O India i'r Drindod Dewi Sant: Taith o dwf a hyder
Ar ôl dros bymtheg mlynedd yn y gweithle, penderfynodd Shivani Khanna ddychwelyd i addysg a dilyn Gradd Feistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yng Nghampws Busnes Abertawe y Drindod Dewi Sant. Wedi dod o India, gan raddio yn 2025, mae ei thaith yn tynnu sylw at ei chymhelliant i barhau i ddysgu a datblygu ei sgiliau.
Yn y blog hwn, mae hi’n adfyfyrio ar ei phrofiad fel myfyriwr rhyngwladol a sut mae ei hamser yn y Brifysgol wedi cefnogi ei thwf personol, ei hyder a chyfeiriad ei gyrfa.
Roeddwn i wastad eisiau gwella, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a pharhau i ddysgu. Ar ôl teimlo fy mod wedi sefyll yn fy unfan am ychydig flynyddoedd, teimlais awydd cryf i gynyddu fy ngwybodaeth. Erbyn hynny, roeddwn eisoes wedi bod yn gweithio ers dros bymtheg mlynedd, ac roedd troi cefn ar sicrwydd incwm sefydlog er mwyn astudio ymhellach yn eithaf brawychus.
Cafodd newidiadau technolegol cyflym ddylanwad arnaf, fel AI a ffyrdd newydd o redeg busnesau, a gwneud i mi sylweddoli bod angen i mi ddiweddaru fy sgiliau. Roeddwn hefyd wedi bod yn meddwl am wneud gradd Meistr ers peth amser, a gyda fy nghefndir mewn rheolaeth a gradd Baglor mewn Gweinyddiaeth Fusnes, penderfynais ddilyn MBA.
O ran dewis ble i astudio, y DU oedd fy newis cyntaf oherwydd ei hanes hir o addysg o ansawdd. Wrth i mi ymchwilio, y Drindod Dewi Sant oedd yn sefyll allan fel yr opsiwn gorau i mi. Mae’n uchel ei safle o ran ei safonau addysgu ac mae’n cynnig yr MBA ar draws ystod o gampysau, gydag opsiynau astudio hyblyg a modylau sy’n addas i wahanol ddisgyblaethau.
Roedd ffocws y brifysgol ar ddysgu ymarferol, gan gynnwys prosiectau arloesi dan arweiniad myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, wedi creu argraff arbennig arnaf. Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi bod y Drindod Dewi Sant yn ystyried myfyrwyr aeddfed, gan gynnwys y rhai sydd â bylchau astudio, yn seiliedig ar eu profiad gwaith a’u harbenigedd. A minnau yn fy nhridegau, rhoddodd hyn hyder i mi yn fy mhenderfyniad.
Roedd y broses dderbyn yn llyfn ac yn syml. Ar ôl cyflwyno fy nogfennau academaidd, fy nghanlyniadau IELTS a fy natganiad personol, cefais fy nghynnig amodol o fewn tri diwrnod gwaith yn unig. Dilynwyd hyn gan gyfweliad cyfeillgar, lle cefais adborth defnyddiol.
Yr hyn oedd wir yn sefyll allan i mi oedd lefel y gefnogaeth a dderbyniais trwy gydol y broses. Cefais ymatebion cyflym i’m cwestiynau, ac fe wnaeth y brifysgol fy arwain trwy fy nghais am fisa, gan sicrhau bod popeth wedi’i gwblhau’n gywir a heb straen. Roeddwn hefyd yn ffodus i dderbyn ysgoloriaeth, a wnaeth fy MBA yn fwy fforddiadwy.
O’r diwrnod cyntaf, mae’r Drindod Dewi Sant yn rhoi croeso cynnes i chi. Mae hyd yn oed pethau syml fel y gwasanaeth casglu o’r maes awyr am ddim sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol yn dangos lefel y gofal ac yn helpu i wneud y broses o ymgartrefu yn haws. Roedd y staff yn gyfeillgar ac yn dangos dealltwriaeth, yn enwedig o ran y gwahaniaethau mewn arddulliau academaidd rhwng myfyrwyr lleol a myfyrwyr rhyngwladol. Fe wnaethant ddarparu’r arweiniad yr oedd ei angen i’n helpu ni i addasu ac i lwyddo yn ein hastudiaethau.
Cawsom gyfle hefyd i fynychu modwl Saesneg academaidd am dri mis, a wnaeth ein helpu i addasu i ddisgwyliadau academaidd heb bwysau graddau. Yn ogystal, roedd cefnogaeth academaidd ychwanegol bob amser ar gael trwy’r Hwb Myfyrwyr - y cyfan oedd angen i ni ei wneud oedd cysylltu â nhw.
Pan ddechreuais fy MBA, roedd fy holl ddarlithwyr yn hawdd siarad â nhw ac yn gefnogol. Roedden nhw’n cyfleu disgwyliadau’n glir ac roeddent ar gael yn ystod ac ar ôl dosbarthiadau os oedd angen help arnom. Mae’r cwricwlwm MBA yn ymarferol ac wedi’i gynllunio i roi sgiliau bywyd go iawn i fyfyrwyr ar gyfer dilyniant gyrfa.
Roedd trafodaethau dosbarth yn cael eu hannog, ac roeddem yn cael ein gwahodd i rannu gwahanol safbwyntiau yn aml, hyd yn oed pan oedd gwahaniaeth barn. Fe wnaeth hyn helpu i ddatblygu meddwl beirniadol a rhoi hwb i’m hyder. Dros amser, roeddwn i’n gallu deall fy nodau gyrfa yn well a chydnabod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i mi o ran twf proffesiynol.
Cefnogaeth sy’n llywio llwyddiant
“Yr hyn a wnaeth argraff arnaf fwyaf oedd lefel y gefnogaeth drwy gydol fy nhaith. O ymatebion cyflym i arweiniad defnyddiol, roeddwn i bob amser yn teimlo fy mod yn cael cefnogaeth ac yn gallu symud ymlaen yn hyderus.”
Yn ystod fy nghwrs, gwirfoddolais i fod yn gynrychiolydd dosbarth. Cefais fy newis a rhoddwyd i mi’r cyfrifoldeb o godi unrhyw bryderon ar ran fy nghyd-fyfyrwyr. Roedd hyn yn caniatáu i mi fynychu sawl cyfarfod myfyrwyr a staff, lle roeddwn i’n gallu lleisio fy marn o flaen cynrychiolwyr undeb y myfyrwyr, rheolwyr academaidd a staff fy nisgyblaeth. Roedd hwn yn brofiad a wnaeth fy ngrymuso.
Yn ddiweddarach, fe wnes i gais am, a chefais fy newis fel cynrychiolydd llais myfyrwyr. Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, mynychais dri chyfarfod bwrdd ar lefel prifysgol. Cefais fy synnu i ddarganfod bod uwch swyddogion nid yn unig yn awyddus i glywed barn myfyrwyr trwy gynrychiolwyr fel fi, ond maen nhw hefyd yn cymryd y farn honno o ddifrif ac yn ei hystyried wrth ffurfio polisïau prifysgol gyfan. Yn fyr, mae lles myfyrwyr yn ganolog i ffocws y brifysgol.
Profais y gefnogaeth hon yn uniongyrchol yn ystod cyfnod anodd yn fy astudiaethau, pan gollais berthynas agos yn India. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais fynediad at wasanaethau cymorth y brifysgol, a wnaeth fy helpu drwy’r broses profedigaeth a’m cefnogi i godi’n ôl ar fy nhraed.
Mae’r brifysgol hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys adnoddau llyfrgell, dysgu digidol, cyngor ar fenter ac arweiniad gyrfa. Mae’r rhain ar gael i bob myfyriwr am ddim, ac mae llawer o’r gwasanaethau yn parhau hyd yn oed ar ôl graddio.
Fe wnaeth yr amgylchedd cefnogol hefyd fy annog i gymryd rhan mewn cyfleoedd ychwanegol. Cysylltais ag un o’m darlithwyr i gael cymryd rhan mewn prosiect dan arweiniad myfyrwyr neu gyn-fyfyrwyr, ac fe wnaeth fy nghynnwys mewn prosiect ar y cyd rhwng y Drindod Dewi Sant a Chyngor Rheolaeth Cymru o’r enw Business Hwb. Trwy hwn, rydw i bellach yn gwirfoddoli fel swyddog gweithredol gweithrediadau, gan helpu i gynnal digwyddiadau sy’n dod â myfyrwyr, busnesau lleol ac arbenigwyr y diwydiant at ei gilydd. Mae wedi bod yn gyfle anhygoel i ennill profiad ymarferol, meithrin cysylltiadau a deall yr amgylchedd busnes lleol.
Fel rhan o’m cyfraniad parhaus fel gwirfoddolwr cyn-fyfyrwyr, cefais fy newis ochr yn ochr ag eraill i fynychu Uwchgynhadledd Addysgol Sefydliad Arweinyddiaeth y Gymanwlad (CLI) yn Windsor lle wnes i gwrdd ag Ei Fawrhydi’r Brenin. Roedd hwn yn brofiad gwirioneddol ysbrydoledig, lle cwrddais ag arweinwyr byd-eang sy’n creu newid ystyrlon trwy arweinyddiaeth ac empathi.
At ei gilydd, dechreuodd fy nhaith fel myfyriwr, ond mae wedi tyfu i fod yn rhywbeth llawer mwy ystyrlon. Rwyf bellach yn gweithio tuag at fy nod o gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas trwy ddatblygu empathi, cymhwyso sgiliau arwain a chryfhau fy nghyfathrebu.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996