Skip page header and navigation

Mae graddio o gampws Lundain Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr wythnos hon wedi bod yn garreg filltir falch iawn i Sandeep Gurjar, 21 oed, y mae ei benderfyniad i lwyddo wedi ei helpu i oresgyn anaf chwaraeon a ddaeth â’i yrfa i ben, salwch difrifol, a heriau ariannol sylweddol.

A smiling and proud graduate standing in his cap and gown.

Yn wreiddiol o Jaipur yn India, daeth Sandeep i’r DU i astudio MBA mewn Rheolaeth Busnes ar ôl i anaf i’w goes ddod â’i uchelgais o gynrychioli ei wlad fel athletwr Taekwondo rhyngwladol i ben. Trwy gydol ei astudiaethau, bu’n gweithio shifftiau nos i ariannu ei addysg a’i gostau byw, yn benderfynol o beidio â gadael i unrhyw rwystr ei atal rhag ennill ei radd.

“Bu’n rhaid imi ailfeddwl fy nyfodol yn llwyr ar ôl fy anaf,” meddai Sandeep. “Roedd yn un o’r cyfnodau anoddaf yn fy mywyd, ond sylweddolais fod angen imi ddod o hyd i freuddwyd newydd. Rhoddodd astudio MBA y cyfle hwnnw imi.”

Dilynodd Sandeep ei astudiaethau gyda chymorth ffrind agos a’i hanogodd a’i gefnogodd i astudio yn y DU. Dewisodd y Drindod Dewi Sant oherwydd ei henw da cryf, ei dull ymarferol o ddysgu a’i ffioedd dysgu fforddiadwy.

“Roedd fy ffrind yn credu ynof pan oeddwn ei angen fwyaf,” meddai. “Byddaf bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth honno oherwydd fe roddodd y cyfle imi newid fy mywyd.”

Wrth astudio, llwyddodd Sandeep i gydbwyso gweithio shifftiau nos ag astudio’n llawn amser er mwyn talu ei ffioedd dysgu, ei rent a’i gostau byw. Daeth ei her fwyaf pan gafodd ddiagnosis o salwch difrifol, gan ei orfodi i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith a’i roi dan bwysau ariannol sylweddol.

“Roedd dyddiau pan oeddwn wedi blino’n lân yn gorfforol ac yn poeni am sut y byddwn yn ymdopi’n ariannol,” meddai. “Ond nid oedd rhoi’r gorau iddi byth yn opsiwn oherwydd roeddwn yn gwybod pam yr oeddwn wedi dod yma. Roedd pob her yn fy ngwneud yn fwy penderfynol o gwblhau fy ngradd.”

Er gwaethaf yr anawsterau hyn, dywed Sandeep fod ei brofiad yn y Drindod Dewi Sant wedi ei drawsnewid.

“Y newid mwyaf imi oedd fy hyder,” meddai. “Cyn ymuno â’r Brifysgol, roeddwn yn swil iawn ac yn ofni siarad o flaen pobl. Trwy gyflwyniadau, gwaith grŵp a chefnogaeth fy narlithwyr, datblygais yr hyder i gyflwyno fy syniadau i gynulleidfaoedd mawr. Mae hyn wedi fy newid yn llwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol.”

Mae’n rhoi’r clod i ddarlithwyr cefnogol y Brifysgol a’i dull ymarferol o ddysgu am ei helpu i ddatblygu’r sgiliau arweinyddiaeth, cyfathrebu a meddwl strategol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa fusnes ryngwladol.

Mae Sandeep yn gobeithio dechrau ei yrfa ym maes rheolaeth busnes cyn symud ymlaen i rolau arwain o fewn sefydliad rhyngwladol. Mae hefyd yn gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill sy’n wynebu eu heriau eu hunain.

“Mae fy nhaith wedi dysgu imi nad yw rhwystrau yn diffinio eich dyfodol,” meddai. “Os ydych yn gweithio’n galed, yn parhau’n benderfynol ac yn peidio byth â cholli ffydd ynoch eich hun, gallwch gyflawni eich breuddwydion. Rwy’n gobeithio y bydd fy stori yn ysbrydoli eraill i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan fydd bywyd yn mynd yn anodd.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon