Prentisiaeth mewn Rheolaeth Adeiladu (HND)
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd-brentisiaeth â’r nod o ddarparu profiad galwedigaethol llawn a digonol ym meysydd adeiladu, gan gynnwys Arolygu Adeiladau, Rheolaeth Adeiladu, Peirianneg Sifil a Mesur Meintiau.
Mae’r Diwydiant Adeiladu yn parhau i gynnig gwaith gwerth chweil a sefydlog yn y DU a thramor, o adeiladu tai i brosiectau seilwaith a chyfalaf mawr, a’r cyfan yn cael ei wneud gyda chymorth dulliau cynaliadwy, ac ethos o ofal cymunedol ac amgylcheddol.
O’i ystyried yn ei gyfanrwydd, mae’n cyfrannu’n helaeth at gynnyrch domestig gros y DU (tua 9% yn uniongyrchol yn 2020, gan godi i tua 10% yn gyffredinol, pan ystyrir y gadwyn werth gyfan). Heb os, mae’n sbardun i dwf cynnyrch domestig gros hanesyddol yn y DU.
Mae cadwyn werth y diwydiant yn cynnwys tua 300,000 o gwmnïau, gan gynnwys llawer o fusnesau teuluol a lleol bach a chanolig eu maint. Mae’r rhain yn cyflogi dros 3 miliwn o bobl mewn llu o rolau sy’n cynrychioli 8% o holl weithwyr y DU. Mae’r cyfleoedd gwaith yn amrywiol eu natur, o reoli prosiectau, dylunio a chostio, i ymchwilio ar y safle mewn dichonoldeb, logisteg gweithrediadau, cynllunio a gosod offer a gwasanaethau adeiladu.
Mae’r cwrs Rheoli Adeiladu yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o dechnegau dylunio, methodoleg a gweithrediad prosiectau o’r cychwyn cyntaf i drosglwyddo cleientiaid, gan ddefnyddio astudiaethau achos ledled y DU a’r byd i feithrin gwybodaeth am ddefnydd ymarferol a sgiliau proffesiynol ar gyfer gwaith.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Datblygwyd y rhaglenni prentisiaeth hyn mewn cydweithrediad â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cyfredol o ran dilyniant gyrfa yn y diwydiant.
Mae’r rhaglen arloesol hon yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudiaeth brifysgol a dysgu seiliedig ar waith.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Fel arfer, mae’r asesiadau a ddefnyddir yn y Rhaglenni hyn yn ffurfiannol neu yn grynodol. Dylunnir yr asesiad blaenorol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o’u cryfderau a’u gwendidau.
Yn nodweddiadol, bydd y math asesiadau wedi’u llunio ar ffurf ymarferion ymarferol, lle mae ymagwedd fwy ymarferol yn dangos gallu’r myfyriwr i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau. Yn draddodiadol, caiff asesiad ffurfiol o fewn amser penodol ei gynnal drwy ddefnyddio profion ac arholiadau sydd, fel arfer, yn ddwy awr o hyd.
Mae arholiadau yn ffordd draddodiadol o wireddu mai gwaith y myfyrwyr eu hunain yw’r gwaith a gyflwynir. Er mwyn helpu dilysu gwaith cwrs y myfyriwr, y mae’n ofynnol mewn rhai modylau bod y myfyriwr a’r darlithydd yn trafod y testun a gaiff ei asesu ar sail unigol, gan adael y darlithydd i fonitro cynnydd.
Mae rhai modylau lle mae’r asesu’n seiliedig ar ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil i’r darlithydd a’r cymheiriaid ar lafar / yn weledol, a chaiff hyn ei ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb.
Mae’r math strategaethau asesu yn cyd-fynd â’r strategaethau dysgu ac addysgu a ddefnyddir gan y tîm, hynny yw, lle’r bwriad yw cynhyrchu gwaith sydd yn cael ei yrru bennaf gan y myfyriwr, gwaith unigol, adfyfyriol, a lle bo’n addas, yn alwedigaethol ei ffocws.
Caiff adborth ei roi i fyfyrwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod astudio, a bydd hyn yn parhau drwy gydol y sesiwn astudio gyfan, gan ganiatáu y caiff mwy o werth ei ychwanegu at ddysgu’r myfyriwr.