Skip page header and navigation

Athroniaeth, Crefydd a Moeseg (Llawn amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen Athroniaeth, Crefydd a Moeseg nid yn unig yn archwilio’r cwestiynau athronyddol a chrefyddol mawr, ond hefyd yn archwilio’r effaith mae dadleuon athronyddol, crefyddol a moesegol yn ei chael ar y byd cyfoes. Byddwch yn archwilio amrywiaeth eang o faterion hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael nid yn unig â dadleuon oesol ond hefyd heriau cyfoes.

Bydd y rhaglen hon yn datblygu eich dealltwriaeth o ddadleuon allweddol mewn athroniaeth, crefydd a moeseg, yn ogystal â datblygu eich ymatebion beirniadol eich hun i’r dadleuon hyn.

Caiff y rhaglen ei darparu drwy ddysgu o bell, sy’n caniatáu dull hyblyg i chi astudio. Fodd bynnag, bydd cyfle o hyd i weithio gyda myfyrwyr eraill drwy seminarau ar-lein, a’r cyfle i gael sesiynau tiwtorial un i un ar-lein.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
PRT1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae dysgu o bell yn cynnig ymagwedd hyblyg at astudio.
02
Addysgir y rhaglen hon trwy ein platfform dysgu o bell unigryw, fel y gallwch barhau i weithio a chyflawni’ch ymrwymiadau teuluol wrth i chi astudio am eich gradd BA.
03
Y cyfle i gael seminarau ar-lein.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen nid yn unig yn archwilio’r cwestiynau athronyddol a chrefyddol mawr, ond hefyd yn archwilio’r effaith mae dadleuon athronyddol, crefyddol a moesegol yn ei chael ar y byd cyfoes.

Bydd yn archwilio amrywiaeth eang o faterion hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol ac yn helpu myfyrwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael nid yn unig â dadleuon oesol ond hefyd heriau cyfoes.

Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Nid yw pob modwl dewisol yn cael eu cynnig bob blwyddyn
  • Darperir modylau dewisol yn amodol ar niferoedd myfyrwyr digonol
  • Mae modylau iaith yn ddewisol/gorfodol/craidd yn ôl gallu ieithyddol
  • Mae sawl fersiwn Lefel 5 a Lefel 6 o’r un modwl. Gall myfyrwyr gymryd y modwl hwn unwaith yn unig; mae hyn yn dibynnu ar ba flwyddyn y cynigir y modylau.

Gorfodol 

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fetaffiseg ac Epistemoleg
Cyflwyniad i Foeseg
Athroniaeth Crefydd
Cyflwyniad i Astudio Crefydd
Ysbrydolrwydd: O'r Cyfnod Hynafol i'r Presennol

(20 credydau)

Blwyddyn A

Gorfodol 

Duw a’r Byd: Y Cosmos o safbwynt Crefyddol a Moesegol
Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol
Crefydd yn America Ladin
Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb

(20 credydau)

Metafoeseg

(20 credydau)

Moeseg Bywyd a Marwolaeth

(20 credydau)

Blwyddyn B

Gorfodol 

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Pobl, Anifeiliaid a Pheiriannau
Crefydd a'r Cyfryngau

(20 credydau)

Ystyr Bywyd

(20 credydau)

Blwyddyn A a B

Gorfodol 

Traethawd Hir

(60 credydau)

Blwyddyn A

Dewisol

Duw a’r Byd: Y Cosmos o safbwynt Crefyddol a Moesegol
Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Diwinyddiaeth a Chyfarfyddiad Rhyng-grefyddol
Crefydd yn America Ladin
Metafoeseg

(20 credydau)

Moeseg Bywyd a Marwolaeth

(20 credydau)

Blwyddyn B

Dewisol

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Pobl, Anifeiliaid a Pheiriannau
Crefydd a'r Cyfryngau

(20 credydau)

Ystyr Bywyd

(20 credydau)

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion yn seiliedig ar ganlyniadau academaidd yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, eich cyraeddiadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Asesir yn bennaf drwy aseiniadau gwaith cwrs.

  • Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Athrofa’n gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Athrofa’n noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): tua £500 - £1,500

    Gwibdeithiau unigol: tua £5 - £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Byddwch yn datblygu gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o swyddi gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau