Skip page header and navigation

Croesawodd  Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ddisgyblion chweched dosbarth o Ysgol Bro Dinefwr ar gyfer diwrnod blasu arbennig ym maes Addysg Antur Awyr Agored, gan roi cyfle i’r dysgwyr ddatblygu sgiliau ymarferol, magu hyder ac archwilio cyfleoedd cynnydd mewn addysg awyr agored.

Bro Dinefwr pupils ready to coasteer by the sea

Fel y garfan gyntaf yn Ysgol Bro Dinefwr i astudio Addysg Awyr Agored, mae’r disgyblion yn helpu i sefydlu llwybr tuag at astudiaethau pellach yn  PCYDDS, gyda chyfleoedd cynnydd posibl o Lefelau 4 i 7. Tynnodd y diwrnod sylw hefyd at y cysylltiad presennol rhwng y ddau sefydliad, gyda myfyriwr Lefel 6 cyfredol yn PCYDDS, a fu’n ddisgybl yn Ysgol Bro Dinefwr, yn ymuno â’r ymweliad i gefnogi’r dysgwyr.

Dechreuodd y rhaglen gydag ymweliad â chanolfan Cynefin, Canolfan Addysg Awyr Agored PCYDDS, cyn i’r disgyblion gymryd rhan mewn sesiwn arforgampau yn Lydstep. Roedd y gweithgaredd yn rhan o’r  modwl i ddysgwyr, Dysgu yn yr Awyr Agored, ac roedd yn  gyfle i gasglu tystiolaeth ymarferol tuag at ddwy o unedau Agored Cymru: Cynaliadwyedd a Rheoli Risg. 

Yn ystod y profiad, bu’r disgyblion yn archwilio’r risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau awyr agored, pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau diogelwch a’r angen i ddiogelu’r amgylchedd naturiol. Fe wnaethant hefyd ddatblygu eu hyder, eu sgiliau cyfathrebu a’u gallu i weithio ar y cyd a chefnogi ei gilydd mewn lleoliad newydd a heriol.

Meddai Carwyn Evans, athro yn Ysgol Bro Dinefwr: 

“Roedd y sesiwn arforgampau yn gyfle gwych i’r dysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth mewn lleoliad ymarferol, y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Llwyddon nhw i ddatblygu eu dealltwriaeth o reoli risg a chynaliadwyedd, wrth gasglu tystiolaeth werthfawr ar gyfer eu cwrs LITO Lefel 3. Roedd hefyd yn wych gweld eu hyder yn tyfu ac i weld sut y gwnaethon nhw gefnogi ei gilydd trwy gydol y profiad. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Drindod Dewi Sant, yn enwedig Denise a Tomo am drefnu’r diwrnod a rhoi cyfle i’n dysgwyr gymryd rhan mewn profiad mor werthfawr. Roedd yn ffordd wych o gysylltu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ar y cwrs â phrofiad ymarferol go iawn.”

Meddai Denise Leonard, Rheolwr Rhaglen Dros Dro y cwrs Addysg Antur Awyr Agored yn PCYDDS: 

“Roedd yn bleser gwirioneddol cynnig cyfle i’r myfyrwyr hyn ddysgu drwy brofiad ym maes antur, cyfle na fyddent, efallai, fel arall wedi gallu ei fwynhau. Aeth ein staff profiadol, cymwysedig â’r grŵp i leoliad ysblennydd ar gyfer sesiwn arforgampau, lle dysgon nhw sut i adnabod peryglon ac asesu risgiau, ynghyd â sut i’w rheoli mewn amgylchedd mor ddeinamig. Fe wnaeth y myfyrwyr ymwneud â’i gilydd yn wych, ac rydym yn gobeithio y bydd y profiad yn cyfoethogi eu haddysg ac yn meithrin angerdd parhaol am antur a’r awyr agored.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS, ewch i’r wefan, neu ebostiwch Denise Leonard: denise.leonard@uwtsd.ac.uk 

Pupils on beach ready to take part in coasteering

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon