Rhaglen Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS yn Cipio Gwobr Genedlaethol am yr Ail Flwyddyn yn Olynol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o nodi bod ei myfyrwyr a’i staff Twristiaeth a Digwyddiadau wedi cael eu cydnabod unwaith eto ar y llwyfan cenedlaethol, gan ennill y wobr “Cwrs Digwyddiadau Gorau” yng Ngwobrau mawreddog Cymdeithas Genedlaethol Digwyddiadau Awyr Agored (NOEA) am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r gamp ryfeddol hon yn amlygu ymrwymiad y rhaglen i ragoriaeth, arloesi ac ymgysylltu â’r diwydiant. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae wedi cipio saith gwobr fawr, wedi cyrraedd rownd derfynol 20 o wobrau cenedlaethol, ac wedi dathlu pedair gwobr mewn digwyddiadau cenedlaethol, a hynny mewn tair blynedd yn unig. Dyna dyst i ymroddiad y tîm addysgu a’r myfyrwyr.
Meddai Rheolwr y Rhaglen, Jacqui Jones: “Mae ennill y wobr hon am yr ail flwyddyn yn olynol yn achos balchder i’r tîm cyfan. Mae’n adlewyrchu creadigrwydd, gwytnwch a phroffesiynoldeb ein myfyrwyr ac ymroddiad ein staff. Ein nod bob tro oedd darparu profiadau yn y byd go iawn a chysylltiadau â diwydiant sy’n paratoi graddedigion i ragori yn sector deinamig digwyddiadau, ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn dangos ein bod ni’n cyflawni hynny.
“Mae llwyddiant y rhaglen yn seiliedig ar bartneriaethau cryf â sefydliadau a lleoliadau diwydiant blaenllaw. Diolch yn arbennig i’r rhai sy’n chwarae rhan ganolog wrth greu cyfleoedd digwyddiadau i fyfyrwyr, ac i’r staff academaidd am eu cymorth diwyro i ddatblygiad academaidd a chyflogadwyedd.”
Mae PCYDDS hefyd yn cydnabod cyfraniadau amhrisiadwy ei Phartneriaid ym myd Digwyddiadau a Diwydiant, yn enwedig y tîm yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, am ddarparu profiadau go iawn i fyfyrwyr sy’n gwella eu sgiliau proffesiynol.
Mae’r rhaglen yn integreiddio lleoliadau diwydiant, prosiectau digwyddiadau byw, a thechnoleg ddigidol ymdrochol yn ei chwricwlwm. Mae myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau arloesol megis Ystafell Ymdrochol Ddigidol PCYDDS, gyda chymorth tîm o arbenigwyr digidol a thechnegol, gan sicrhau bod graddedigion yn meddu ar y sgiliau rheoli diweddaraf ar gyfer digwyddiadau a’r maes digidol.
Mae partneriaid cyllido megis Taith, Gyrfaoedd PCYDDS, ac eraill yn chwarae rhan hanfodol wrth alluogi teithiau maes a lleoliadau rhyngwladol, gan gyfoethogi profiad y myfyriwr ymhellach.
Meddai’r Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol: “Mae’r wobr hon yn dyst i ymrwymiad a gweledigaeth ragorol ein tîm Twristiaeth a Digwyddiadau. Mae eu gallu i ddarparu profiad dysgu sy’n arwain y diwydiant yn gyson, un sy’n cyfuno rhagoriaeth academaidd â defnydd yn y byd go iawn, yn rhoi ein myfyrwyr mewn sefyllfa eithriadol i ffynnu. Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiant cenedlaethol parhaus y rhaglen, sy’n adlewyrchu cryfder ein partneriaethau, ymroddiad ein staff, a phroffesiynoldeb ein myfyrwyr. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn atgyfnerthu ein cenhadaeth i rymuso arweinwyr y dyfodol yn y sectorau digwyddiadau a thwristiaeth.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071