PCYDDS yn lansio graddau Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cyflwyno dwy radd Seicoleg newydd gyda Blwyddyn Sylfaen ar ei champws yn Abertawe i ddarparu llwybr i raglen radd i’r rhai nad ydynt efallai wedi cael y cyfle i astudio cymhwyster prifysgol. Mae’r Flwyddyn Sylfaen wedi’i chynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer dysgu lefel gradd, heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol mewn seicoleg.
Mae’r rhaglenni newydd, Seicoleg yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen (BSc Anrh) a Seicoleg gyda Chwnsela yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen (BSc Anrh) wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac maent yn darparu llwybr cefnogol i addysg uwch wrth helpu myfyrwyr i feithrin hyder, gwybodaeth a sgiliau ymarferol ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol neu astudiaethau pellach.
Bydd myfyrwyr yn archwilio sut mae seicoleg yn ein helpu i ddeall rhai o’r heriau pwysicaf heddiw, ochr yn ochr ag ennill hyfforddiant cwrs-benodol a sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, gan gynnwys cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, ymchwil a dadansoddi data.
Bydd y flwyddyn Sylfaen yn cyflwyno myfyrwyr i feysydd craidd fel seicoleg gymdeithasol, ddatblygiadol, fiolegol a gwybyddol, ynghyd â gwahaniaethau unigol. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio gwahanol ffyrdd o ymchwilio i ymddygiad dynol.
Bydd myfyrwyr sy’n parhau â’r cyrsiau gradd yn datblygu dealltwriaeth gadarn o brosesau seicolegol allweddol, gan gynnwys rhesymu, cof ac iaith, ochr yn ochr â mewnwelediadau i brosesau niwrowyddonol a’u heffaith ar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Dywedodd Karen Eaton-Thomas, Rheolwr Rhaglen y Flwyddyn Sylfaen:
“Nid yw astudio seicoleg gyda ni yn y Drindod Dewi Sant yn ymwneud â dysgu’r damcaniaethau yn unig, mae’n ymwneud ag astudio mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol lle byddwch chi’n teimlo’n ddiogel i ofyn cwestiynau a magu hyder yn eich sgiliau a’ch galluoedd cynyddol”.
Mae’r dull addysgu ar draws y ddwy raglen yn canolbwyntio ar ddatblygu graddedigion sy’n gallu gwerthuso tystiolaeth, deall ymddygiad, a chymhwyso gwybodaeth mewn cyd-destunau byd go iawn. Mae myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau Seicoleg a Chwnsela pwrpasol, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r gweithle, ac addysg gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym maes ymchwil ac o fewn y diwydiant gan weithio’n agos gyda myfyrwyr. Erbyn diwedd eu hastudiaethau, bydd graddedigion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer ystod eang o yrfaoedd neu astudiaethau academaidd pellach.
Mae dull addysgu’r Brifysgol yn cynnwys cymorth personol a dosbarthiadau llai, sy’n gallu bod yn arbennig o werthfawr i fyfyrwyr a allai deimlo’n ansicr ynghylch dychwelyd i addysg.
Ychwanegodd Dr Judith Marshall, Tiwtor Derbyniadau, Seicoleg a Chwnsela PCYDDS:
“Rydym yn annog y rhai sydd â diddordeb yn y cwrs i ymweld â’n Diwrnodau Agored lle byddant yn cael cyfle i siarad â staff academaidd, gwasanaethau cymorth a gweld y cyfleusterau.”
Mae gwybodaeth am y cwrs hefyd ar gael ar wefan y Brifysgol, neu drwy gysylltu â Judith Marshall: judith.marshall@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476