Un o Raddedigion PCYDDS yn Troi Angerdd am y Blynyddoedd Cynnar yn Uchelgais Gyrfa
Mae penderfyniad a wnaed drwy’r broses Glirio wedi arwain at daith brifysgol lwyddiannus i Phoebe Davies, un o raddedigion y Brifysgol sy’n dathlu graddio gyda gradd yn y Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Dewisodd Phoebe, o Ben-y-bont ar Ogwr, astudio yn PCYDDS ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lle datblygodd angerdd dros gefnogi plant ifanc a’u datblygiad.
Er iddi wneud cais drwy’r broses Glirio ar ôl ystyried ei hopsiynau yn dilyn canlyniadau ei harholiadau, mae’n dweud i’r profiad fod yn un didrafferth a chalonogol. Meddai:
“Roedd y broses Glirio yn llawer haws nag yr oeddwn i’n ei ddisgwyl. Roedd y tîm derbyn yn gyfeillgar, yn barod i helpu ac wedi ateb fy holl gwestiynau. Fe wnaethon nhw fy arwain trwy bob cam, gan wneud y broses gyfan yn un ddidrafferth a di-straen.”
Dewisodd Phoebe PCYDDS oherwydd ei henw da, yr amgylchedd dysgu cefnogol a ffocws ymarferol ei gradd yn y Blynyddoedd Cynnar, a oedd yn cynnig y cyfle i gyfuno dysgu academaidd â phrofiad gwerthfawr yn y byd go iawn.
Trwy gydol ei hastudiaethau, cofleidiodd bob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol, gyda’r nod o adeiladu’r hyder, y wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn gweithio gyda phlant.
Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd dysgu gan ddarlithwyr profiadol a chydweithio â chyd-fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd. Ychwanegodd:
“Roedd y darlithwyr bob amser yn hawdd siarad â nhw ac yn gefnogol. Fe wnes i fwynhau’r gweithgareddau dysgu rhyngweithiol a gweithio ochr yn ochr â chyd-ddisgyblion gyda phrofiadau gwahanol, a helpodd i ehangu fy safbwynt. Roedd awyrgylch croesawgar ar y campws, ac roedd digon o adnoddau a gwasanaethau cymorth ar gael, gan ei wneud yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio a datblygu’n bersonol.”
Yn ystod ei hail flwyddyn, enillodd Phoebe brofiad proffesiynol gwerthfawr trwy weithio gydag asiantaeth, gan roi cyfle iddi gymhwyso ei dysgu mewn lleoliadau bywyd go iawn gyda phlant.
“Gwnaeth y profiad hwn ganiatáu i mi gymhwyso’r hyn roeddwn i’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i sefyllfaoedd yn y byd go iawn a’m helpu i ddatblygu sgiliau proffesiynol gwerthfawr.”
Fel llawer o fyfyrwyr, roedd Phoebe yn cydbwyso ei hastudiaethau ag ymrwymiadau eraill, gan ddatblygu sgiliau cryf o ran trefnu a rheoli amser wrth wneud defnydd llawn o’r gefnogaeth sydd ar gael gan ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr.
Dywedodd y Tiwtor Derbyn, Glenda Tinney:
“Mae wedi bod yn wych bod Phoebe wedi ymuno â’n cwrs ni. Yn wir, cwrddon ni â Phoebe yn un o’n cyrsiau blasu haf pan oedd hi ym mlwyddyn 13; dyna a blannodd y syniad cychwynnol yn ei meddwl am y posibiliadau o astudio yn PCYDDS. Yna, cymerodd y cam i ymuno â ni yn ystod y cyfnod Clirio. Mae wedi bod yn fraint gweld ei datblygiad, ei hyder a’i sgiliau ym maes plentyndod ac addysg yn tyfu, a gweld sut mae hi’n cynllunio ei gyrfa yn y dyfodol. Da iawn, Phoebe; rydym mor falch dy fod wedi ymuno â ni ac ein bod bellach yn gweld canlyniadau cadarnhaol y dewis hwnnw.”
Creda Phoebe fod y cwrs wedi ei pharatoi’n dda ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r cwrs yn darparu cyfuniad cryf o wybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol. Mae wedi fy helpu i ddod yn fwy hyderus, gwella fy sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, ac wedi rhoi dealltwriaeth llawer cliriach i mi o fy llwybr gyrfa.”
Wrth edrych ymlaen, mae Phoebe yn bwriadu ennill profiad o weithio gyda phlant ifanc cyn dilyn ei huchelgais hirdymor o ddod yn nyrs bediatrig.
“Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant. Fy mreuddwyd yw dod yn nyrs bediatrig fel y gallaf ddarparu gofal, cefnogaeth ac anogaeth i blant a’u teuluoedd yn ystod rhai o gyfnodau pwysicaf eu bywydau.”
Mae Phoebe yn annog unrhyw un sy’n ystyried prifysgol trwy’r broses Glirio i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.
“Byddwn i’n bendant yn argymell y cwrs. Mae’r gefnogaeth gan staff a’r cyfleoedd i ennill profiad ymarferol yn ei gwneud yn ddewis ardderchog i unrhyw un sydd eisiau datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476