Mae’r cymhwyster lefel mynediad hwn yn berffaith ar gyfer pobl broffesiynol sydd yn eu swydd gyntaf ym maes proffesiwn pobl neu’n chwilio am swydd yn y maes, gan y byddwch yn cael:
- Sylfaen gadarn mewn Arfer Pobl
- Y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau ar gyfer cyflawni tasgau sydd o fudd i’ch sefydliad ar lefel weithredol
- Yr hyder i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer cydweithwyr a’ch sefydliad.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
Ariennir y rhaglen yn llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Trwy astudio pedair uned graidd mewn Diwylliant Busnes, Ymddygiadau Craidd, Dadansoddeg a Hanfodion Arfer Pobl, byddwch yn datblygu’r arbenigedd i gefnogi newid a chreu argraff yn eich sefydliad.
Byddwch yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan gaffael ymddygiadau craidd sy’n deillio o Fap Proffesiwn newydd y CIPD, sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth gynyddol miloedd o arbenigwyr. Mae cymwysterau CIPD yn gosod y safon ryngwladol ar gyfer gweithwyr pobl proffesiynol.
Byddwch yn magu’r hyder i wthio eich gyrfa yn ei blaen - a gydag aelodaeth CIPD, byddwch yn meddu ar y gydnabyddiaeth sydd ei hangen i gydio yn y rôl rydych chi wedi bod ei heisiau erioed.
(5 credydau)
(4 credydau)
(4 credydau)
(11 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed ac yn hŷn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, er bod disgwyl i chi ddangos y gallu i ysgrifennu’n academaidd ar lefel 3.
-
Does dim arholiadau. Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ysgrifenedig.
-
Mae costau ychwanegol yn cynnwys aelodaeth orfodol CIPD i fyfyrwyr a phrynu gwerslyfrau sy’n ddewisol.
Mae Aelodaeth Myfyrwyr o’r CIPD yn costio £98 y flwyddyn, yn ogystal â ffi ymuno o £40. (Chwefror 2022).
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Pan fyddwch yn cwblhau eich cymhwyster, byddwch yn derbyn Aelodaeth Sylfaenol CIPD, a’r dynodiad “CIPD Sylfaenol” (“Foundation CIPD” ) ar ôl eich enw. Mae hyn yn meithrin eich hygrededd yn y proffesiwn pobl, yn dangos eich bod o ddifrif ynglŷn â’ch datblygiad a bod gennych sylfaen gref o wybodaeth i adeiladu arni.