma https://early-education.org.uk/wp-content/uploads/2025/11/Summary-and-recommendations-Welsh-lang-version.pdf
Cysylltwch â Glenda Tinney: g.tinney@pcydds.ac.uk i drafod yr ymchwil o Gymru ymhellach neu i ddysgu rhagor am ein cyrsiau blynyddoedd cynnar.
Cysylltwch am ymholiadau pellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Beatrice Merrick, Prif Weithredwr, Early Education beatrice@early-education.org.uk).
NODIADAU I OLYGYDDION:
1. Ymddiriedolaeth elusennol annibynnol yw Sefydliad Nuffield sydd â chenhadaeth i hyrwyddo lles cymdeithasol. Mae’n ariannu ac yn ymgymryd ag ymchwil drylwyr, yn annog arloesi ac yn cefnogi’r defnydd o dystiolaeth gadarn i lywio polisi cymdeithasol ac economaidd, a gwella bywydau pobl. Sefydliad Nuffield yw sylfaenydd a chyd-ariannwr Cyngor Nuffield ar Fiomoeseg, Sefydliad Ada Lovelace ac Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Sefydliad Nuffield, ond safbwyntiau’r awduron yw’r rhai a fynegir ac nid o reidrwydd y Sefydliad. Dysgwch ragor yn: nuffieldfoundation.org Bluesky: @nuffieldfoundation.org LinkedIn: Sefydliad Nuffield
2. Early Education (Cymdeithas Addysg Plentyndod Cynnar Prydain) yw’r brif elusen genedlaethol annibynnol ar gyfer ymarferwyr a rhieni blynyddoedd cynnar, sy’n ymgyrchu dros hawl pob plentyn i addysg o’r ansawdd uchaf. Fe’i sefydlwyd ym 1923, ac mae ganddi aelodau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban ac mae’n darparu llais cenedlaethol ar faterion sy’n ymwneud ag addysg plentyndod cynnar effeithiol a gofal plant ifanc o’u genedigaeth i wyth oed. Mae’r sefydliad yn cefnogi datblygiad proffesiynol ymarferwyr trwy gyhoeddiadau, hyfforddiant, cynadleddau, seminarau a mynediad at rwydwaith canghennau cenedlaethol a rhanbarthol. I gael rhagor o wybodaeth am waith Early Education, ewch i www.early-education.org.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476