Skip page header and navigation

Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle - Astudio ar Benwythnos (CertHE)

Birmingham
1 Blynedd Llawn Amser

Bydd astudio ein Tystysgrif AU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle yn Birmingham yn rhoi cyfle i chi ennill dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth wrth i chi ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy.  Mae’r radd hon wedi’i llunio er mwyn rhoi gwybodaeth eang am sefydliadau busnes, eu dulliau rheoli a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu o’u mewn.

Bydd modylau’r rhaglen yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a datblygiad proffesiynol. 

Bydd sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl yn feirniadol a chyfathrebu’n cael eu hintegreiddio ar draws y modylau.

Mae gan y rhaglen thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth.

Er nad yw’n arbenigo mewn disgyblaeth benodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi gwybodaeth eang i chi yn y meysydd pwnc mwyaf cyffredin o fewn busnes a rheolaeth.

Byddwch yn ennill mewnwelediad helaeth i gymhwysiad damcaniaethol ac ymarferol theorïau a fframweithiau rheoli.   Byddwch hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o ystod o sectorau a diwydiannau, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich profiad gwaith ymarferol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn Amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygu’r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen arnoch i wella eich gyrfa.
02
Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol, ar sail ymarfer a fydd yn eich arwain trwy bob cam o'r broses.
03
Ymuno â chymuned ddysgu a fydd yn dod yn rhwydwaith busnes am oes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen wedi’i chreu’n benodol o ran ei chynnwys a’i darpariaeth hyblyg er mwyn rhoi i chi hyder i ragweld problemau a dod o hyd i ddatrysiadau, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill, i gynllunio pethau cyn dechrau arnynt a chwblhau’r pethau yr ydych wedi‘u dechrau; yn fyr, i ddatblygu’r sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau!

Mae’r holl addysgu wedi’i seilio ar brosiectau, gan gysylltu damcaniaeth ag arfer a sicrhau bod pob modwl yn cael ei roi mewn cyd-destun o fewn sefyllfaoedd a heriau go iawn yn y gweithle.

Gallwch wneud cais i astudio’r cwrs hwn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.

  • Bydd amrywiaeth o asesiadau yn cael eu defnyddio i herio myfyrwyr. Mae ffocws academaidd cryf i’r rhaglen a hynny ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol

  • Caiff pob ymgeisydd ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun. Fel arfer bydd gan fyfyrwyr dan 21 oed o leiaf 1 Lefel A neu Ddiploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC neu gyfwerth. Ymgeiswyr Hŷn – yn aml gellir ystyried profiad yn lle cymwysterau ffurfiol. Mae graddau yn bwysig; fodd bynnag, nid ydym yn cynnig lle ar y cwrs yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig.

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n dangos ymrwymiad cryf i’r maes pwnc y maen nhw wedi’i ddewis ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd.​ Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr basio asesiad gydag un o’n hacademyddion er mwyn cael eu derbyn ar y rhaglen.

  • Ewch i’r adrannau Ffioedd ac Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth.

  • Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n benodol ar gyflogadwyedd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu defnyddio profiadau yn y gweithle i lywio eu hastudiaethau trwy gydol pob modiwl.​

    Mae canlyniadau penodol yn cynnwys creu portffolios digidol, lle gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth o sgiliau allweddol, damcaniaethau a methodolegau i’w defnyddio mewn cyfweliad ac i wella eu gyrfaoedd.​

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau