Skip page header and navigation

Rheoli Pobl (Rhan amser) (CIPD Associate Diploma)

Caerfyrddin
18 Mis Rhan amser

Mae’r cymhwyster newydd hwn yn adeiladu ar y Dystysgrif Sylfaen Lefel 5 CIPD mewn Arfer Pobl a’i nod yw ymestyn arfer annibynnol dysgwyr ymhellach i’w galluogi i esblygu i mewn i rolau uwch o fewn sefydliadau fel weithwyr proffesiynol pobl. Yn bennaf, bydd gwaith dysgwyr yn weithredol gyda pheth cymhlethdod.

Gan ddefnyddio fframwaith o AD a dealltwriaeth o L&D, ymddygiad a datblygu sgiliau, mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr drosglwyddo i swyddi fel rheolwyr pobl. Mae’r cymhwyster hwn yn ymestyn a meithrin lefel dyfnach o ddealltwriaeth a chymhwysiad ac yn datblygu arbenigedd dysgwyr mewn arfer pobl yn naturiol. Mae’n addas ar gyfer unigolion sydd:

  • yn dechrau gyrfa mewn rheoli pobl. 
  • yn gweithio mewn rôl arfer pobl ac yn dymuno cyfrannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i helpu siapio gwerth sefydliadol.
  • yn gweithio tuag at, neu’n gweithio mewn rôl rheoli pobl.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
18 Mis Rhan amser

Ariennir y rhaglen yn llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cymhwyster proffesiynol yw hwn wedi’i seilio ar Fap Proffesiwn CIPD.
02
Bydd ei gwblhau’n llwyddiannus yn rhoi i ddysgwyr y wybodaeth, sgiliau a galluoedd i wneud cais am rolau rheoli pobl.
03
Mae presenoldeb yn digwydd drwy 10 gweithdy wyneb-yn-wyneb dros 18 mis ac felly yn golygu ychydig iawn o amser o'r gwaith.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl CIPD yn gymhwyster newydd, wedi’i seilio ar y map proffesiynol newydd CIPD. Mae’n gyfwerth ag ail flwyddyn gradd prifysgol yn y DU. Mae gweithwyr mewn rolau AD neu’n ymgymryd â dyletswyddau AD ar hyn o bryd (ar unrhyw lefel) yn gymwys i ymgeisio.

Caiff dysgwyr eu cofrestru ar y Prentisiaeth Uwch mewn HRM gyda Choleg Sir Gar a byddant yn ymgymryd â’r cymhwyster hwn gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o’r Brentisiaeth.

Bydd dysgwyr yn mynychu gweithdai dros 18 mis, i gwblhau’r Diploma. Wrth gwblhau’r Diploma’n llwyddiannus bydd ymgeiswyr yn dod yn aelodau Cysylltiol o’r CIPD. Caiff aelodaeth gysylltiol ei chydnabod yn lefel o aelodaeth broffesiynol ac mae gan ymgeiswyr llwyddiannus yr hawl i ddefnyddio’r dynodiad AssocCIPD ar ôl eu henw.

Yn amodol ar brofiad a chymwysterau blaenorol, efallai y bydd hefyd raid i ddysgwyr gwblhau gwaith ychwanegol, yn rhan o ofynion sgiliau hanfodol y brentisiaeth – caiff hyn ei esbonio i chi yn rhan o’r broses ymgeisio.

Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol ar Waith

(7 credydau)

Arfer Seiliedig ar Dystiolaeth

(6 credydau)

Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl

(5 credydau)

Rheoli Cysylltiadau Cyflogaeth

(6 credydau)

Rheoli Talent a Chynllunio'r Gweithlu

(6 credydau)

Gwobrwyo am Berfformiad a Chyfraniad

(6 credydau)

Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

(6 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed neu’n hŷn sydd eisiau dysgu am arfer pobl neu arfer L&D. Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, bydd angen i ymgeiswyr ddangos y gallu i astudio ar lefel 5, naill ai drwy feddu ar gymwysterau ffurfiol, meddu ar brofiad perthnasol neu ddangos cymhwysedd mewn ffyrdd eraill.

  • Mae asesiadau Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl CIPD yn cael ei yrru gan gyflogwyr ac wedi’i anelu at senarios go iawn y gall dysgwyr ddod ar eu traws yn eu gyrfa yn y dyfodol. Bydd y CIPD yn gosod aseiniadau ar gyfer pob uned craidd. Ar gyfer unedau eraill, bydd y Brifysgol yn dyfeisio eu hasesiadau eu hun, wedi’u seilio ar ganllawiau a ddarperir gan CIPD. Gallai’r rhain gynnwys astudiaethau achos, sioeau sleidiau, portffolios a dulliau asesu eraill. Ni fydd dim arholiadau.

    Nid oes gradd ar gyfer y cymhwyster hwn. Bydd dysgwyr naill ai’n cael Pas neu Fethu. Rhaid bodloni’r holl feini prawf asesu i gyflawni Pas.

  • Ariennir y cymhwyster hwn yn llawn ar gyfer myfyrwyr cymwys. I gael eu hystyried am y cyllid, rhaid i fyfyrwyr wneud cais i Goleg Sir Gâr a chwblhau’r broses gwneud cais am brentisiaeth. Mae’r manylion llawn ar gael ar gais oddi wrth y rheolwr rhaglen. Gall myfyrwyr ddewis cofrestru ar y cwrs heb gyllid – y ffi gyfredol yw £1700 (2022-2023).

    Mae Aelodaeth Myfyrwyr o’r CIPD yn costio £98 y flwyddyn, yn ogystal â ffi ymuno o £40. (Chwefror 2022).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Bydd llwyddo i gyflawni Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD yn caniatáu dilyniant i’r Diploma Ôl-raddedig/MA lefel 7.

    Bydd y cymhwyster yn galluogi i fyfyrwyr wneud cais am swyddi sy’n gofyn am statws Lefel 5 CIPD.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau