Skip page header and navigation

Peirianneg Beiciau Modur gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
4 Blynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n gyffro i gyd am feiciau modur cyflym ac â diddordeb yn y diwydiant peirianneg beiciau modur? Gall ein BEng Peirianneg Beiciau Modur gyda blwyddyn sylfaen fod yn gwrs perffaith i chi. Mae’r radd hon yn darparu sylfaen gref yn agweddau peirianneg fecanyddol beiciau modur, gan eich helpu i ddeall y sylfeini a’r dechnoleg uwch a ddefnyddir yn y maes hwn.

Gan ddechrau gyda’r flwyddyn sylfaen, fe gewch gyflwyniad eang i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol. Mae’r flwyddyn hon wedi ei chynllunio i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth fwy arbenigol, gan sicrhau bod gennych y wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y brif raglen radd.

Mae prif ran y cwrs yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel, gyda sylw arbennig i’w gofynion reidio a thrin. Byddwch yn dysgu am berfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, sy’n hanfodol ar gyfer dylunio beiciau modur. Byddwch yn defnyddio offer o safon diwydiant fel Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur, Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD), a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA). Bydd yr offer hyn yn eich helpu i ddeall a gwella dyluniad beiciau modur. Rydym hefyd yn defnyddio meddalwedd efelychu injan Ricardo WAVE i astudio perfformiad injan, gan roi profiad ymarferol i chi wrth ochr y dechnoleg ddiweddaraf.

Mae’r cwrs yn ymdrin â phynciau pwysig fel dylunio injan uwch, dylunio trên pŵer, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp sy’n eich galluogi i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu i heriau’r byd go iawn. Mae’r profiad ymarferol hwn yn werthfawr i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y sectorau modurol a beiciau modur.

Agwedd unigryw ar ein cwrs yw’r pwyslais ar ystyriaethau amgylcheddol. Rydym yn addysgu dylunio a thechnoleg gynaliadwy, sy’n gynyddol bwysig yn y byd heddiw. Mae hyn yn cynnwys archwilio cerbydau trydan a’u rôl yn nyfodol cludiant.

Gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf ac arweiniad arbenigol, mae ein cwrs yn eich helpu i ddod yn beiriannydd dylunio medrus. Os oes gennych ddiddordeb yn y dechnoleg cerbydau trydan diweddaraf  a dynameg cerbydau, bydd y radd hon yn eich arfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau i ffynnu yn y maes cyffrous hwn.

Bydd y BEng (Anrh) yn cwrdd, yn rhannol, â’r gofynion meincnodi academaidd enghreifftiol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig a bydd angen i fyfyrwyr gwblhau fformat cymeradwy o ddysgu pellach yn unol â gofynion UK-SPEC.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
H390
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Yr unig raglen benodedig BEng Peirianneg Beiciau Modur yn y byd.
02
Yr unig dîm rasio beiciau modur dan arweiniad myfyrwyr.
03
Cysylltiadau unigryw, arbenigol â’r diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn dulliau dysgu ymarferol. Mae ein gradd peirianneg beiciau modur yn cyfuno theori â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i ragori yn y diwydiant peirianneg beiciau modur. Byddwch yn gweithio ar brosiectau yn y byd go iawn, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a Chaffael Data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.

Gorfodol 

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Mathemateg Bellach

(20 credydau)

Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Integreiddio

(20 credydau)

Cyflwyniad i Beirianneg Modurol

(20 credydau)

Yn yr ail flwyddyn, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a Chaffael Data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.

Gorfodol 

Dulliau Dadansoddol

(20 credydau)

Dylunio a Deunyddiau Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Technoleg Beiciau Modur

(20 credydau)

Systemau Rheoli Trydanol

(20 credydau)

Gweithdy ac Arfer

(20 credydau)

Mae’r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar feiciau modur perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dyluniadau beiciau modur.

Gorfodol 

Dynameg Beiciau Modur

(20 credydau)

Systemau Gyriant Amgen

(20 credydau)

Thermodynameg a Hylosgi

(20 credydau)

Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Dylunio Grŵp

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i feysydd arbenigol fel dylunio injan uwch, dylunio trenau pŵer, a rheolaeth drydanol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp, gan gymhwyso’ch gwybodaeth i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn ym myd Beiciau Modur. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Dylunio Pwerwaith Cyfoes

(20 credydau)

Dylunio ac Arloesedd Beiciau Modur

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Students in Dynevor Cafe.

Mae Clirio ar Agor

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  

    TGAU  

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  

    Llwybrau mynediad amgen  

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau HNC neu flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am weddill y blynyddoedd o’r radd baglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Caiff y modylau eu hasesu mewn amryw ffyrdd yn cynnwys arholiadau traddodiadol, gwaith cwrs, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau grŵp ac unigol, y mae pob un o’r rhain wedi’u llunio i roi’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i’r myfyrwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen yn eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.  

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae graddedigion y cwrs hwn wedi dod o hyd i swyddi ar draws y diwydiant beiciau modur, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i weithgynhyrchwyr beiciau modur prif ffrwd.

    Mae graddedigion nawr yn gweithio mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau, cymorth peirianneg rasys a dadansoddi perfformiad.

    Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach hefyd.

    Mae ein graddedigion beiciau modur wedi’u cyflogi gan:

    • ECStar Suzuki
    • MarcVDS Honda
    • Tech3 Yamaha
    • Honda World Endurance
    • FTR
    • Kalex
    • Suter
    • Buell
    • Triumph
    • Norton
    • Royal Enfield

    ac maent wedi gweithio i dimoedd rasys ym mhencampwriaethau MotoGP, Moto2, SuperSport y Byd, Uwch-feic Prydain ac Uwch-feic yr Eidal i enwi ond ychydig.

    Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion hefyd wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau