Ymchwilydd PCYDDS yn archwilio sut mae technoleg a chynaliadwyedd yn ail-lunio gwaith addasu ceir ledled y byd
Mae Vibhor Sharma, Uwch ddarlithydd mewn Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cyd-awduro papur newydd yn dadansoddi tueddiadau esblygol mewn addasu ceir ôl-farchnad, diwydiant lle mae gyrwyr yn addasu ac yn personol cerbydau ar ôl eu prynu.

Mae’r papur Aftermarket trends in car customization: A review of market dynamics and industry innovations yn archwilio sut mae addasu ceir yn newid o fod yn ddiddordeb arbenigol i weithgaredd diwylliannol ac economaidd prif ffrwd. Mae’n nodi tuedd byd-eang tuag at addasiadau gweledol ac addasiadau seiliedig ar gysur, megis y tu mewn, y goleuadau ac uwchraddio digidol, dros welliannau perfformiad traddodiadol.
Yn ogystal, mae’r astudiaeth yn amlygu sut mae cerbydau trydanol (EV), cynaliadwyedd, a thechnoleg ddigidol yn trawsnewid y diwydiant ôl-farchnad. Tra bod marchnadoedd byd-eang yn cofleidio uwchraddiadau perfformiad ac esthetig, mae arferion Indiaid yn parhau i fod yn weledol o ganlyniad i gyfyngiadau rheoleiddio. Wrth edrych ymlaen, mae’r ymchwil yn tynnu sylw at addasu wedi’i yrru gan AI, eco-gyfeillgar a meddalwedd fel prif feysydd twf.
Mae Vibhor, sy’n dod â 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiant a’r byd academaidd, wedi gweithio gyda sefydliadau blaengar megis Mahindra & Mahindra, Hyundai Motors, Volvo-Eicher, a Mahindra Odyssea. Mae ei yrfa yn cynnwys prosiectau’n amrywio o ddylunio’r tu mewn i fysys a thryciau i ddyluniad cychod hwylio penodol i gwsmeriaid, yn ogystal â cherbyd campws trydan ymreolaethol. Cyn ymuno â PCYDDS, roedd yn Bennaeth yr Adran Dylunio Trafnidiaeth yn MIT Institute of Design, Pune, lle arweiniodd raglenni academaidd a mentora dylunwyr llawn dyhead.
Cyd-awdurwyd y papur gyda Dr Nachiket Thakur, Deon Sefydliad Dylunio ym Mhrifysgol Celf, Dylunio a Thechnoleg MIT, Pune, India, a Dr Anant Chakradeo, Prifathro Grŵp Sefydliadau MIT, Pune, India.
Meddai Vighor, wrth adfyfyrio ar y papur: “Nid yw addasu ceir bellach yn ymwneud â pherfformiad neu gyflymder yn unig, mae’n fwyfwy am hunaniaeth, cynaliadwyedd, a thechnoleg. Mae perchnogion heddiw eisiau ceir sy’n adlewyrchu eu personoliaeth, eu gwerthoedd, a’u ffordd o fyw. Mae ein hymchwil yn dangos sut mae’r newidiadau hyn yn ail-lunio’r sector ôl-farchnad yn fyd-eang, gan greu cyfleoedd cyffrous am ddylunwyr a’r diwydiant.”
Bellach, ar gampws Glannau Abertawe PCYDDS, mae Vibhor yn cyfuno ymchwil gydag addasu, gan helpu meithrin y genhedlaeth nesaf o ddylunwyr modurol a thrafnidiaeth i wynebu heriau’r diwydiant gyda chreadigrwydd a hyder.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071