Skip page header and navigation

Cefndir

Canolbwyntia ymchwil Rhys Kaminski-Jones ar gysylltiadau rhwng Celtigrwydd, Prydeindod, a’r Ymerodraeth Brydeinig yn ystod y ddeunawfed ganrif hir (c.1680–1830), ac ar adfywiaeth Geltaidd ehangach y cyfnod modern. Mae eu diddordebau eraill (hen a newydd) yn cynnwys Celtigrwydd cwiar, defnydd gwleidyddol o’r Celtiaid, a theithiau Henrietta Clive drwy India drefedigaethol.  

Dengys ei lyfr ‘Welsh Revivalism in Imperial Britain’ (Boydell, 2025) i ba raddau yr oedd adfywiaeth Geltaidd y ddeunawfed ganrif yn fodd i awduron o Gymru eu lleoli eu hunain ar lwyfan y genedl Brydeinig newydd, ac o fewn Ymerodraeth Brydeinig a oedd wrthi’n ehangu. Mae’r llyfr – sy’n seiliedig ar ymchwil archifol newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys testunau ar hil, gwyddoniaeth a’r ymoleuedigaeth, derwyddiaeth, caethwasiaeth, a chymdeithasu dinesig – yn amlygu pwysigrwydd neilltuol yr adfywiad Celtaidd yng Nghymru, yng nghyd-destun anhepgor ei gysylltiadau rhyngwladol, trefedigaethol, ac ymerodraethol. 

Pynciau Arbenigol

  • Hanes Diwylliannol Adfywiaeth Geltaidd
  • Astudiaethau'r Ddeunawfed Ganrif a'r Cyfnod Rhamantaidd
  • Treftadaeth Ymerodraethol yng Nghymru a Chyd-destunau "Celtaidd" Eraill

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Ers ymuno â’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 2018, i weithio ar Ramantiaeth Gymreig fel Cymrawd Ymchwil Ôl-raddedig yr Academi Brydeinig (2018–22), mae Rhys wedi gweithio ar nifer o brosiectau blaenllaw eraill, gan gynnwys Prosiect Amrywedd y Bywgraffiadur Cymreig (2022–4), a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a’r prosiect AHRC ‘Teithwyr Chwilfrydig 2’ (2022–5), yn paratoi argraffiadau agored ar lein newydd o deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban.

Mae Rhys wedi cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau academaidd a chyhoeddus, gan gynnwys Romanticism, The Review of English Studies, Studies in Romanticism, Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion, History Today, blog Verso Books, ac O’r Pedwar Gwynt. Siarada’n aml mewn cynadleddau academaidd, a chafodd ei gyfweld ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, a’r New Books Network. Croesawa unrhyw gwestiynau ynglŷn â'i waith, boed o’r byd academaidd neu y tu hwnt iddo.

Cymwysterau

  • BA Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth (Prifysgol Rhydychen)
  • MA Astudiaethau'r Ddeunawfed Ganrif (Prifysgol Efrog)
  • PhD Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (Prifysgol Cymru)

Ieithoedd a Siaradwyd

Welsh and English (both First-language).

Dolen i Broffil Orcid

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • gyda Brecht de Groote (goln), European Minor Literatures and Transnational Romanticism (i’w gyhoeddi gyda Gwasg Prifysgol Caeredin)
  • Welsh Revivalism in Imperial Britain, 1707–1819: True Britons & Celtic Empires (Woodbridge: Boydell & Brewer, 2025)
  • ‘Queering Thomas Gray’s Celticism’, yn Ruth Abbott ac Ephraim Levinson (goln), Thomas Gray Among the Disciplines (Abingdon: Routledge, 2025), 168–87
  • gyda Mary-Ann Constantine, ‘“Excuse the Spelling Which is Probably Wrong”: Wordsworth and Tourism’s Welsh Languages’, Studies in Romanticism, 63.2 (2024), 117–41: [https://doi.org/10.1353/srm.2024.a931778]
  • ‘Anti-Woke Druids and Radical Bards’, Verso Books (2024): [https://www.versobooks.com/en-gb/blogs/news/anti-woke-druids-and-radical-bards]
  • gydag Erin Lafford, ‘Change of air: introduction’, Romanticism, 27.2 (2021), 117–21: [https://doi.org/10.3366/rom.2021.05]
  • ‘‘‘Floating in the Breath of the People”: Ossianic Mist, Cultural health, and the Creation of Celtic Atmosphere, 1760–1815’, Romanticism, 27.2 (2021), 135–48: [https://doi.org/10.3366/rom.2021.05]
  • ‘William Owen Pughe and Romantic Rewritings of the Poetry of Llywarch Hen’, The Review of English Studies, 73.308 (2022), 100–20: [https://doi.org/10.1093/res/hgab039]
  • gyda Francesca Kaminski-Jones (goln), Celts, Romans, Britons: Classical and Celtic Influence in the Construction of British Identities (Rhydychen: Oxford University Press, 2020)
  • gyda Francesca Kaminski-Jones, ‘Introduction’, yn eidem, Celts, Romans, Britons, 1–19
  • ‘“Where Cymry United, Delighted Appear”: The Society of Ancient Britons and the Celebration of St David’s Day in London, 1715–1815’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 23 (2017), 56–68

Ar Gael i Oruchwylio Myfyrwyr Doethurol

Ydw