Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) gyda Blwyddyn Sylfaen (Rhan amser) (BSc Anrh, Sylfaen)
Mae’r BSC (Anh) Cyfrifiadura (Peirianneg Meddalwedd) rhan amser gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Cymry Y Drindod Dewi Sant wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa mewn datblygu meddalwedd, ond a allai fod angen paratoi’n ychwanegol cyn dechrau gradd lawn.
Byddwch yn dechrau gyda Blwyddyn Sylfaen, lle byddwch yn datblygu sgiliau academaidd a thechnegol allweddol. Mae hyn yn cynnwys dysgu sut mae cyfrifiaduron yn gweithio, datrys problemau a defnyddio offer meddalwedd sylfaenol. Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, byddwch yn symud i astudio meddalwedd craidd.
Byddwch yn cael profiad ymarferol gyda phrosiectau byd go-iawn, yn defnyddio offer safon y diwydiant ac arferion gweithio megis datblygiad hyblyg a DevOps. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol a chyflogadwyedd, gan eich helpu i adeiladu sgiliau y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr.
Yn ogystal, byddwch yn datblygu gwaith tîm, rheoli prosiectau, a sgiliau cyfathrebu – pob un sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant technoleg heddiw. Mae’r fformat rhan amser hwn yn golygu y gallwch astudio ochr yn ochr â gwaith neu gyfrifoldebau eraill.
Erbyn i chi raddio, byddwch yn barod i ddechrau gyrfa mewn datblygu meddalwedd neu barhau ag astudiaethau pellach mewn meysydd arbenigol o gyfrifiadura.
Manylion y cwrs
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Byddwch yn cael gwybodaeth am ddatblygu meddalwedd, datrys problemau, trin data, seiberddiogelwch, a mwy. Byddwch yn cymhwyso eich dysgu i dasgau ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer rolau byd go iawn mewn peirianneg meddalwedd.
Course Disclaimer
tysteb
Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o fod yn Bartner Cisco Premier, gan gydnabod ein harbenigedd mewn rhwydweithio a seiberddiogelwch. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi mynediad i’n myfyrwyr at dechnoleg sy’n arwain y diwydiant, hyfforddiant ymarferol, ac ardystiadau a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu rhagolygon gyrfa yn y sector TG. Fel Partner Premier, mae’r Drindod Dewi Sant yn elwa o adnoddau unigryw, cymorth arbenigol a chydweithrediadau ymchwil, gan sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi digidol.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.