Skip page header and navigation

Stuart Davies-Jaynes - Rheoli Pobl yn Strategol

Profiad PCYDDS Stuart Davies-Jaynes

Students chat outside the entrance to a modern brick building on which the silver letters IQ stand out from black panels above the sliding glass doors.

Gwybodaeth Allweddol

Enw: Stuart Davies-Jaynes

Rhaglen: Rheoli Pobl yn Strategol, MA

Astudiaethau Blaenorol: Myfyriwr Aeddfed

Tref eich Cartref: Sir Gâr

Profiad Stuart

Profiad Stuart

Image of Innovation Matrix building

Crynodeb

Roeddwn i eisiau rhaglen a fyddai’n herio fy mhersbectif, gwella fy ngallu i yrru newid sefydliadol a rhoi’r mewnwelediadau diweddariadau i arweinyddiaeth AD strategol i mi.

Pam wnaethoch chi ddewis PCYDDS? 

Fel uwch weithiwr proffesiynol AD, dewisais astudio’r CIPD mewn Rheoli Pobl Strategol yn PCYDDS i ehangu fy meddwl strategol ac ategu fy ngwybodaeth bresennol gyda damcaniaethau cyfredol. Mae enw da’r brifysgol am ragoriaeth mewn addysg AD ac arweinyddiaeth, ynghyd â’i chysylltiadau cryf â’r diwydiant, yn ei gwneud yn ddewis delfrydol i weithwyr proffesiynol ar bob lefel sy’n awyddus i fuddsoddi yn ei datblygiad gyrfa.

Beth oedd y pethau gorau am eich cwrs?  

Mae’r tîm darlithio yn PCYDDS yn rhagorol, gan ddod â phrofiad diwydiant helaeth, gwybodaeth gyfredol ac ymagwedd flaengar i bob sesiwn.  Mae eu gallu i drosi cysyniadau cymhleth i strategaethau ymarferol yn barod i’r gweithle wedi bod yn amhrisiadwy.  Yn ogystal, mae’r amgylchedd dysgu cyfoedion i gyfoedion wedi bod yn un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil o’r rhaglen, gan feithrin trafodaeth werthfawr, rhannu gwybodaeth a ffurfio perthnasoedd proffesiynol gydol oes.  Mae PCYDDS wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, gan gynnig profiad deinameg a diddorol sy’n cysylltu damcaniaeth â chymhwysiad yn y byd go iawn yn ddi-dor. 

Beth oedd rhai o’r pethau gorau am y campws a’r cyfleusterau? 

Un o’m hoff bethau am gampws PCYDDS oedd ei gyfleusterau modern a gefnogodd astudio ac ymlacio.  Roedd y llyfrgelloedd a’r gofodau astudio wedi’u cyfarparu’n dda ac roedd yr oriau agor cynhwysol yn berffaith ar gyfer rhywun a oedd yn gweithio’n llawn amser ac yn astudio, gan ei gwneud yn haws i reoli’r ddau ymrwymiad.   Mae’r cyfuniad o dechnoleg gyfoes, adnoddau cefnogol a mynediad hyblyg yn ei wneud yn amgylchedd gwych ar gyfer llwyddiant myfyrwyr.

Beth yw eich cynlluniau gyrfa yn y dyfodol?  

Roedd fy nghwrs wedi chwarae rôl hanfodol wrth fy mharatoi ar gyfer fy swydd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl yng Nghyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone.   Darparodd sylfaen ddamcaniaethol gryf mewn AD yr oeddwn yn gallu ei chymhwyso’n uniongyrchol i sefyllfaoedd go iawn yn y sefydliad. Roedd y cyfuniad o fewnwelediad academaidd a chymhwysiad ymarferol wedi fy helpu i ddatblygu strategaethau pobl seiliedig ar dystiolaeth effeithiol. 
Yn ogystal, roedd astudio wrth weithio wedi fy nghaniatáu i weithredu dysgu ar unwaith, gan wella fy hyder a’m gallu mewn arweinyddiaeth AD strategol.