Athro Ann Parry Owen
Cefndir
Dechreuodd yr Athro Parry Owen ei gyrfa yn CAWCS yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect ‘Beirdd y Tywysogion’ (1985–93), gan weithio’n benodol ar farddoniaeth Cynddelw Brydydd Mawr (12fed ganrif). Yn 1993 fe’i penodwyd yn arweinydd prosiect ‘Beirdd yr Uchelwyr’, a gynhyrchodd 44 cyfrol dros ugain mlynedd.
Yn 2007 enillodd grant AHRC o £900K i arwain tîm o ymchwilwyr i greu argraffiad newydd a digidol o’r bardd o’r 15fed ganrif, Guto’r Glyn. Prif allbwn y prosiect oedd gwefan ddwyieithog arloesol: Guto’rGlyn.net.
Mae hi wedi bod yn Uwch Olygydd gyda Geiriadur Prifysgol Cymru ers 2017, ac mae ganddi ddiddordeb yn hanes cynnar geiriau, ac yn benodol geirfa’r beirdd. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn geiriadureg hanesyddol.
Mae’n Brif Olygydd Studia Celtica ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Llyfrgell Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol MHRA. Mae hi hefyd yn aelod o Banel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg.
Pynciau Arbenigol
- Y Gymraeg, orgraff a gramadeg
- Barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol
- Geiriadureg hanesyddol
- Llawysgrifau a Phaleograffeg
- John Jones, Gellilyfdy (16/17g.)
- Thomas Wiliems, Trefriw (1545-1622)
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Geiriaduraeth
Cysodi llyfrau academaidd
Cymwysterau
- BA
- PhD
Ieithoedd a Siaradwyd
Saesneg
Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol
Dolen i Broffil Orcid
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- Geiriadura.cymru (erthyglau ar ffurf blog ar agweddau ar eiriau Cymraeg hanesyddol)
- 'Casglfa Ddirfawr o Eiriau Cymraeg, Henion a Newyddion': Geiriadur Thomas Wiliems, Trefriw (c.1545–1622/3) yn LlGC Peniarth 228', Llên Cymru, 47 (2024), 54–83.
- ‘John Jones o Gellilyfdy and his Fleet Vocabularies, 1632͏–1633', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 29 (2023), 113–26
- Geirfâu'r Fflyd, 1632–1633: Casgliad John Jones, Gellilyfdy o Eiriau'r Cartref, Crefftau, Amaeth a Byd Natur (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2023), 540tt.
- ' "Canu" Beirdd y Tywysogion i'r Saint', yn David Parsons (gol.), Seintiau Cymru / Sancti Cambrenses: Astudiaethau ar Seintiau Cymru / Studies in the Saints of Wales (Aberystwyth: CAWCS 2022), 269͏–86
- 'Ar Drywydd afon', Pedwar Gwynt (Hydref 2021) https://pedwargwynt.cymru/dadansoddi/ar-drywydd-afon
- 'A–Z Geiriadur Prifysgol Cymru: 100 mlynedd mewn 30 gair', BBC Cymru Fyw, 20 Medi 2021
- 'Enwau lleoedd a Beirdd y Tywysogion', yn Gareth A. Bevan, G. Angharad Fychan, Hywel Wyn Owen ac Ann Parry Owen (gol.), Ar Drywydd Enwau Lleoedd: Casgliad o Ysgrifau i Anrhydeddu'r Athro Gwynedd O. Pierce ar ei Ben Blwydd yn Gant Oed (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2021)
- 'Mynegai i enwau lleoedd ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol', geiriadura.cymru (Chwefror 2021)
- 'Canu i Ddewi' gan Gwynfardd Brycheiniog, gwefan: 'Cwlt y Seintiau yng Nghymru' (Tachwedd 2020)
- 'Canu Tysilio' gan Cynddelw Brydydd Mawr, gwefan: 'Cwlt y Seintiau yng Nghymru'. (Medi 2019)
- 'Canu i Gadfan' gan Llywelyn Fardd, gwefan: 'Cwlt y Seintiau yng Nghymru'. (Hydref 2018)
- Plu porffor a chlog o fwng ceiliog: Cynddelw Brydydd Mawr a Guto'r Glyn, Darlith Goffa J. E. Caerwyn Williams a Mrs Gwen Williams 2015 (Aberystwyth, 2017)
- 'Gramadeg Gwysanau: a fragment of a fourteenth-century Welsh Bardic Grammar', yn Deborah Hayden a Paul Russell (goln.), Grammatica, Gramadach and Gramadeg: Vernacular Grammar and Grammarians in Medieval Ireland and Wales (Rhydychen, 2016), tt. 181–20’
- "An audacious man of beautiful words": Ieuan Gethin (c.1390–c.1470)', Proceedings of the Harvard Celtic Colocquium, 34 (2014), 1–34
- Gwaith Ieuan Gethin (Aberystwyth, 2013)
- 'Golygiadau electronig: Gwefan Guto'r Glyn', Tu Chwith (Gwanwyn 2013), 40–8
- Golygydd cerddi 103–18 gan Guto'r Glyn (gw. www.gutorglyn.net) a Golygydd Cyffredinol y wefan (2012)
- 'Cywydd Gofyn Cloc gan Ddafydd ab Owain o Fargam ar ran Morys o Ardal y Fenni', Llên Cymru, 35 (2012), 3–18
- gyda William Linnard, 'Horological requests in early Welsh poems', Antiquarian Horology, 33 (Medi 2012), 631–6
- 'Gramadeg Gwysanau (Archifdy Sir y Fflint, D/GW 2082)', Llên Cymru, 33 (2010), 1–31