Prentisiaeth mewn Logisteg y Gadwyn Gyflenwi (BSc Anrh)
Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y diwydiant i roi i unigolion y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau esblygol rheoli’r gadwyn gyflenwi a logisteg. Ein nod yw meithrin cadwyni cyflenwi hyblyg, proffidiol ac ymatebol i gwsmeriaid.
Cynhelir darpariaeth y rhaglen ar-lein yn bennaf dros gyfnod o bedair blynedd, er y gall dysgu a phrofiad blaenorol leihau’r amser astudio gofynnol o bosibl. Drwy gydol y rhaglen, bydd prentisiaid yn cymryd rhan mewn aseiniadau a phrosiectau yn y gweithle sydd wedi’u teilwra i’w rolau penodol a’u cytuno gyda’u cyflogwr. Bydd y prosiectau hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â gweithrediadau cwmni’r cyflogwr.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda chi a’ch cyflogwr i bennu’r pwynt mynediad gorau ar gyfer pob prentis unigol yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad presennol. Ein nod yw sicrhau bod pob prentis yn cychwyn y rhaglen ar gam sy’n cyd-fynd â’u hyfforddiant blaenorol a’u galluoedd.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis, i’r cyflogwr neu ESFA.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Lluniwyd y rhaglen hon mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y diwydiant i baratoi unigolion ar gyfer yr heriau hyn ac i sicrhau ein bod yn datblygu cadwyni cyflenwi ystwyth, proffidiol ac ymatebol i gwsmeriaid.
Compulsory
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credyd)
Compulsory
(10 credydau)
(10 credyd)
(20 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
Compulsory
(20 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(10 credyd)
(20 credyd)
(10 credyd)
(20 credyd)
(10 credyd)
Compulsory
(20 credydau)
(20 credyd)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.
Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.
Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.
Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.