Skip page header and navigation

Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (Llawn amser) (DBA)

Llundain
3 Blynedd Llawn amser

Profiad DBA newydd. Dysgwch gyda meddylwyr, academyddion ac ymarferwyr sy’n newid y byd.

Ydych chi’n barod am DBA Y Drindod Dewi Sant?

Cymhlethdod | Hunaniaeth | Ymdeimlad o le

  • Partneriaeth ar y cyd rhwng ymarferwyr ac academyddion o’r radd flaenaf
  • Profiadau dysgu cymdeithasol grymus sydd wedi ennill gwobrau
  • Digwyddiadau darganfod byw
  • Canolfan ymchwil un pwrpas i gefnogi eich traethawd hir
  • Nifer cyfyngedig o leoedd i hwyluso ymgysylltu

Dim darlithoedd | Dim seminarau | Dewch â’ch chwilfrydedd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle i wneud cyfraniadau o’r radd flaenaf at wybodaeth ac arfer.
02
Agor eich potensial gyrfaol, yn y diwydiant a’r byd academaidd.
03
Cyfle i fod yn arbenigwr yn eich maes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r Doethur mewn Gweinyddiaeth Busnes (DBA) yn Ysgol Fusnes Abertawe yn gyfle cyffrous i reolwyr profiadol wella ar eu cymwysterau, gan gyfuno ymchwil a gweithgareddau adfyfyriol ymarferol.

Mae’r DBA yn cynnig doethuriaeth berthnasol a hydrin i reolwyr sydd efallai yn teimlo nad yw’r PhD traddodiadol yn addas i’w hanghenion gyrfa a’u huchelgeisiau. Mae’r elfen adfyfyrio ar arfer proffesiynol yn gwneud y ddoethuriaeth broffesiynol yn wahanol i ddyfarniad PhD.

Mae’r DBA yn ddoethuriaeth broffesiynol sy’n darparu rhaglen astudio strwythuredig trwy fodylau a addysgir, wedi’u hintegreiddio’n agos gyda datblygiad gyrfa broffesiynol unigolion.  Yn gyffredinol, caiff ei adnabod fel pinacl cymwysterau’r byd busnes a rheolaeth. Lluniwyd y rhaglen DBA hon i fodloni anghenion gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn meysydd cysylltiedig â Gweinyddiaeth a Rheolaeth Busnes ym marchnad y DU a rhai rhyngwladol.

Nod y rhaglen yw rhoi i fyfyrwyr sylfaen drylwyr mewn athroniaeth, egwyddorion ac arfer ymchwil gweinyddiaeth a rheolaeth busnes, a dealltwriaeth feirniadol o faterion cyfoes a byd-eang allweddol sy’n effeithio ar holl sectorau busnes. Defnyddir y term busnes yn ei ystyr ehangaf oherwydd gall y rheiny sy’n gweithio mewn mentrau cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol a di-elw hefyd ymgymryd â’r radd.

Mae gan y rhaglen ddwy ran, ac mae’n cynnwys modylau a addysgir a phrosiect ymchwil seiliedig ar waith ar lefel doethuriaeth.

Traethawd Hir Ymchwil

(360 credydau)

Dulliau Ymchwil Meintiol

(30 credydau)

Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol - Safbwyntiau Damcaniaethol ar Reoli

(30 credydau)

Egwyddorion Ymchwil ac Athroniaeth

(30 credydau)

Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth ar gyfer Ymchwil Doethurol

(30 credydau)

Trosi Ymchwil yn Arfer

(30 credydau)

Symud Ymlaen i'r Cam Ymchwil Doethurol

(30 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Llundain

Fel prif ddinas, mae gan Lundain gymaint o amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr fydd yn addas ar eich cyfer chi ac yn yr ardal lle’r hoffech chi fyw yn Llundain.  Mae ein tîm llety wrth law ac ar gael i’ch arwain trwy eich opsiynau.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen ar agor i ymgeiswyr sydd ag o leiaf tair blynedd o brofiad rheoli diweddar a pherthnasol. O leiaf gradd Meistr neu gyfwerth. Mae angen i Feistri gael teilyngdod cyffredinol (60%).

    Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol mae yna ofyniad am sgôr IELTS cyfartalog (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall) o 6.0 heb ddim llai na 5.5 mewn unrhyw gydran unigol.

  • All modules are individually assessed and have been specifically crafted to prepare students for part 2 of the DBA.

  • Bwrsari ar gyfer Alumni (gostyngiad o 20% yn y ffioedd) – dim ond ar gyfer modylau a addysgir rhan 1.

    Y myfyrwyr i dalu unrhyw gostau ychwanegol

    Fel sefydliad ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir y costau ar gyfer teithiau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

    Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio. Byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau visa ychwanegol yn daladwy i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu bedair wythnos cyn i deithiau maes gael eu cynnal, a chostau teithio a fisa ar gyfer lleoliadau tramor, dri mis cyn gadael.”

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • The DBA programme will prepare students for any field or discipline within management and business giving them the critical thinking skills, analytical capabilities, and enhanced cognitive abilities to be able to succeed in these areas. Also, it will prepare students to be robust and proficient researchers should they choose to enter a career directly in academia.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau