Richard Buckeley yn cryfhau ei gyfraniad i'r Gymraeg ar ôl graddio gyda Thystysgrif mewn Polisi a Chynllunio Iaith PCYDDS
Mae Richard Buckeley, sy’n gweithio i’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), wedi graddio gyda Thystysgrif Polisi a Chynllunio Iaith o Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Yn wreiddiol o Gernyw, symudodd Richard i Abertawe tua phum mlynedd a hanner yn ôl ar ôl gyrfa ryngwladol ym meysydd addysg a datblygu rhyngwladol. Ei swydd gyntaf yng Nghymru oedd fel ymgynghorydd myfyrwyr yn Undeb Myfyrwyr PCYDDS, ac mae wedi parhau i weithio yn sector addysg uwch Cymru ers hynny. Meddai Richard:
“Ers i fi gyrraedd, mae’r Gymraeg wedi cyfoethogi fy mywyd personol yng Nghymru. Dw i’n falch o fod wedi defnyddio’r Gymraeg yn fy mywyd proffesiynol ers y dechrau.”
Yn ei rôl bresennol, Richard sy’n arwain ar faterion Cymraeg gyda’i gyflogwr. Dewisodd astudio’r Dystysgrif Polisi a Chynllunio Iaith er mwyn dyfnhau ei ddealltwriaeth o’r cyd-destun diwylliannol ehangach a sicrhau bod gwaith ei sefydliad yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn unig.
“Ro’n i’n awyddus i sicrhau ein bod ni’n gwneud mwy na dim ond cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg mewn ffordd docynistaidd. Mae gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd enw da yn y maes, ac roedd y cwrs yn ffitio’n berffaith i’m hamserlen.”
Cyn dechrau’r cwrs, roedd Richard yn gobeithio datblygu hyder i gyfrannu at sgyrsiau ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg, gan gynnwys pynciau sensitif neu ddadleuol, yn ogystal â chryfhau ei allu i ysgrifennu a siarad yn Gymraeg at ddibenion academaidd. Ar ôl gyrfa ryngwladol, mae eisoes wedi dysgu a gweithio drwy gyfrwng sawl iaith, gan gynnwys Mandarin. Bu’n astudio addysgeg ac ieithyddiaeth ar lefel ôl-raddedig drwy gyfrwng Mandarin ym Mhrifysgol Iaith a Diwylliant Beijing yn 2009–10, ac roedd yn edrych ymlaen at yr her o gyrraedd lefel uwch yn y Gymraeg.
I Richard, un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd clywed profiadau darlithwyr a chyd-fyfyrwyr a deall yn ddyfnach ystyr y Gymraeg yn eu bywydau proffesiynol a phersonol. Ychwanegodd:
“Ar y dechrau, roedd gen i ychydig o ‘syndrom y ffugiwr’, ond mi wnes i ddarganfod bod llawer o siaradwyr mamiaith yn profi’r un peth. Roedd ein sgyrsiau mewn seminarau yn ein helpu ni i ddeall sut mae’r cyd-destun ieithyddol yn creu’r diffyg hyder yma, a rhoddodd i ni’r offer i fynd i’r afael ag ef.”
Gwnaeth hefyd ganmol y gefnogaeth a gafodd gan diwtoriaid a Gwasanaethau Myfyrwyr, yn enwedig sesiwn ychwanegol ar ysgrifennu academaidd.
“Os ydw i’n cymharu fy nhraethawd olaf gyda’m traethawd cyntaf, gallaf weld gwahaniaeth enfawr. Roedd y tiwtoriaid bob amser ar gael i’n helpu ni i ddatblygu syniadau ar gyfer cyflwyniadau a thraethodau. Yn hytrach na rhoi’r atebion i ni, fe’n heriwyd i ail-fframio ein cwestiynau er mwyn dod o hyd i’r atebion ar ein pennau ein hunain. Roedd ‘na lawer o anogaeth hefyd i fod yn fentrus - ro’n i bob amser yn teimlo’n gyfforddus i awgrymu syniadau creadigol neu rannu safbwyntiau dadleuol mewn seminarau.”
Dywedodd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, un o ddarlithwyr y cwrs:
“Mae’n bleser dysgu bob blwyddyn ar y cwrs Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith. Mae’r myfyrwyr - fel Richard - yn ymroddedig ac yn sylwgar, ac yn cyfrannu cymaint at lwyddiant y cwrs. Mae’n hyfryd darllen am ei daith a’r hyn mae’r cwrs wedi ei roi iddo.”
Byddai Richard yn argymell y cwrs i eraill, boed yn siaradwyr mamiaith neu’n siaradwyr newydd.
“Mae’r darlithwyr yn arbenigwyr o safon ryngwladol yn y maes, gyda’r cydbwysedd perffaith o fewnwelediad academaidd ac ymarferol,” ychwanegodd.
Mae’r cwrs eisoes yn cael effaith ar waith Richard, gan ei fod mewn rôl lle gall roi’r hyn a ddysgodd ar waith ar unwaith. Meddai:
“Mae fy nghyflogwr wedi fy nghefnogi drwy gydol fy astudiaethau hefyd - maen nhw’n adnabod pwysigrwydd y Gymraeg i’n hamcanion strategol fel sefydliad.”
Y tu hwnt i’r gwaith, mae Richard yn gwirfoddoli gyda Menter Iaith Abertawe, lle mae’n gobeithio defnyddio ei wybodaeth newydd i wella profiadau gwirfoddolwyr a chleientiaid.
Wrth edrych ymlaen, mae Richard yn gobeithio parhau i adeiladu ar ymrwymiad ei gyflogwr i’r Gymraeg a helpu i ehangu’r ystod o wasanaethau a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd Kara Lewis, Rheolwr Rhaglen Tystysgrif Polisi a Chynllunio Iaith o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol:
“Mae’n hynod galonogol gweld ein myfyrwyr yn magu hyder a datblygu fel ymarferwyr ym maes polisi a chynllunio iaith. Bob blwyddyn, clywn straeon ysbrydoledig am sut mae’r cwrs yn dylanwadu ar eu gwaith ac yn eu grymuso i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau a’u sefydliadau.”
I gael sgwrs am y Dystysgrif, neu i wneud cais am fis Medi, cysylltwch â kara.lewis@pcydds.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476