Skip page header and navigation

Mae Abigail Cole, un o raddedigion MA Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi defnyddio ei hymchwil ôl-raddedig i gefnogi gwelliannau i brosesau cynllunio busnes yng Nghyngor Sir Gâr.  

Abigail Cole in her cap and gown

Ar ôl cwblhau ei gradd israddedig, ymunodd Abigail â Chyngor Sir Gâr trwy ei gynllun graddedigion.  Roedd y cyfle wedi’i galluogi i ddechrau astudio yn PCYDDS ochr yn ochr â gweithio’n llawn amser, gan arwain yn y pen draw at gwblhau ei Gradd Meistr mewn Arfer Proffesiynol.  

Bellach yn gweithio fel Swyddog Mewnwelediadau Data a Pherfformiad yn yr awdurdod lleol, dewisodd Abigail yr MA Arfer Proffesiynol oherwydd ei hyblygrwydd a’i chysylltiad agos â dysgu yn y gweithle.  Meddai:  

“Roedd y cwrs yn hyblyg o gwmpas fy ngwaith, a oedd yn bwysig wrth weithio’n llawn amser.  Yn ogystal, roedd wedi caniatáu i mi integreiddio fy nysgu i’m rôl o ddydd i ddydd a theilwra fy astudiaethau i fy mhrofiadau yn y gwaith.”  

Dechreuodd Abigail y cwrs gyda’r uchelgais o adeiladu ar ei sgiliau presennol a’u cymhwyso’n fwy effeithiol yn ei rôl broffesiynol, ochr yn ochr â datblygu galluoedd newydd ym meysydd gan gynnwys rheoli prosiectau.  

Uchafbwynt allweddol y rhaglen oedd y cyfle i ymgymryd ag ymchwil gydag effaith uniongyrchol, ymarferol.  Roedd Abigail wedi wir fwynhau’r broses o gymhwyso’r wybodaeth a gafwyd trwy’r cwrs i feysydd penodol o’i gwaith, gan ei galluogi i adnabod cyfleoedd i’w gwella mewn prosesau bob dydd.  

Archwiliodd Abigail effeithlonrwydd prosesau cynllunio busnes a thempledi a ddefnyddiwyd ar draws Cyngor Sir Gâr fel rhan o’i hastudiaethau Meistr.  

Bob blwyddyn, mae adrannau ar draws yr awdurdod yn cwblhau cynlluniau busnes blynyddol sy’n amlinelli’r camau a’r mesurau a ddefnyddiwyd i fonitro’r hyn maent yn ei wneud a pha mor dda maent yn ei wneud.  Roedd tîm Abigail wedi adnabod heriau yn y ffordd y casglwyd yr wybodaeth a lefel y manylion a gasglwyd.  Yn ogystal, fe wnaethant gydnabod cyfle i wneud y broses yn fwy cynhwysfawr trwy ymgorffori gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys risg.  

Trwy ei hymchwil, archwiliodd Abigail i’r ffactorau sy’n cyfrannu at templedi a phrosesau cynllunio busnes effeithiol ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.   Yn ogystal, casglodd farn a phrofiadau swyddogion o ystod o adrannau yn y cyngor ar y broses bresennol.  

Roedd y canfyddiadau wedi helpu i lunio’r gwaith o ailgynllunio’r templed cynllunio busnes a’i broses gynorthwyol, gan dynnu ar dystiolaeth ac arfer gorau.  Yna, dilynodd Abigail y broses ailgynllunio trwy’r camau gweithredu, gan gasglu adborth gan swyddogion ar ôl ei gyflwyno er mwyn asesu’r gwelliannau a gyflawnwyd ac adnabod meysydd ar gyfer datblygiad pellach.  

“Yr uchafbwynt i mi oedd y  modylau ymchwil.  Roeddwn i’n gallu defnyddio’r hyn roeddwn wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs a’i  gymhwyso i feysydd penodol o’m gwaith.  Roeddwn i’n gallu gweld cymhwysiad fy nysgu wrth wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y brosesau rydym yn eu defnyddio bob dydd.” 

Cydbwyso astudiaethau ôl-raddedig gyda chyflogaeth lawn amser oedd un o brif heriau Abigail.  Fodd bynnag, mae’n dweud bod cefnogaeth tiwtoriaid PCYDDS yn allweddol i’w helpu i reoli gofynion y rhaglen.  Ychwanegodd:  

“Roedd y tiwtoriaid yn allweddol wrth fy helpu i oresgyn yr her hon.  Roedden nhw’n hynod o ddefnyddiol wrth amlinellu amserlenni, gosod disgwyliadau clir a rhannu’r gwaith yn ddarnau y gellir eu rheoli.  Roedd y cymorth hwn wedi fy helpu i reoli fy llwyth gwaith yn effeithiol.” 

Meddai Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd:  

 “Mae gwaith Abigail yn enghraifft ardderchog o sut mae’r MA Arfer Proffesiynol yn galluogi myfyrwyr i gysylltu’n uniongyrchol â dysgu academaidd gydag effaith yn y byd go iawn.  Mae ei hymchwil nid yn unig yn dangos sgiliau meddwl dadansoddol a beirniadol cryf, ond mae hefyd yn darparu manteision sylweddol o fewn ei sefydliad.  Mae’n arbennig o werth chweil gweld myfyrwyr fel Abigail yn tyfu mewn hyder a chymhwyso eu dysgu mewn ffyrdd sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i arfer siarad cyhoeddus.” 

Yn ogystal, mae’r cwrs wedi cefnogi datblygiad personol Abigail, yn enwedig wrth gryfhau ei hyder wrth siarad yn cyhoeddus.  Trwy gyflwyno ymchwil fel rhan o’i hasesiadau, datblygodd sgiliau y mae wedi trosglwyddo’n uniongyrchol i’w gwaith yn yr awdurdod lleol.  Esboniodd Abigail:   

“Rwyf bob amser wedi bod yn nerfus am gyflwyno, ond rhoddodd y cwrs y cyfle i mi ddatblygu’r sgiliau hyn.  Erbyn i mi gwblhau fy mhrosiect ymchwil terfynol, roedd gen i gymaint yn fwy o hyder yn cyflwyno o flaen eraill. Rwyf bellach yn teimlo’n llawer mwy hyderus wrth gyflwyno cyflwyniadau yn fy rôl.” 

Byddai Abigail yn argymell yr MA Arfer Proffesiynol i eraill sy’n edrych i ddatblygu eu gyrfaoedd wrth barhau mewn cyflogaeth.   

“Rwyf wedi gallu datblygu sgiliau a chaffael dysgu y byddaf yn ei ddefnyddio trwy gydol fy ngyrfa.  Mae’r tiwtoriaid yn wybodus ac yn gymwynasgar iawn.” 

Ychwanegodd Lowri Harris Rheolwr Rhaglen Fframwaith Arfer Proffesiynol yn PCYDDS: 

 “Mae’r MA Arfer Proffesiynol wedi’i chynllunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol wrth datblygu eu sgiliau ochr yn ochr â gwneud effaith gadarnhaol o fewn eu gweithleoedd.  Mae taith Abigail yn tynnu sylw at hyblygrwydd a pherthnasedd y rhaglen, yn ogystal â gwerth y dysgu seiliedig ar waith wrth yrru gwelliant sefydliadol.  Rydym yn falch o gefnogi dysgwyr fel Abigail wrth gyflawni eu nodau a symud eu gyrfaoedd ymlaen wrth gyfrannu at eu sefydliadau a’u cymunedau.” 

Mae Abigail yn parhau yn ei rôl fel Swyddog Mewnwelediadau Data a Pherfformiad yng Nghyngor Sir Gâr, lle bydd hi’n parhau i gymhwyso’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder a ddatblygodd trwy ei hastudiaethau yn PCYDDS.  

Os oes diddordeb gennych mewn datblygu eich arfer proffesiynol, mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer y cyfnod derbyn ym mis Hydref, anfonwch e-bost at ppf@uwtsd.ac.uk neu ewch i Fframwaith Arfer Proffesiynol | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gael rhagor o wybodaeth.  


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon