O Nepal i Raddio yn Abertawe: Taith Jiban Bhusal yn ôl i’r Ystafell Ddosbarth
Un mlynedd ar bymtheg ar ôl gadael ei gyrfa addysgu yn Nepal i adeiladu bywyd newydd yng Nghymru, mae Jiban Bhusal yn graddio heddiw o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn Abertawe. Mae ei Thystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TRBA) yn nodi’r pennod diweddaraf mewn taith benderfynol i ddychwelyd i’r proffesiwn mae wedi’i garu erioed.
Gweithiodd Jiban 43 oed, sy’n dod o Nepal yn wreiddiol, fel athrawes cyn symud i’r DU yn 2010. Ar ôl setlo yn Abertawe, arweiniodd amgylchiadau teulu iddi newid gyrfa i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, lle’r oedd gweithio hyblyg wedi caniatáu i Jiban gefnogi ei theulu ochr yn ochr â pharhau i ddatblygu’n broffesiynol.
Dros y 16 o flynyddoedd diwethaf, mae wedi cwblhau cymwysterau Lefel 2, Lefel 3, a Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a symud ymlaen trwy rolau sy’n cynnwys cynorthwyydd iechyd, is-reolwr, rheolwr cofrestredig a thiwtor iechyd a gofal cymdeithasol. Er gwaethaf adeiladu gyrfa lwyddiannus, nid oedd uchelgais Jiban i ddychwelyd at ddysgu erioed wedi’i newid.
“Roeddwn i eisiau cymhwyster a fyddai’n cryfhau fy sgiliau addysgu a chefnogi fy nod tymor hir o ddod yn addysgwr eto,” meddai Jiban.
Dewisodd y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg achos ei bod yn paratoi graddedigion i addysgu mewn colegau, prifysgolion a lleoliadau hyfforddiant galwedigaethol.
“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddod yn addysgwr mwy adfyfyriol a hyderus,” meddai. Yr hyn oedd yn sefyll allan fwyaf oedd y ffordd yr oedd y cwrs wedi cyfuno damcaniaeth addysgol ag addysgu ymarferol, ochr yn ochr â’r cymorth a’r anogaeth gan y darlithwyr.”
Cydbwyso astudiaethau gyda bywyd teuluol oedd yr her fwyaf, ac roedd addasu i ysgrifennu academaidd mewn prifysgol yn y DU wedi cymryd amser hefyd.
“Roedd yr adborth adeiladol, cymorth un i un a’r amgylchedd dysgu croesawgar wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder academaidd,” meddai. “Roedd i’n ffodus i astudio ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr hynod gefnogol hefyd.”
Mae Jiban yn dweud bod y cwrs wedi rhoi iddi’r hyder a’r cyfeiriad i barhau i ddatblygu fel addysgwr.
“Byddwn i’n argymell y rhaglen TRBA i unrhyw un sydd â diddordeb mewn addysgu ym meysydd addysg bellach neu addysg uwch. Mae’n darparu datblygiad proffesiynol ardderchog ac yn creu cyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach.”
Mae Jiban yn bwriadu parhau i gyflwyno addysgu o ansawdd uchel, dysgu Cymraeg a gweithio tuag at PhD. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys niwramrywiaeth, anghenion dysgu ychwanegol, ac iechyd meddwl.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071