Skip page header and navigation

STEM (Electroneg) (CertHE)

Abertawe
2 Flynedd Ran-Amser
0 - 32 Pwyntiau UCAS

Mae’r CertHE STEM (Electroneg) yn gwrs dwy flynedd, rhan-amser. Mae’n rhoi’r sgiliau craidd sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym myd electroneg a thechnoleg sy’n newid yn gyflym. Mae’r cymhwyster Lefel 4 hwn yn gam cyntaf gwych os ydych chi eisiau gweithio gyda systemau electronig, neu os ydych am fynd ymlaen i radd electroneg neu beirianneg lawn. 

Byddwch yn astudio hanfodion mathemateg, gwyddoniaeth ac electroneg, tra’n cael ymarfer ymarferol gydag offer a systemau go iawn. Byddwch yn dysgu sut mae cylchedau a systemau electronig yn gweithio, a sut i ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddatrys problemau go iawn. Mae prosiect grŵp yn caniatáu ichi gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu i her yn y byd go iawn, gan eich helpu i adeiladu sgiliau gwaith tîm, datrys problemau a chyfathrebu. 

Mae’r cwrs hefyd yn edrych ar faterion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol, gan gynnwys cynaliadwyedd. Byddwch yn meddwl am sut mae eich gwaith fel peiriannydd yn effeithio ar bobl eraill a’r byd o’ch cwmpas. 

Mae astudio’n rhan-amser yn golygu y gallwch adeiladu eich sgiliau ar gyflymder cyson, tra’n addasu eich astudiaethau o amgylch gwaith neu ymrwymiadau eraill. Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysgol a’r coleg, dysgwyr aeddfed, neu unrhyw un sy’n edrych i ailsgilio neu newid gyrfa. 

Mae graddedigion yn gadael yn barod ar gyfer rolau lefel mynediad mewn electroneg a thechnoleg, neu i symud ymlaen yn uniongyrchol i radd lawn. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Ran-Amser
Gofynion Mynediad:
0 - 32 Pwyntiau UCAS

Pam dewis y cwrs hon?

01
Astudiwch ar eich cyflymder eich hun. Wedi'i ledaenu dros ddwy flynedd rhan-amser, mae'r cwrs hwn yn caniatáu ichi adeiladu sgiliau electroneg cryf wrth weithio neu reoli ymrwymiadau eraill.
02
Dysgu trwy wneud, nid yn unig drwy wrando. Rydych chi'n cael ymarfer ymarferol gyda systemau electronig go iawn, ynghyd â phrosiect grŵp lle rydych chi'n datrys problemau go iawn, felly rydych chi'n adeiladu hyder yn ogystal â gwybodaeth.
03
Does dim angen unrhyw brofiad i ddechrau. Mae'r cwrs wedi'i adeiladu ar gyfer ystod eang o ddysgwyr, o bobl sy'n gadael yr ysgol i bobl sy'n newid gyrfa, felly nid oes angen gwybodaeth flaenorol am electroneg arnoch i lwyddo.

Beth fyddwch yn dysgu?

Byddwch yn dysgu hanfodion mathemateg a gwyddoniaeth y mae electroneg wedi’i adeiladu arnynt. Byddwch yn darganfod sut mae cylchedau a systemau electronig yn gweithio, a sut i’w hadeiladu a’u profi eich hun. Byddwch hefyd yn dysgu sut i adnabod problemau, eu torri i lawr, a dylunio atebion da. Ar hyd y ffordd, byddwch chi’n adeiladu eich sgiliau astudio, felly rydych chi’n teimlo’n hyderus wrth ddysgu ar y lefel hon. Mae prosiect terfynol yn dod â’ch holl sgiliau at ei gilydd, gan adael i chi weithio ar dasg go iawn o’r dechrau i’r diwedd, ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm. Mae astudio rhan-amser yn gadael i chi gymryd hyn i gyd ar gyflymder sy’n ffitio o gwmpas eich bywyd. 

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Electroneg

(20 credydau)

Dadansoddi a Datrys Problemau

(20 credydau)

Introduction to Computer Systems

(20 credits)

Integrating Project

(20 credits)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

testimonial

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  

    TGAU  

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa Myfyriwr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Cymysgedd o waith cwrs, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau ac arholiadau.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.   

  • Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol.

    Costau Angenrheidiol:

    Bydd angen i ddysgwyr gael mynediad at galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas; tua £500. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn yn agor y drws i swyddi lefel mynediad mewn electroneg a thechnoleg. Gallech weithio fel technegydd electroneg iau, peiriannydd prawf, neu gynorthwyydd systemau. Mae llawer o ddiwydiannau angen pobl â sgiliau electroneg, gan gynnwys gweithgynhyrchu, telathrebu, ac ynni. Mae’r cwrs hefyd yn eich paratoi’n dda os ydych chi am barhau i astudio, gan symud yn syth i radd electroneg neu beirianneg lawn. Pa bynnag lwybr rydych chi’n ei ddewis, byddwch chi’n gadael gyda’r sgiliau ymarferol a’r hyder i gymryd eich cam nesaf, boed hynny’n dechrau gwaith neu barhau â’ch astudiaethau ymhellach.