Athroniaeth (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae’r BA Athroniaeth hwn yn eich gwahodd i archwilio rhai o’r cwestiynau mwyaf dwys a diddorol am fywyd, bodolaeth a’r byd. Drwy astudio’r cwrs hwn, byddwch yn ymgysylltu â hanes athroniaeth wrth fynd i’r afael â materion cyfoes, gan ddatblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol a chyfathrebu’n effeithiol.
Wrth wraidd y rhaglen hon mae ymrwymiad i resymu athronyddol. Byddwch yn ymchwilio i feysydd allweddol megis moeseg, metaffiseg, a dirfodaeth, gan archwilio cysyniadau fel natur realiti a rhyddid dynol. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys astudio athroniaeth wleidyddol ac athroniaeth gymhwysol, gan sicrhau eich bod yn deall syniadau damcaniaethol a’u perthnasedd i faterion yn y byd go iawn.
Mae’r rhaglen yn cyfuno safbwyntiau traddodiadol a modern, gan eich cyflwyno i destunau athronyddol sy’n rhychwantu gweithiau hanesyddol i syniadau blaengar mewn athroniaeth hanesyddol a chyfoes. Mae’r sylfaen hon yn helpu i feithrin chwilfrydedd deallusol am y byd tra’n eich arfogi â sgiliau ymarferol.
Mae dysgu mewn grwpiau bach yn nodwedd ddiffiniol o’r cwrs. Mae hyn yn caniatáu trafodaethau manwl, cefnogaeth agos gan staff academaidd, a’r cyfle i fireinio’ch syniadau mewn amgylchedd cydweithredol. Byddwch hefyd yn elwa ar gyfleoedd i ehangu eich gorwelion, gydag opsiynau i astudio dramor ac archwilio safbwyntiau newydd. Gall y cyfleoedd astudio dramor hyn gyfoethogi eich dysgu trwy ddarparu cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gwahanol ddiwylliannau a ffyrdd o feddwl.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn gwahanol yrfaoedd. Mae’r sgiliau gyrfa hyn yn cynnwys meddwl a dadansoddi beirniadol, datrys problemau, a chyfathrebu effeithiol. P’un a ydych yn dymuno gweithio ym maes addysg, y gyfraith, polisi cyhoeddus, neu faes arall, mae’r BA Athroniaeth yn darparu sylfaen gref ar gyfer eich dyfodol.
Erbyn diwedd eich gradd, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn o syniadau athronyddol, yr offer i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth, a’r gallu i fynegi eich mewnwelediadau’n glir. Mae’r BA Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gyfle nid yn unig i astudio athroniaeth ond yn gyfle i dyfu’n ddeallusol a pharatoi ar gyfer gyrfa ystyrlon. I’r rhai sy’n barod i ofyn y cwestiynau mawr, mae’r cwrs hwn yn cynnig y man cychwyn perffaith.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r BA Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i wreiddio mewn dull sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac sy’n gwerthfawrogi dysgu mewn grwpiau bach a chymorth personol. Mae ein haddysgu yn annog chwilfrydedd deallusol, meddwl yn feirniadol, a rhesymu annibynnol. Trwy ymgysylltu ag athroniaeth hanesyddol a chyfoes, mae gan fyfyrwyr yr offer i archwilio syniadau cymhleth a datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae’r flwyddyn gyntaf yn eich cyflwyno i feysydd allweddol athroniaeth, gan gynnwys moeseg, Athroniaeth Hynafol a Gwleidyddol. Byddwch yn ymgysylltu â thestunau athronyddol, gan ddysgu sut i ddadansoddi dadleuon a mynegi syniadau.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd )
Gan adeiladu ar eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ymchwilio’n ddyfnach i resymu athronyddol ac yn archwilio meysydd arbenigol fel dirfodaeth, metaffiseg ac Epistemoleg. Trwy feddwl a dadansoddi’n feirniadol, byddwch yn mireinio’ch gallu i werthuso syniadau cymhleth a chymhwyso egwyddorion athronyddol i ddadleuon cyfoes. Mae cyfleoedd i astudio dramor yn cyfoethogi eich dealltwriaeth o safbwyntiau amrywiol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 Credyd)
(20 credyd)
(20 credyd)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch a dulliau rhyngddisgyblaethol. Nodwedd allweddol yw’r Prosiect Annibynnol, lle byddwch yn ymchwilio i bwnc athronyddol o’ch dewis, wedi’i dywys gan gefnogaeth academaidd arbenigol. Mae’r prosiect hwn yn atgyfnerthu’r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygwyd drwy gydol y cwrs.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb

Mae Clirio ar Agor
Sicrwydd o Lety yng Nghaerfyrddin
Sicrwydd o lety myfyrwyr yng Nghaerfyrddin i fyfyrwyr sy’n gwneud cais drwy glirio.
Cyrsiau yng Nghaerfyrddin sydd ar gael drwy Glirio.
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS - e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith SaesnegOs nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau asesu canlynol: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau y mae’r cwestiynau’n hysbys neu’n anhysbys ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir o 10,000 o eiriau, wicis, esboniadau a gwerthusiadau ffilm.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir mai £20 fydd cost rhwymo’r rhain.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): c. £500 – £1,500
Gwibdeithiau unigol: c. £5 – £50
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
A defnyddio iaith fasnachol, athroniaeth yw’r sgil gwaith drosglwyddadwy berffaith
- Gwaith gweinyddol
- Swyddi eiriolaeth a chysylltiadau llywodraeth
- Swyddi dadansoddwyr
- Gwaith pwyllgor
- Addysg
- Gwaith amgylcheddol
- Ymgynghorwyr moeseg a gwaith ymgynghorol arall
- Codi arian
- Y Gyfraith
- Y cyfryngau a newyddiaduraeth
- Cyrff anllywodraethol ac elusennol
- Gwleidyddiaeth a’r Gwasanaeth Sifil