Skip page header and navigation

Marchnata (Llawn amser) (MBA)

Llundain
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r rhaglen hon yn cynnig y sgiliau ymarferol a’r sgiliau academaidd sy’n allweddol i ddatblygu a myfyrio ar sgiliau a chymwyseddau rheoli marchnata a fydd yn ddefnyddiol ar draws ystod eang o sefyllfaoedd, sectorau a sefydliadau. Bydd marchnata digidol a marchnata rhyngwladol yn cael sylw manwl yma, a bydd graddedigion mewn sefyllfa wych i fanteisio ar y galw am weithwyr proffesiynol sy’n arbenigo yn y meysydd hyn.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau arwain a rheoli a fydd yn hanfodol yn natblygiad eich gyrfa.
02
Cewch weithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol ac sy’n dysgu ar sail arfer, a byddan nhw’n eich tywys drwy bob cam o'r broses.
03
Cewch ddysgu gan siaradwyr gwadd o fyd busnes, a chymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau eraill.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio mewn ymateb i’r galw yn y farchnad am raddedigion sydd â sgiliau trosglwyddadwy ac sydd â’r gallu i gwrdd â her newidiadau o fewn ecosystemau busnes, patrymau gweithio, datblygiadau mawr mewn technoleg gwybodaeth, a data mawr. Bydd rhan gyntaf y cwrs yn eich paratoi gyda gwybodaeth eang am feysydd gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol a rheolaeth strategol, ac yna byddwch yn symud ymlaen i astudio modiwlau arbenigol a fydd yn eich cyflwyno i ystod o dechnolegau a chysyniadau newydd. 

Byddwch yn astudio theori, ond bydd llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i hennill o’ch profiad ymarferol hefyd. Daw’n myfyrwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd: gall yr MBA hwn addasu ar gyfer ei anghenion a’ch diddordebau chi, p’un ai yw eich profiad rheoli mewn cwmni mawr neu o weithio mewn busnes bach. 

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, mae croeso i fyfyrwyr barhau i astudio gyda ni trwy ymuno â’r rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes.

*Sylwch, yn ddibynnol ar faint y garfan, gallai’r Brifysgol ofyn i chi ddewis llwybr arall.

Compulsory

  • Traethawd Hir, NEU Astudiaeth Achos Integredig, NEU Gynnig Datblygiad Busnes (60 credydau)
Rheolaeth Ariannol

(20 credydau)

Rheoli Marchnata

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol

(20 credydau)

Marchnata Digidol

(20 credydau)

Marchnata Rhyngwladol

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Llundain

Fel prif ddinas, mae gan Lundain gymaint o amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr fydd yn addas ar eich cyfer chi ac yn yr ardal lle’r hoffech chi fyw yn Llundain.  Mae ein tîm llety wrth law ac ar gael i’ch arwain trwy eich opsiynau.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.

    Ymgeiswyr Cartref:

    Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.

    Ymgeiswyr rhyngwladol:

    Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.

    Fel arfer, bydd angen sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn unrhyw gydran o’r prawf.

  • Mae modiwlau’n cael eu hasesu drwy waith cwrs. Mae sawl gwahanol fath o waith cwrs, gan gynnwys prosiectau seiliedig ar waith, prosiectau ymchwil bach, cyflwyniadau, dadansoddiadau o astudiaethau achos a’r prosiect ymchwil / traethawd hir terfynol. Efallai y bydd myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd yn gallu seilio eu prosiectau ar astudiaethau achos.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r MBA hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr a allai fod yn awyddus i weithio mewn swyddi fel rheolwr marchnata, rheolwr brand, dadansoddwr ymchwil i’r farchnad, neu reolwr cynnyrch newydd yn y DU neu dramor.

    Gallai’r rhai sydd â sgiliau ariannol cryf fynd am yrfa ym meysydd cynllunio strategol neu gynllunio marchnadoedd, ac mae cyfleoedd hefyd i weithio fel rheolwyr gwerthu, rheolwyr hysbysebu, cyfarwyddwyr cysylltiadau cyhoeddus, a rheolwyr cyfathrebiadau marchnata.

    Yn aml, bydd gan asiantaethau marchnata a hysbysebu gyfleoedd i ddeiliaid MBA Marchnata ym meysydd hysbysebu, marchnata uniongyrchol, a chyfathrebu, ac mae cwmnïau ymgynghori hefyd yn eu cyflogi fel datblygwyr marchnadoedd newydd, strategwyr ac fel arbenigwyr segmentu cwsmeriaid.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau