Skip page header and navigation

Benjamin Davis PhD, MA, Tyst TESOL, BA (Anrh)

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Darlithydd

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Ffôn: 01267 676767
E-bost: b.davis@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Arweinydd modwl ar gyfer BMus Cyflwyno Perfformiad

Cefndir

Yn hanu o Gaerfaddon yn Lloegr, astudiodd Ben Davis Saesneg a llenyddiaeth gysylltiedig ym Mhrifysgol Efrog gydag ysgoloriaeth Erasmus i astudio Llenyddiaeth Ffrangeg a Chelf Fodern yn Saint Étienne. Mae ganddo MA mewn Cyfarwyddo Theatr o Goleg Goldsmiths, Llundain, lle arbenigodd mewn carnifalésg trwy brosiect ymchwil yn Rio a Salvador Bahia, Brasil. Ar ddechrau ei yrfa, bu’n addysgu EAP ym Mhrifysgol Ryngwladol Schiller ac yn gweithio mewn theatrau ar Gyrion Llundain ac yng Ngŵyl Caeredin cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyfarwyddwr Staff o 2001-2012. Yn Opera Cenedlaethol Cymru, bu’n cynorthwyo cyfarwyddwyr sefydledig ar gynyrchiadau teithiol cenedlaethol, yn cyfarwyddo sawl adfywiad yn ogystal â phrosiectau addysg, a’i gynyrchiadau cymunedol a phrif lwyfan ei hun. Ers 2012, mae wedi mwynhau gyrfa lawrydd ryngwladol yn gyfarwyddwr llwyfan, yn gweithio gyda chwmnïau opera a gwyliau rhanbarthol a chenedlaethol yn y DU, Ffrainc, yr Almaen, Awstria, yr Eidal, Sbaen, Denmarc, yr Iseldiroedd, Malta, Canada, Gogledd America, a Tsieina.

Ochr yn ochr â’i yrfa yn gyfarwyddwr opera, cwblhaodd Ben Davis ei draethawd ymchwil doethurol yn 2020: astudiaeth ar sail arfer o Berfformio Realaeth mewn cynyrchiadau opera cyfoes, wedi’i noddi gan y Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Opera a Drama, yn yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae hefyd yn Ymchwilydd Cysylltiol. Mae wedi byw yng Nghymru ers mwy nag 20 mlynedd, gan addysgu’n rheolaidd yn sector AU y DU wrth ddatblygu arfer proffesiynol a diddordeb ymchwil mewn ffurfiau perfformio cyfoes.

Aelod O

  • AGMA ac Equity Canada yn Gyfarwyddwr Opera

Diddordebau Academaidd

Ymchwilydd Cysylltiol

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd                                            

Cyd-drefnydd, cyflwynydd, a hwylusydd gweithdai rhyngddisgyblaethol ôl-raddedig rhwng Ysgolion MLANG a CHERDD gyda CIRO (Y Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol Opera a Drama) ac Opera Cenedlaethol Cymru yn 2018, 2019 a 2021, 2022: 

‘Ralph Koltai: Life and Adventures of an Enemy Alien. An interdisciplinary workshop extravaganza!’ ym Mhrifysgol Caerdydd, 20fed Mawrth 2018.

‘Understanding Opera: Adventures in Surtitling’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Mawrth 2019

‘The Languages of Opera, Translation and Adaptation: A Creative Workshop’, Mawrth 2021 a Mawrth 2022

‘Making Bhekizizwe’, cynhyrchiad ffilm digidol o fonodrama operatig, Mai 2021

Darlithydd Cysylltiol  

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd                                          

Addysgu ac asesu modylau israddedig: ‘Busnes Opera’, ‘Opera Eidaleg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’, ‘Astudiaethau Repertoire’, ac ‘O’r Dudalen i’r Llwyfan’

Prifysgol y Celfyddydau Llundain                                                                

BA Actio a Pherfformio, BA Theatr Gyfoes: addysgu ar 2 gynhyrchiad digidol a darlithoedd ar y Dudalen i’r Llwyfan, Realaeth Gyfoes, a Gwrthwynebiad i Gynhyrchu mewn Perfformio a gyflwynwyd ar draws 3 modwl dysgu cyfunol 

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant                                       

MA Astudiaethau Lleisiol Uwch, cynllunio a chyflwyno dosbarthiadau actio pwrpasol 

Arweinydd modwl BMus Cyflwyno Perfformiad

Meysydd Ymchwil

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Perfformio fel cyfeiriannu 
  • Arfer fel Ymchwil 
  • ‘A/r/tography’ 
  • Rhywedd a pherfformio 
  • Trothwyoldeb 
  • Realaeth ddeialogaidd a beirniadol 
  • Perfformiad diwylliannol materol ac anfaterol 
  • Cynyrchiadau opera cyfoes 

Gwobrau Opera Rhyngwladol

  •  Première Byd, gweithio fel collaborateur artistique à la mise-en-scène ar gyfer Written On Skin gan George Benjamin a Martin Crimp yng Ngŵyl Aix-en-Provence. 
  • DVD, gweithio yn Gyfarwyddwr Adfywiadau ar gyfer Gianni Schicchi gan Giacomo Puccini yn rhan o Il Trittico yn ROH Covent Garden. 

Arbenigedd

Mwy nag ugain mlynedd yn gweithio yn gyfarwyddwr opera proffesiynol a chyfarwyddwr adfywiadau ar draws repertoire eang, o brosiectau stiwdio i blatfformau cyngerdd, i dai opera mawr a gwyliau rhyngwladol, fel y rheiny yng Nghaerdydd, Salzburg, Aix-en-Provence, Amsterdam, a Beijing.

Arbenigedd mewn llwyfannu a lled-lwyfannu opera cyfoes, sydd wedi cynnwys première byd o Written On Skin gan Martin Crimp a George Benjamin a enillodd Wobr Opera Ryngwladol, yn ogystal â première y DU o As One, ar thema drawsryweddol, gan Laura Kaminsky, Kimberley Reed a Mark Campbell, a’r première byd digidol a byw o Bhekizizwe, gan Robert Fokkens a Mkhululi Mabija.

Hefyd â phrofiad o gyfarwyddo perfformiadau byw ar gyfer y cyfryngau wedi’u recordio fel darllediadau ar y teledu, y rhyngrwyd, a’r sinema.

Darlithydd a Chyfarwyddwr Gwadd mewn Conservatoires yn y DU                                                           

  • Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru                    

  • MA a BA Dylunio ar gyfer Prosiectau Perfformio (Opera)

  • Golygfeydd Opera                                                                                                                

  • Preswylfeydd y Stiwdio Opera Genedlaethol gydag Opera Cenedlaethol Cymru                             

  • Cynyrchiadau ar gyfer Conservatoire Brenhinol Ysgol Opera’r Alban:

  • ‘Sir John in Love’ gan Vaughn Williams 

  • ‘La Rondine’, gan Giacomo Puccini

Gweithgareddau ,emt

  • Gwaith ymgynghori celfyddydol ar gyfer prosiect Arloesi ac Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd ynghylch Bhekizizwe

  • Aelod o Bwyllgor Llywio’r Diwydiant, Prifysgol Bath Spa, Adran y Celfyddydau Perfformio 

  • Ymgynghorydd Arbenigol i Brifysgol Bath Spa, Adran y Celfyddydau Perfformio, Cwrs Gradd Sylfaen 

Publications

Ysgolheigaidd:

Erthyglau mewn Rhaglenni Opera:

  • Bhekizizwe, ‘Staging Bhekizizwe: It takes a village…’, Opera’r Ddraig, Cymru 2022: 

  • The Queen of Spades, ‘Obsession and collision in Tchaikovsky’s The Queen of Spades’, Erthygl Nodwedd a Nodyn y Cyfarwyddwr, Lyric Opera of Chicago, UDA 2020

  • Ariodante ‘Director’s Note’, Lyric Opera of Chicago, UDA 2019

  • Ariodante ‘Director’s Note’, Canadian Opera Company 2016

  • Cosi fan tutte, ‘The Arabian Phoenix’, Opera Cenedlaethol Cymru 2011 a 2012

  • Hansel and Gretel, ‘Director’s Note’, Portland Opera, UDA 2010

  • Il trittico, ‘Time is essential’, Opera Zuid, Yr Iseldiroedd 2007

Mewnwelediad Cynhyrchu a Deunydd Cyfweld Ar-lein:

Gwybodaeth bellach

Aelod pwyllgor cynhadledd ar gyfer Diwrnod Astudio ‘Musical Mapping’ ym Mhrifysgol Caerdydd, 18fed Mehefin 2019, a noddwyd gan yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme

Papurau a chyflwyniadau mewn cynadleddau academaidd

‘Lifting Realism off the Floor’, yng Nghynhadledd OBERTO ar ‘Operatic Acting’ ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen. 

Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd:
Darlith Bird

‘Finding Hannah “in-between”: an experiment in liminality and a/r/tography’ ynghylch digwyddiad première y DU o As One, yn cynnwys y dawnsiwr trawsryweddol, Jarry Glavin, ar gyfer y Lontano Festival of American Music yn Llundain 2021. 

‘Opera as Diamond Ring and Other Valuables’ yn dilyn ethnograffeg ar sail cyfweliadau gyda gweithwyr opera proffesiynol

‘Dialogue as a research methodology’ 

Khovanshchina and the Centenary of the Russian Revolution’ yn dilyn fy adfywiad o gynhyrchiad Syr David Poutney ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.