Llun a Chyflwyniad
Darlithydd mewn Treftadaeth a Diwylliant Bwyd Cymru
Tir Glas
Ffôn: 01792 123456
E-bost: c.graves@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Arwain datblygiad cwricwlwm ar gyfer astudiaethau bwyd cynaliadwy yng Nghanolfan Tir Glas
Cefndir
Gyda llawer o flynyddoedd o brofiad yn y sector elusennol cyn ymuno â’r Brifysgol, rwy’n ymwneud yn fawr ag ymdrechion y gymdeithas sifil mewn perthynas â bwyd yng Nghymru. Ar hyn o bryd rwy’n cadeirio Partneriaeth Bwyd Sir Gâr, yn darlledu’n rheolaidd ar faterion bwyd ac yn aelod o weithgor afalau treftadaeth Cymru. Mae fy llyfr newydd, Tir: The Story of the Welsh Landscape, yn cynnig golwg eang ar y rhagamodau angenrheidiol ar gyfer bwyd da – tirwedd fyw.
Meysydd Ymchwil
- Hanes bwyd Cymru;
- Diwylliannau bwyd brodorol yng Ngorllewin Ewrop;
- Tyfiant a diwylliant afalau yn Ynysoedd Prydain;
- Amaethyddiaeth gynaliadwy;
- Hanes tirwedd Cymru.
Cyhoeddiadau
- Apples of Wales (2018)
- Afalau Cymru (2018)
- Welsh Food Stories (2022) – “llyfr polisi bwyd gorau yn 2022” [Food Programme BBC Radio 4]
- Tir: The Tale of the Welsh Landscape(ar y gweill)
- Y Cymry a’u bwyd: Thema yn hanes ein Llên, Y Traethodydd, Hydref 2022
- Ysbryd Morgan a’r Meddwl Cymraeg, Y Traethodydd, Gorffennaf 2021
- Beth yw Collapse yn Gymraeg? O’r Pedwar Gwynt, Gaeaf 2021
- Pam na fu bwyd Cymru? O’r Pedwar Gwynt, Gwanwyn 2022
Gwybodaeth bellach
Prif siaradwr yn y canlynol:
- Cynhadledd Bwyd a Ffermio Go Iawn Cymru (2020)
- Sgyrsiau blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru (2022)
- Darlith Eisteddfod Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2024)