Gwyddor Data a Dadansoddeg Busnes (Llawn amser) (MBA)
Mewn ymateb i’r galw gan y diwydiant, mae’r MBA hwn yn cyfuno astudiaeth sylfaenol o’r pynciau busnes craidd gyda sylw i wyddor data a dadansoddeg busnes.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio mewn ymateb i’r galw yn y farchnad am raddedigion sydd â sgiliau trosglwyddadwy. Mae hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â’r gallu i ymateb â her newid o fewn ecosystemau busnes, y datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial, a chronfeydd data mawr. Bydd rhan gyntaf y cwrs yn eich paratoi gyda gwybodaeth eang am feysydd gwahanol gan gynnwys marchnata, adnoddau dynol a rheolaeth strategol. Yna, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol a fydd yn eich cyflwyno i ystod o dechnoleg a chysyniadau newydd.
Byddwch yn astudio theori, ond bydd sawl cyfle i ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi eich hunan wedi’i ennill o’ch profiad ymarferol hefyd. Daw ein myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gwahanol ac felly mae’r MBA hwn yn un y gellir ei addasu er mwyn bodloni eich anghenion a’ch diddordebau chi, boed chi’n dod o gefndir mewn cwmni mawr neu o fusnes bach.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, mae croeso i fyfyrwyr barhau i astudio gyda ni trwy ymuno â’r rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes.
*Sylwch: Gallai’r Brifysgol ofyn i chi ddewis llwybr arall o ganlyniad i ystyriaethau maint y garfan.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(60 credydau)
(60 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Birmingham
Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol.
Ymgeiswyr Cartref:
Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.
Fel arfer, bydd angen sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn unrhyw ran o’r prawf.
-
Mae modiwlau’n cael eu hasesu drwy waith cwrs. Mae sawl gwahanol fath o waith cwrs, gan gynnwys prosiectau sy’n seiliedig ar eich gwaith, prosiectau ymchwil byr, cyflwyniadau, dadansoddiadau o astudiaethau achos yn ogystal â phrosiect ymchwil / traethawd hir terfynol. Efallai y bydd myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd yn gallu seilio eu prosiectau ar astudiaethau achos penodol.
-
Ni fydd costau ychwanegol at ffioedd dysgu, ond dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi a phryd ysgafn neu eitemau eraill ar y campws.
Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis gwario ar offer fel gliniaduron er mwyn cefnogi eu haddysg, ond nid yw hyn yn ofyniad o ran y rhaglen. Bydd unrhyw gostau y tu hwnt i ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig ag astudio neu fywyd myfyrwyr yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr ar adeg cofrestru.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r MBA hwn wedi’i anelu at bobl sydd wedi’u cyflogi gan sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â’r sector busnesau bychain, ble mae busnes rhyngwladol yn dod yn fwyfwy pwysig a ble mae’n hanfodol i feddu ar amrywiaeth o sgiliau.
Mae’r cwrs wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n awyddus i gael gyrfa ym maes gwyddor data a dadansoddeg busnes yn y DU neu dramor. Gall arwain at gyfleoedd ym meysydd dadansoddi data, systemau a phrosesau, yn ogystal â datrysiadau creadigol a chynllunio mewn sefyllfaoedd real. Gall graddedigion weithio fel dadansoddwyr busnes, penseiri busnes, rheolwyr cynnyrch, dadansoddwyr systemau, dadansoddwyr data neu ymgynghorwyr rheoli, yn ogystal â dilyn llwybrau rheolaeth mwy cyffredinol.