Taith Ryngwladol yn Arwain at Lwyddiant Dosbarth Cyntaf yn Y Drindod Dewi Sant
Mae myfyrwraig o Dwrci a Phrydain a symudodd i Gymru i ddilyn ei huchelgeisiau yn y diwydiant digwyddiadau yn dathlu graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Bydd Ayda Bekisoglu, a aned a’i magwyd yn Nhwrci cyn symud i’r DU ar ôl gorffen yr ysgol, yn graddio’r wythnos nesaf gyda gradd mewn Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol.
Er mai ei chynllun gwreiddiol oedd astudio yn yr Iseldiroedd, cymerodd taith Ayda gyfeiriad gwahanol pan gynigiwyd lle iddi yn Y Drindod Dewi Sant.
“Fe wnes i gais i sawl prifysgol ledled y DU, a derbyniodd Y Drindod Dewi Sant fi yn seiliedig ar fy ngraddau,” meddai. “Er bod fy nghynlluniau wedi newid, trodd dewis astudio yng Nghymru allan i fod yn gyfle gwych.”
Dewisodd Ayda y cwrs Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol.oherwydd ei fod yn cyd-fynd â’i huchelgais o ddod yn gydlynydd digwyddiadau mawr ac yn gweddu i’w chryfderau mewn cyfathrebu, trefnu, datrys problemau a gweithio gyda phobl.
Un o uchafbwyntiau ei hastudiaethau oedd ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, lle bu’n gweithio yn yr adran Bwyd a Diod drwy bartneriaeth y brifysgol â’r lleoliad.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i weithio yn yr Arena,” meddai. “Rhoddodd brofiad ymarferol i mi a chaniatáu i mi ddysgu o’r ystod eang o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yno, sydd wedi bod yn amhrisiadwy.”
Fel llawer o fyfyrwyr, wynebodd Ayda heriau personol yn ystod ei hamser yn y brifysgol, gan gynnwys profiadau a effeithiodd ar ei hyder a’i lles meddyliol. Fodd bynnag, mae hi’n dweud bod yr heriau hynny wedi ei helpu i ddod yn fwy gwydn yn y pen draw.
“Wrth edrych yn ôl, rwyf wedi tyfu fel person,” meddai. “Gwnaeth yr heriau a wynebais fi’n gryfach, yn fwy gwydn ac yn fwy parod ar gyfer y dyfodol.”
Mae Ayda yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn teithio, cwrdd â phobl newydd a gweithio mewn amgylcheddau cyflym i ystyried astudio Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol.
“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol,” meddai. “Mae wedi cryfhau fy hyder, fy sgiliau cyfathrebu a’m dealltwriaeth o’r diwydiant digwyddiadau.”
Nawr wedi graddio gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, mae Ayda yn edrych ymlaen at ddechrau ei gyrfa yn y sector digwyddiadau.
“Fy nod yw sicrhau rôl yn y diwydiant digwyddiadau, ennill profiad ac adeiladu gyrfa lwyddiannus yn gwneud rhywbeth rwy’n wirioneddol angerddol amdano.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071