Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Rheolaeth Busnes (BA, HND, HNC)

Rheolaeth Busnes (BA, HND, HNC)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Mae’r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Bydd astudio ein gradd Rheolaeth Busnes yn Abertawe yn rhoi i chi’r cyfle i ennill dealltwriaeth ymarferol a dadansoddol o fusnes a rheolaeth gan ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r radd hon wedi’i llunio i ddarparu gwybodaeth eang am sefydliadau busnes, eu rheolaeth a’r amgylcheddau y maent yn gweithredu ynddynt.

Bydd modylau rhaglenni yn eich cyflwyno i ddisgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a datblygiad proffesiynol.

Mae sgiliau fel rheoli prosiectau, entrepreneuriaeth, creadigrwydd, hyfforddi, mentora, meddwl beirniadol a chyfathrebu yn rhan annatod o’r modylau.

Mae gan y rhaglen thema gyflogadwyedd gref a welir yn y ffordd y caiff ei chyflwyno drwy’r defnydd o brosiectau byw ac ymgynghoriaeth.

Er nad yw’n arbenigo mewn un ddisgyblaeth benodol, bydd y rhaglen hon yn rhoi i chi wybodaeth eang am y meysydd pwnc mwyaf cyffredin o fewn maes busnes a rheoli.

Byddwch yn ennill mewnwelediad helaeth i gymhwysiad damcaniaethol ac ymarferol theorïau a fframweithiau rheoli. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr o ystod o sectorau a diwydiannau, fydd yn eich caniatáu i ddatblygu eich profiad gwaith ymarferol.

Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr ag Ansawdd yr Addysgu mewn Astudiaethau Busnes.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am ein sgoriau a’n safleoedd.

40 Credyd icon

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

*Dysgu ar-lein yn amodol i ail-ddilysu

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Rheolaeth Busnes (BA)
Cod UCAS: N200
Gwnewch Gais drwy UCAS

Rheolaeth Busnes (HND)
Cod UCAS: 022N
Gwnewch Gais drwy UCAS

Rheolaeth Busnes (HNC)
Cod UCAS: NN13
Gwnewch Gais drwy UCAS

  • Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS.
  • Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Davina Wyn Evans


£9000
£13,500.
D.S. Mae’r ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol a nodir yma ar gyfer y BA Rheolaeth Busnes yn unig; ni allwn dderbyn ceisiadau rhyngwladol am HND neu HNC mewn Rheolaeth Busnes

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
  2. Y cyfle i astudio dramor. 
  3. Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
  4. Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
  5. Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.
  6. Cyfle i astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno rhagori mewn gyrfa ym maes Busnes a Rheolaeth. Mae’r rhaglen yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin, ac yn ystod hon, byddwch yn ymgymryd ag ystod o fodylau gorfodol sy’n cwmpasu nifer o ddisgyblaethau busnes, gan ddarparu dealltwriaeth eang o fusnes a rheolaeth. Mae hyn yn caniatáu i chi, fel myfyriwr, gael dealltwriaeth dda o egwyddorion ystod eang o feysydd pwnc, gan hefyd roi’r cyfle i arbenigo mewn disgyblaeth arbennig (fel marchnata, adnoddau dynol, cyllid a chyfrifeg) os dymunir.

Mae’r rhaglen wedi’i datblygu ar y cyd â chyflogwyr i sicrhau bod y sgiliau cyflogadwyedd perthnasol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â thrylwyredd academaidd rhaglen radd.

Mae’r Ysgol Fusnes wedi hen sefydlu perthnasoedd gyda busnesau lleol a rhanbarthol i ddarparu rhaglen o weithgareddau allgyrsiol integredig. Mae hyn yn rhoi i’n myfyrwyr ystod o gysylltiadau, cyfleoedd a phrofiadau sy’n rhan o’r profiad dysgu, ond sydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u medrusrwydd ymarferol eu hunain er mwyn gallu trosglwyddo i fyd gwaith. 

Pynciau Modylau

Modylau BA

  • Rheoli Prosiectau a Datblygiad Proffesiynol
  • Cyflwyniad i’r Gweithle Digidol
  • Marchnata ar Waith
  • Deallusrwydd Digidol a Dadansoddeg
  • Interniaeth Gymhwysol
  • Datblygu Arfer Proffesiynol
  • Prosiect Ymgynghoriaeth
  • Cyllid ar gyfer Busnes
  • Cyfraith Contract

Modylau HND

Mae blwyddyn 1 yn gyflwyniad i’r disgyblaethau busnes allweddol a datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld damcaniaeth ar waith a chaffael sgiliau gwerthfawr.

Mae Blwyddyn 2 yn cwmpasu cyllid, adnoddau dynol a marchnata.  Mae’n caniatáu detholiad o opsiynau mewn meysydd sy’n datblygu o fewn rheolaeth busnes ar hyn o bryd.  Mae’n cynnwys ymarfer entrepreneuriaeth a rheoli data astudiaethau a gwybodaeth busnes.  Mae cyfle i fynd ar interniaeth a fydd yn cael ei hasesu ar gyfer credydau.

Modylau HNC

Mae blwyddyn 1 yn gyflwyniad i’r disgyblaethau busnes allweddol a datblygu sgiliau hanfodol. Bydd myfyrwyr yn gweithio gyda sefydliad allanol i weld damcaniaeth ar waith a chaffael sgiliau gwerthfawr.

Asesiad

Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau dilys o’r“byd go iawn”sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Cysylltiedig

Campws Busnes Abertawe


Pam dewis i astudio drwy Gyfrwng y Gymraeg?

Gwybodaeth allweddol

Staff
Meini Prawf Mynediad

Meini Prawf Mynediad

  • BA - 88 o Bwyntiau UCAS
  • HND - 48 o Bwyntiau UCAS
  • HNC - 48 o Bwyntiau UCAS

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer y rheini sydd wedi astudio meysydd pwnc eraill cyn cael mynediad i’r cwrs yn ogystal ag ymgeiswyr sydd wedi astudio’r pwnc hwn yn y gorffennol.   Yn benodol, gall ymgeiswyr â phrofiad gwaith, ond fawr ddim cymwysterau ffurfiol, hefyd ymuno â’r rhaglen yn dilyn asesiad o’u tueddfryd.  Mae’r rhaglen yn croesawu ymgeiswyr sydd â dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, UE a chyrff rhyngwladol.

Derbynnir cymwysterau cyfwerth eraill a bydd y panel derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae ein graddau busnes yn rhoi i fyfyrwyr ystod eang o sgiliau y mae amrywiaeth o gyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat. Yn 2015/16 roedd 98% o raddedigion yr Ysgol Fusnes mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach ar ôl chwe mis.

Mae’r Ysgol Fusnes yn cynnig cymorth pwrpasol i fyfyrwyr ynghylch lleoliadau, a chynigir cyngor sy’n benodol i’r diwydiant gan arbenigwyr yn y ddisgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau/interniaethau fel rhan o’u rhaglen radd a/neu yn ychwanegol i’r modylau a addysgir. Hefyd, fe fydd yna gyfleoedd i ymuno â rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y cyrff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.

Costau Ychwanegol

Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

Lleoliad

Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol. Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

Costau teithiau maes a lleoliadau

Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

Llety

Ewch i'n hadran Llety Abertawe i ddarganfod mwy.