Mae’r cwrs hwn yn rhoi cipolwg delfrydol ar y byd busnes modern. Fe’i cynlluniwyd i roi’r sgiliau a’r wybodaeth y byddwch eu hangen i lwyddo yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gall myfyrwyr o amrywiaeth eang o bynciau ymuno â’r rhaglen hon, ac nid oes rhaid dod o gefndir rheolaeth busnes. Bydd y rhaglen hon yn gweddu i’r rhai sy’n awyddus i ddysgu repertoire eang o sgiliau busnes yn hytrach na chanolbwyntio ar un arbenigedd.
Mae hyn yn cynnwys dysgu sgiliau busnes craidd sy’n ymwneud â, er enghraifft, marchnata, adnoddau dynol, systemau gwybodaeth/e-Fusnes, cyfrifeg a chyllid. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau sy’n gysylltiedig â sefydliadau busnes a byddan nhw’n mwynhau datblygu atebion soffistigedig i broblemau a chyfleoedd busnes.
O ystyried yr ystod eang o sgiliau a ddysgir, bydd graddedigion yn cael llawer o gyfleoedd gyrfa mewn ystod amrywiol o rolau busnes (e.e. marchnata, AD, rheoli prosiectau, ac ati) mewn ystod eang o sectorau. Mae’r rhaglen hon hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu arbenigedd ar ôl addysg fusnes gyffredinol, y rhai sy’n dymuno bod yn athrawon busnes, neu’r rhai sydd eisiau llwybr at hunangyflogaeth.
Mae’r opsiynau llwybr arbenigol sydd ar gael ar lefel 6 yn cynnwys:
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Marchnata)
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Dadansoddeg Busnes)
- BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol)
Gellir gwneud cais i astudio’r cwrs hwn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.
Mae croeso i’r rhai sy’n cwblhau’r rhaglen hon barhau i astudio gyda ni ar un o’n Llwybrau MBA.
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Pob llwybr:
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes
(20 credydau)
(20 credydau)
Llwybr Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes (Dadansoddeg Busnes)
(20 credydau)
(20 Credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes (Marchnata)
(20 credydau)
Llwybr BA Rheolaeth Busnes (Adnoddau Dynol)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Birmingham
Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref.
Rhaid gwneud ceisiadau am le ar ein cyrsiau israddedig llawn amser yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd. Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.
-
.
-
Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau cyffredinol sy’n gysylltiedig ag astudio fel cludiant ac unrhyw bethau eraill y maen nhw eisiau eu prynu ar y campws gan gynnwys argraffu, coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill.
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron, tabledi a/neu feddalwedd i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.
-
Ewch i’r adrannau Ffioedd ac Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.
-
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.
Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.