Polisi a Chynllunio Iaith (Rhan amser) (PGCert)
Mae’r dystysgrif ôl-raddedig hon yn cyfuno astudiaethau academaidd a phrofiad cymhwysol yn y maes. Gosod yr ymdrechion i greu Cymru ddwyieithog yn eu cyd–destun hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol yw nod y dystysgrif arloesol hon.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y dystysgrif hon yn apelio at unigolion graddedig sy’n gweithio yn y maes cynllunio iaith o fewn sefydliadau cyhoeddus Cymru neu mewn mudiadau trydydd sector yn y gymuned. Bydd yn rhoi sail gadarn i fyfyrwyr o ran deall prif gysyniadau cynllunio iaith a datblygiad y maes fel gweithgaredd proffesiynol dros y degawdau diweddar. Bydd y cwrs hefyd yn cynnig cyfle i unigolion gymhwyso’u dysgu i’w profiad a’u gwaith eu hunain.
Mae’r dysgu yn digwydd ar-lein trwy gyfuniad o seminarau a thiwtorialau, gwaith darllen, aseiniadau a chyflwyniadau ar sail gwaith maes.
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Goruchwylir trefniadau mynediad yr Ysgol gan y Tiwtor Mynediad.
Fel arfer, disgwylir bod myfyrwyr ôl-radd wedi ennill gradd gyntaf a ddyfarnwyd gan brifysgol neu gorff dyfarnu cydnabyddedig.
Sut bynnag, caniatâ Polisi Mynediad yr Ysgol hefyd geisiadau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt efallai yn cydymffurfio â gofynion academaidd y dull mynediad arferol. Gall yr Ysgol, felly, ystyried ceisiadau oddi wrth fyfyrwyr aeddfetach y bydd ganddynt brofiad perthnasol a /neu gymwysterau amgen i’r rheiny a amlinellir uchod.
-
Ar gyfer y modwl Hanfodion Cynllunio Iaith disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno un aseiniad ysgrifenedig o 5,400 o eiriau (60%), a chyflwyniad seminar unigol, 30 munud (40%).
Ar gyfer y modwl Hyrwyddo’r Gymraeg rhaid cyflwyno un portffolio 5,400 o eiriau (60%) a chyflwyniad seminar unigol, 30 munud (40%).
Er mwyn sicrhau perthnasedd proffesiynol, rhoddir cyfle digonol i fyfyrwyr gymhwyso at eu dibenion eu hunain y deunydd a gyflwynir iddynt, ac i gyfeirio at eu meysydd gwaith unigol yng nghorff yr aseiniadau.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r dystysgrif hon yn darparu myfyrwyr ar gyfer galwedigaethau amrywiol sy’n ymwneud â dwyieithrwydd/ amlieithrwydd a’u galluogi i gymhwyso egwyddorion sylfaenol, ynghyd â gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau pwnc-seiliedig, at eu hanghenion galwedigaethol beunyddiol. Bydd o ddiddordeb mawr hefyd i’r rhai sy’n gweithio yn y maes eisoes, megis Swyddogion Iaith, Cynllunwyr Iaith, Swyddogion Y Llywodraeth, Llunwyr Polisi a Gweithwyr Ieuenctid.