Sarah yn PCYDDS
Enw: Sarah Davies
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Fasiwn a Thecstilau (Safon Uwch)
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Sarah ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth am Goleg Celf Abertawe yw’r ymdeimlad o gymuned a’r awyrgylch clos. Rwy’n mwynhau astudio mewn amgylchedd creadigol llai yn fawr, am ei fod yn teimlo’n fwy personol a chefnogol.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais PCYDDS oherwydd bod y cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn teimlo’n amrywiol iawn ac yn agored yn greadigol. Roeddwn i wrth fy modd bod cymaint o wahanol gyfeiriadau i’w harchwilio, o brosesau traddodiadol i ddylunio digidol, ac fe safodd allan i mi ar unwaith am ei hymagwedd gefnogol ac ymarferol at ddysgu.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Tu allan i’r Brifysgol, rwy’n mwynhau llawer o wahanol hobïau ac yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored. Rwy’n arbennig o hoff o arddio, fforio a heicio, sy’n aml yn ysbrydoli fy ngwaith creadigol. Rwyf hefyd yn mwynhau teithio, ffotograffiaeth, ac archwilio gwahanol gelf a chrefftau.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar ôl graddio, rwy’n gobeithio parhau i adeiladu gyrfa yn y diwydiant creadigol, gan weithio’n ddelfrydol fel dylunydd llawrydd. Buaswn wrth fy modd yn parhau i ddatblygu fy arfer creadigol fy hun gan adeiladu cysylltiadau yn y diwydiant a chael rhagor o brofiad.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Un o’m hoff bethau am y cwrs yw faint mae’n annog arbrofi ac unigoliaeth. Mae wedi rhoi’r rhyddid i mi archwilio gwahanol brosesau creadigol, datblygu fy arddull weledol fy hun ac ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant trwy friffiau byw ac interniaethau. Rwyf hefyd wedi dwlu arf od yng nghanol grŵp o fyfyrwyr a staff eithriadol o dalentog, sydd wedi cyfrannu at amgylchedd creadigol mor bositif ac ysbrydoledig.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Heb os, buaswn yn argymell PCYDDS oherwydd bod y cwrs wedi fy helpu i fagu hyder, yn greadigol ac yn broffesiynol. Rwyf wedi gallu adeiladu sgiliau ymarferol, dysgu mwy am y diwydiant dylunio a gwthio fy ngwaith mewn cyfeiriadau newydd. Mae’r cymorth gan diwtoriaid a’r cyfle i weithio ar friffiau go iawn wedi gwneud y profiad yn wirioneddol foddhaus.
News
Mae Sarah Davies yn myfyrio ar ei dychweliad i addysg ar ôl 18 mlynedd, yn astudio Patrwm Arwyneb a Thecstilau. Mae’r blog personol hwn yn archwilio sut y bu briffiau byw, interniaethau a phrofiadau diwydiant, gan gynnwys Laura Ashley, yn ei helpu i ailadeiladu hyder, llywio ei chyfeiriad creadigol a pharatoi ar gyfer graddio a gyrfa yn y diwydiant dylunio.
Cynhaliodd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) arddangosfa o waith myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau a ddatblygwyd mewn ymateb i friff byw yn y diwydiant gan frand eiconig o Brydain, sef Laura Ashley.